Llysgennad Sioraidd i'r DU yn ymweld â PDC
23 Mawrth, 2023
Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) y Llysgennad Sioraidd i’r Deyrnas Unedig, Ei Hardderchowgrwydd Sophie Katsarava MBE, i’w Champws yng Nghasnewydd ddydd Llun 20 Mawrth.
Mae Casnewydd wedi'i gefeillio â dinas Sioraidd Kutaisi ers 1989. Roedd yr ymweliad yn cydnabod y cysylltiadau rhwng y ddwy ddinas, ac fe'i trefnwyd gan Gymdeithas Gefeillio Casnewydd-Kutaisi (NKTA).
Fel rhan o’i hymweliad, cyfarfu’r Llysgennad â staff a myfyrwyr y Brifysgol, yn ogystal ag uwch swyddogion o Gasnewydd gan gynnwys Maer Casnewydd, y Cynghorydd Martyn Kellaway, ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd. Cyfarfu'r Llysgennad hefyd ag aelodau o'r NKTA.
Dywedodd Jamie James, Deon Cyswllt y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn PDC: “Mae ymweliad dydd Llun gan Ei Ardderchogrwydd yn nodi carreg filltir yng ngwaith y Brifysgol, Cymdeithas Gefeillio Casnewydd-Kutaisi, a Phrifysgol Talaith Akaki-Tsereteli yn Kutaisi, Georgia, i ailddatgan ein cysylltiadau hirsefydlog ac i wella ein hymdrech ar y cyd ymhellach, er budd dinasoedd Casnewydd a Kutaisi.
“Rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnaed gan yr holl gydweithwyr i gefnogi ein nodau cyffredin ac edrychaf ymlaen at berthynas ffrwythlon a chadarnhaol wrth symud ymlaen.”
Dywedodd Ei Hardderchowgrwydd Sophie Katsarava MBE: “Roedd yn bleser gennyf ymweld â Phrifysgol De Cymru fel rhan o’m taith i Gymru – cefais gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr PDC sy’n parhau i gefnogi’r cysylltiadau llwyddiannus rhwng ein gwledydd.
“Mae cryfhau cysylltiadau addysgol a diwylliannol yn cyfrannu at ddod â’n gwledydd yn agosach a gwneud ein cyfeillgarwch yn un cryf. Rwy’n ddiolchgar i PDC a’n holl westeion yng Nghasnewydd am drafodaethau cynhyrchiol, ac edrychaf ymlaen at ein cydweithrediad parhaus.”