Anrhydeddu cwrs Meistr PDC yng Ngwobrau Fintech
15 Medi, 2023
Daeth Prifysgol De Cymru (PDC) i’r brig yn un o’r 16 categori yng Ngwobrau Fintech Cymru.
Enillodd cwrs Meistr mewn Gwyddor Data PDC yr anrhydedd am gynnig Rhaglen Academaidd Orau’r Flwyddyn i Gefnogi Cwmnïau Fintech / FS yn erbyn cyrsiau gan Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Cynlluniwyd Gwobrau Fintech Cymru i gydnabod, denu a buddsoddi yn y Cwmnïau Fintech talentog a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru. Maent yn tynnu sylw at lwyddiannau’r sector Fintech llewyrchus ledled y wlad, gan ddod ag arloeswyr ac arbenigwyr digidol mwyaf blaenllaw Cymru ynghyd.
Dywedodd Dr Rebecca Peters, sy’n Bennaeth Pwnc Cyfrifiadureg a Mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru: “Mae’r cyflawniad rhyfeddol hwn yn dyst gwirioneddol i ymroddiad ac ymdrechion diflino ein tîm eithriadol i gefnogi ein myfyrwyr a’r diwydiant.
“Hoffwn longyfarch ein harweinydd cwrs rhyfeddol, Ieuan Griffiths. Ei weledigaeth a’i ymrwymiad ef sydd wedi bod wrth wraidd llunio’r cwrs llwyddiannus hwn.
“Wrth i ni barhau i ddarparu addysg ragorol yn y maes gwyddor data, mae’r gydnabyddiaeth hon yn gymhelliant mawr. Mae’n destun balchder aruthrol, ac yr wyf yn edrych ymlaen at fwy fyth o gyflawniadau yn y dyfodol.”