Partneriaeth ymchwil dan arweiniad PDC yn sicrhau contract gwerth miliwn o bunnoedd
27 Mawrth, 2023
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod partneriaeth a arweinir gan Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi cael contract gwerth cyfanswm o fwy na £1m ar gyfer gwerthusiad cenedlaethol o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF).
Mae’r rhaglen waith tair blynedd yn gydweithrediad rhwng PDC, Prifysgol Abertawe, OB3 Research, Prifysgol Gorllewin yr Alban, a Phrifysgol Bangor.
Wedi’i lansio yn gynnar yn 2022, mae’r RIF – sy’n werth tua £150 miliwn y flwyddyn – wedi darparu ffocws o’r newydd ar ofal yn y gymuned, iechyd a llesiant emosiynol, gan gefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, plant sydd wedi bod mewn gofal, gwasanaethau o’r ysbyty i’r cartref a datrysiadau seiliedig ar lety.
Dywedodd yr Athro Mark Llewelyn, Cyfarwyddwr WIHSC: “Mae ein partneriaeth wedi’i chomisiynu i ddeall y ffordd y mae’r RIF yn cyflawni’r addewid trawsnewidiol a nodwyd ganddi.
“Nod gwerthusiad y RIF yw deall effaith gwahanol fodelau gofal. Byddwn yn ymchwilio i gostau economaidd a manteision y modelau hynny ac yn ymchwilio i ba raddau y maent yn sicrhau’r canlyniadau cywir i bobl.
“Gofynnwyd i ni archwilio a yw’r modelau gofal hynny wedi profi’n effeithiol, ac os felly, sut y gallant gynnig ‘templedi’ i’r system ehangach ddysgu oddi wrthynt fel bod Cymru gyfan yn elwa.”
Wrth gyhoeddi penodiad y bartneriaeth yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS: “Mae’r pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i’n herio.
“Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bobl allu byw eu bywydau i’r eithaf mor annibynnol â phosib yn eu cymunedau eu hunain. Mae gallu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio fel system gyfan yn hanfodol gan fod mwy o bobl yn byw’n hirach, weithiau’n rheoli cyflyrau iechyd lluosog, a chydag anghenion gofal a chymorth amrywiol.
“Mae dysgu a gwella yn rhan bwysig o’n hethos ar gyfer datblygu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n bleser gennyf felly gyhoeddi, ar ôl proses dendro gystadleuol, ein bod wedi sicrhau gwasanaethau Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad ag OB3 a Phrifysgolion Bangor ac Abertawe, i gynnal gwerthusiad o'n RIF.
“Mae'n amlwg bod y RIF, yn ei blwyddyn gyntaf, wedi dechrau datblygu dull partneriaeth go iawn o fuddsoddi mewn gwasanaethau integredig yn y tymor hir. Byddaf yn cymryd diddordeb mawr i weld sut mae ein modelau cenedlaethol o ofal integredig yn parhau i esblygu dros y flwyddyn nesaf.”