Ydy gwasanaethau cymdeithasol Cymru’n gwireddu addewidion deddfwriaeth allweddol?
30 Mawrth, 2023
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad terfynol gwerthusiad pedair blynedd o ‘Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014' heddiw. Mae'r canfyddiadau'n cydnabod ymrwymiad ac ymroddiad y gweithlu gofal a chymorth, a’u gallu i addasu, ond mae hefyd yn rhoi tystiolaeth o heriau sy'n parhau wrth gyflawni dyheadau'r Ddeddf.
Wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru, mae'r astudiaeth genedlaethol hon yn asesiad annibynnol a gwrthrychol o’r ffordd mae’r Ddeddf yn cael ei gweithredu, a’i heffaith ar les unigolion sydd angen gofal a chymorth, eu gofalwyr di-dâl, a’r system gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd yr astudiaeth EFFAITH, dan arweiniad Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), yn cynnwys gwaith gan academyddion mewn pedair prifysgol yng Nghymru. Roedd y bartneriaeth yn cynnwys cydweithwyr o Brifysgolion Metropolitan Caerdydd, Abertawe a Bangor, a Chanolfan PRIME Cymru. Cafodd gefnogaeth gan y Grŵp Cyfeirio Astudio Arbenigol gyda'i dri chyd-gadeirydd o blith y cyhoedd.
Roedd y rhaglen waith yn cynnwys 11 o astudiaethau unigol. Rhoddodd 450 o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru gyfraniadau manwl a chynhwysfawr yn sôn am eu profiadau dan y Ddeddf, o amryw safbwyntiau.
Yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr WIHSC, oedd cyd-arweinydd yr astudiaeth Effaith gyda'r Athro Fiona Verity o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol Abertawe. Dywedodd yr Athro Llewellyn: "Rydym yn dod i’r casgliad bod y Ddeddf, a'r egwyddorion sy'n sail iddi, yn darparu fframwaith, â chefnogaeth dda, ar gyfer darparu a thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol.
"Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ystyried y newidiadau digynsail rydyn ni i gyd wedi'u hwynebu ers gweithredu'r Ddeddf. Mae ffactorau’n codi o’r pandemig iechyd cyhoeddus byd-eang, yr argyfwng o ran gweithlu, a'r argyfwng costau byw, ynghyd â heriau mwy hirdymor yn ymwneud â demograffeg a llymder, i gyd wedi cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau lles pobl."
Mae'r adroddiad yn nodi 19 o gwestiynau 'prawf', yn seiliedig ar dystiolaeth, i Lywodraeth Cymru ac ystod o randdeiliaid eu hystyried. Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn i'r sector gyfan ystyried yr hyn sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys safon a digonolrwydd gofal cymdeithasol. Mae hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau y gwrandewir ar bobl, a sicrhau y gallan nhw wir fod yn rhan o benderfyniadau ar y gofal a’r gefnogaeth maen nhw’n eu derbyn.
Ychwanegodd yr Athro Verity: "Sefydlwyd fframwaith y Ddeddf i alluogi newid yn y ddarpariaeth gofal a chymorth. Byddai canlyniad yr holl weithgarwch hwn yn cael ei adlewyrchu ym mhrofiadau'r rhai sy'n derbyn gofal a chymorth, ac ymhen amser, yn arwain at wella lles defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, a chreu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.
"Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, nid yw hyn wedi’i wireddu eto ar lefel y system gyfan. Y cwestiwn nawr yw i ba raddau y mae'r sector yn ei chyfanrwydd yn credu y gallai fod modd ailddatgan pwrpas cyffredin a mynd i'r afael â'r materion hyn gyda'i gilydd."
Dywedodd yr Athro Llewellyn: "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i fod yn rhan o'r astudiaeth hon. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r defnyddwyr gwasanaethau a’r gofalwyr a neilltuodd amser i siarad â ni. Gobeithiwn eu bod yn teimlo ein bod wedi cynrychioli eu safbwyntiau, ac y bydd eu tystiolaeth yn helpu i lywio'r hyn sy'n digwydd nesaf gyda'r Ddeddf. "
Dywedodd Julie Morgan AoS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: "Mae gwerthuso'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cydnabod bod dal angen gwaith i wireddu'r Ddeddf. Mae'r Ddeddf hon yn bwysicach nawr nag y bu erioed, ac mae gweledigaeth gyffredin yng ngwaith y Grŵp Arbenigol o ran sut y gellir gwella gofal a chymorth yng Nghymru. Ein cam nesaf fydd ystyried sut y gallwn, gyda rhanddeiliaid ledled y sector, adnewyddu ac ail-ffocysu ein hymdrechion ar y cyd i sicrhau bod yr egwyddorion craidd yn cael eu gwireddu."