Pam mae cymaint o ofn clowns arnon ni? Dyma’r hyn rydyn ni wedi ei ddarganfod

7 Mawrth, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Clown.jpg

Gan Sophie Scorey, ymchwilydd PhD, James Greville, Darlithydd mewn Seicoleg, Philip Tyson, Athro Cyswllt mewn Seicoleg, a Shakiela Davies, Darlithydd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl.

Oes ofn clowns arnoch chi? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae coulrophobia, neu ofn clowns, yn ffenomen a gydnabyddir yn eang. Mae astudiaethau’n dangos bod yr ofn hwn yn bresennol ymhlith oedolion a phlant mewn llawer o ddiwylliannau gwahanol. Ond does dim  dealltwriaeth dda ohono oherwydd diffyg ymchwil â ffocws.

Er bod nifer o esboniadau posibl o'r ffobia wedi'u cynnig mewn llenyddiaeth academaidd, nid oedd unrhyw astudiaethau wedi ymchwilio'n benodol i'w wreiddiau. Felly aethon ni ati i ddarganfod y  rhesymau pam mae clowns yn codi ofn ar bobl, ac i ddeall y seicoleg y tu ôl iddo. Roeddem hefyd am archwilio pa mor gyffredin mae ofn clowniau mewn oedolion ac edrych ar ddifrifoldeb yr ofn yn y rhai a adroddodd hynny.

I wneud hyn, gwnaethom ddyfeisio holiadur seicometrig i asesu pa mor gyffredin mae coulrophobia, a’i ddifrifoldeb. Cwblhawyd yr Holiadur Ofn Clowns gan sampl ryngwladol o 987 o bobl rhwng 18 a 77 oed.

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (53.5%) bod ofn clowns arnyn nhw i ryw raddau o leiaf, gyda 5% yn dweud eu bod yn codi "ofn mawr iawn” arnyn nhw. Yn ddiddorol, mae'r ganran hon sy'n adrodd ofn mawr iawn o glowns ychydig yn uwch na'r rhai a adroddir am lawer o ffobias eraill, fel anifeiliaid (3.8%), gwaed/chwistrelliadau/anafiadau (3.0%), uchder (2.8%), dŵr llonydd neu ddigwyddiadau tywydd (2.3%), mannau caeedig (2.2%), a hedfan (1.3%).

Gwelsom hefyd fod clowns yn codi mwy o ofn ar fenywod nag ar ddynion. Nid yw'r rheswm am y gwahaniaeth hwn yn glir, ond mae'n adleisio canfyddiadau ymchwil ar ffobias eraill fel ofn nadroedd a chorynod. Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod coulrophobia yn lleihau wrth heneiddio, sydd eto'n cyd-fynd ag ymchwil i ofnau eraill.

Gwreiddiau'r ofn hwn

Ein cam nesaf oedd archwilio tarddiad yr ofn mae clowns yn ei godi ar bobl. Rhoddwyd holiadur dilynol i'r 53.5% a oedd wedi adrodd o leiaf rhyw faint o ofn clowns. Roedd y set newydd hon o gwestiynau'n ymwneud ag wyth esboniad credadwy ar gyfer tarddiad yr ofn hwn, fel a ganlyn:

·        Teimlad anghynnes neu annifyr oherwydd colur clowns, sy’n gwneud iddyn nhw edrych yn annynol. Gwelir ymateb tebyg weithiau gyda doliau neu fanecwiniaid.

  • ·        Nodweddion gor-amlwg wynebau clowns yn cyfleu ymdeimlad uniongyrchol o fygythiad.
  • ·        Colur clowns yn celu signalau emosiynol ac yn creu ansicrwydd.
  • ·        Lliw colur clowns yn ein hatgoffa o farwolaeth, haint neu anaf, ac yn ysgogi ffieidd-dra neu awydd i’w hosgoi.
  • ·        Ymddygiad anrhagweladwy Clowns yn ein gwneud ni'n anghyfforddus.
  • ·        Ofn clowns wedi'i ddysgu gan aelodau'r teulu.
  • ·        Portreadau negyddol o glowns mewn diwylliant poblogaidd.
  • ·        Profiad brawychus gyda chlown.

Yn ddiddorol iawn, gwelsom mai gyda’r esboniad olaf hwnnw, o fod wedi cael profiad personol brawychus gyda chlown, yr oedd lleiaf yn cytuno. Mae hyn yn dangos nad yw profiad bywyd yn unig yn esboniad digonol o ran pam mae clowns yn codi ofn ar bobl.

Ar y llaw arall, roedd portreadau negyddol o glowns mewn diwylliant poblogaidd yn ffactor oedd yn cyfrannu llawer mwy at coulrophobia. Mae hyn yn ddealladwy gan mai nod rhai o'r clowns amlycaf mewn llyfrau a ffilmiau yw codi braw – fel Pennywise, y clown brawychus yn nofel 1986 Stephen King, It. (Ymddangosodd y cymeriad hwn yn fwyaf diweddar mewn dwy ffilm yn 2017 a 2019, gyda Bill Skarsgård yn y brif rôl.)

Fodd bynnag, mae Ronald McDonald, masgot y gadwyn bwyd cyflym, yn codi ofn ar rai - ac nid peri  braw yw ei nod e. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod rhywbeth mwy sylfaenol am olwg clowns yn peri anesmwythyd i bobl.

Y ffactor amlycaf a ddaeth i’r amlwg oedd signalau emosiynol cudd, sy'n awgrymu bod ofn clowns yn deillio o beidio â gallu gweld mynegiant yr wyneb oherwydd y colur. Allwn ni ddim gweld eu "gwir" wynebau ac felly dydyn ni ddim yn deall eu bwriad emosiynol. Dydyn ni ddim yn gwybod, er enghraifft, ydyn nhw’n gwgu neu a oes ganddyn nhw grych yn y talcen, fyddai'n arwyddion o deimlo’n ddig. Mae methu â deall yr hyn sydd ym meddwl clown, neu ragweld beth y gallai ei wneud nesaf, yn gwneud rhai ohonon ni’n anesmwyth pan fyddwn ni o'u cwmpas.

Mae'r ymchwil hon wedi rhoi cipolwg newydd ar pam mae ofn clowns ar bobl – ond mae cwestiynau heb eu hateb o hyd. Er enghraifft, os yw colur sy'n cuddio emosiynau yn codi ofn ar bobl, ydy pobl sydd â'u hwynebau wedi'u paentio fel anifeiliaid hefyd yn creu'r un math o effaith? Neu oes yna rywbeth mwy penodol am golur clowns sy'n ysgogi'r ofn yma? Dyma’r ffocws erbyn hyn i’r ymchwil sydd ar y gweill gennym o hyd. 

Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation dan Drwydded Creative Commons. Darllen yr erthygl wreiddiol.