Penodwyd tîm dylunio ar gyfer adeilad arfaethedig newydd ar Gampws Trefforest PDC
31 Mawrth, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/03-march/The_proposed_new_site_of_a_new_building_at_the_Treforest_Campus.jpg)
Safle'r adeilad arfaethedig newydd ar Gampws Trefforest PDC
Mae tîm dylunio wedi cael ei benodi i lunio cynlluniau ar gyfer adeilad newydd ar gampws Trefforest y brifysgol.
Bydd y tîm – o gwmni pensaernïaeth Stride Treglown a pheirianwyr Arup – yn gweithio gyda'r Brifysgol i greu cynlluniau ar gyfer gofod addysgu a dysgu arloesol a chydweithredol fydd yn gartref yn bennaf i'r meysydd pwnc Peirianneg, Gwyddor Data a Chyfrifiadureg, ond fydd ar gael i'r Brifysgol gyfan.
Mae'r Brifysgol yn adnabyddus am ei dull ymarferol o ddysgu gyda chyfleusterau efelychiadol o ansawdd uchel, yn trochi myfyrwyr yn eu meysydd dewisol i ddysgu'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd yr adeilad newydd yn adlewyrchu agwedd arloesol PDC at ddylunio cwricwla cyfoes, gyda gofodau hyblyg technolegol a datblygedig. Bydd cymdogaethau o weithgarwch rhyngddisgyblaethol ar sail rhaglenni o fewn yr adeilad, fydd yn gartref i bynciau penodol, ond hefyd yn annog cydweithio ac arloesi.
Bydd yr adeilad yn rhoi lle teilwng i waith ein myfyrwyr ac effaith ein hymchwil, ac yn cynnig croeso i’n partneriaid diwydiannol greu a chyflwyno cwricwla’n seiliedig ar her a gweithio gyda ni ar ymchwil ac arloesi. Bydd yn arwain y Brifysgol at ddimensiwn newydd o ran y ffordd mae’n defnyddio gofod ar gyfer addysgu, ymchwilio, dysgu, ac asesu, gan drawsnewid sut y caiff pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) eu cyflwyno yn PDC. Yn cyd-fynd â nod PDC o fod yn garbon niwtral erbyn 2040, bydd yr adeilad wedi'i gynllunio i fod yn wyrdd ac yn gynaliadwy, gyda pherfformiad amgylcheddol o safon uchel.
Y bwriad yw codi'r cyfleuster newydd ar dir gwag ar waelod campws Trefforest, lle cafodd dau adeilad eu dymchwel yn 2019 a 2022.
Yn dilyn proses ddylunio, cynllunio ac ymgynghori gynhwysfawr, a chymeradwyaeth derfynol gan ein Bwrdd Llywodraethwyr, y gobaith yw y bydd yr adeilad newydd yn cael ei gwblhau a’i ddefnyddio yn 2026.
Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: "Mae penodi tîm dylunio i weithio gyda ni ar y prosiect cyffrous hwn yn gam arwyddocaol ymlaen. Mae'r cynigion ar gyfer adeilad fydd yn helpu i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n cyflwyno pynciau STEM yn PDC yn gyffrous ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Stride Treglown ac Arup i droi ein syniadau’n gyfleuster newydd arloesol a rhagorol."