PDC ar restr fer THE ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn
7 Medi, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cyrraedd rhestr fer Times Higher Education (THE) ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn.
Mae gwobrau'r THE yn cael eu hadnabod yn eang fel yr 'Oscars addysg uwch' ac maent yn dathlu ystod eang o gyflawniadau.
Cyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 7 Medi) fod PDC yn un o’r prifysgolion ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn, sy'n cydnabod sefydliadau a ddangosodd berfformiad eithriadol yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22.
Enwebwyd y Brifysgol am yr effaith y mae wedi'i chael ar eraill yn ystod 2021-22, gan gynnwys:
- Creu hyfforddiant a chwricwlwm dan arweiniad defnyddwyr fel Academi Dysgu Dwys Trawsnewidiad Digidol gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys.
- Ein gwaith i ddatblygu ecosystem sy'n cefnogi entrepreneuriaid a arweiniodd at fwy na 3,200 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau menter a chychwyn 75 busnes newydd gan fyfyrwyr a graddedigion PDC yn 2021-22.
- Ail-arwyddo’r bartneriaeth strategol gyda phum partner AB gyda chynllun gwaith cydweithredol sy’n cynnwys blaenoriaethau academaidd, galwedigaethol a rhanbarthol, sgiliau, llwybrau dilyniant, datblygu cwricwla, ymgysylltu â'r diwydiant ac ymchwil gymhwysol.
Mae Dr Cheryl Allsop hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer fel Athro Mwyaf Arloesol y Flwyddyn ac mae’r Athro Ruth Northway ar restr fer Goruchwyliwr Ymchwil Eithriadol y Flwyddyn.
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru: “Rwy'n falch iawn fod y Brifysgol ar restr fer y THE ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn a bod ein cydweithwyr wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn categorïau unigol. Mae hyn oherwydd gwaith ac ymroddiad ein holl gydweithwyr yn PDC a’r ffocws sydd ganddynt ar ddarparu addysg, ymchwil ac arloesi effeithiol.
“Yn ystod 2021-22, gwnaethom ganolbwyntio ar integreiddio addysg ac ymchwil ag anghenion ein partneriaid a buom yn gweithio i gryfhau economïau a chymunedau lleol trwy ddatblygu a defnyddio doniau a gwybodaeth gyfunol i greu dyfodol gwell. Roedd hyn yn arbennig o bwysig gan fod y rhanbarth yn dal i wella ar ôl y pandemig.
“Rydym yn falch o sut rydym yn gweithio gydag eraill, gan ganolbwyntio ar eu hanghenion, a'u cefnogi i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl. Boed hynny'n gwneud AU yn hygyrch i ddysgwyr symud ymlaen yn llwyddiannus, cynorthwyo entrepreneuriaid lleol i ffynnu, mynd i'r afael â heriau byd-eang gyda'n partneriaid, neu sicrhau bod gan y sectorau rydym yn gweithio â nhw weithluoedd medrus nawr, ac yn y dyfodol. Rydym yn gwrando, yn arloesi ac yn llwyddo i gyflawni ar gyfer gwell yfory.”