PDC a Chwm Taf Morgannwg yn lansio atgyfeiriadau iechyd meddwl uniongyrchol

21 Mawrth, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Counselling_nsjLovz.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio gwasanaeth atgyfeirio iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr.

Bydd y Llwybr Iechyd Meddwl Prifysgol (LlIMP) yn galluogi myfyrwyr sy'n byw ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, a Phen-y-bont ar Ogwr gael mynediad at asesiadau a chyngor iechyd meddwl trwy atgyfeiriad gan Wasanaeth Lles ac Anabledd PDC.

Yn dilyn apwyntiad ac asesiad cyfrinachol, mae Cynghorwyr Iechyd Meddwl PDC bellach yn gallu atgyfeirio myfyrwyr yn uniongyrchol at y GIG, os oes pryderon cymedrol i ddifrifol am iechyd meddwl neu ar gyfer materion iechyd meddwl cymhleth/hirsefydlog.

Mae hyn wedi'i gyflwyno yn sgil rhaglen beilot Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Prifysgolion y GIG (GCIMP) yn 2022 ar gyfer myfyrwyr oedd yn byw yn ardal Caerdydd.

Dywedodd Sharon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr PDC: "Mae hwn yn ddatblygiad gwych sy'n cyfrannu at ymdrechion PDC i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar sy'n blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr.  Bydd gallu atgyfeirio’n uniongyrchol yn sicrhau ymyrraeth brydlon ac effeithiol fydd yn galluogi myfyrwyr i ffynnu yn academaidd ac yn bersonol.  Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr am yr amser a'r ymdrech sydd wedi eu buddsoddi yn y gwaith partneriaeth hwn. "

Dywedodd Tracey Larson, Rheolwr Gwasanaeth Clinigol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol Cwm Taf Morgannwg: "Mae’n ein cyffroi’n fawr ein bod yn cydweithio gyda Gwasanaeth Lles PDC i sicrhau bod llwybrau di-dor a phrydlon ar waith i asesu iechyd meddwl a threfnu ymyriadau ar gyfer myfyrwyr sydd efallai angen y gefnogaeth y gall y Gwasanaeth Iechyd Meddwl ei ddarparu ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y Brifysgol."

Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Lles PDC ar gael yn Llesiant | Gwasanaeth Llesiant PDC.