Prosiect gwirfoddolwyr heddlu unigryw PDC
6 Medi, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi lansio ‘Gwirfoddoli Rhithwir’, amgylchedd ar-lein lle gall defnyddwyr ymgysylltu â chwilio am ateb i broblemau plismona.
Gan weithio’n agos gydag Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru, a elwir yn Tarian, a Chydlynydd Dinasyddion mewn Plismona Cymru Gyfan, mae’r rhaglen wedi’i dylunio fel bod staff a myfyrwyr yn gallu cael mynediad at gyflwyniadau fideo a modiwlau i’w cwblhau.
Mae’r rhaglen ‘gyntaf o’i bath’ yn mynd i’r afael â phroblemau gwirioneddol a wynebir gan yr heddlu. Nid yw’n broses ymgynghori, ond mae’n rhoi cyfle i greu ymgysylltiad cyhoeddus, tawelwch meddwl a hyder yn yr heddlu.
Un o’r materion y mae Tarian yn ceisio atebion arloesol iddo yw ‘Mulod Arian’, lle mae myfyrwyr o Tsieina yn arbennig o agored i gael eu gorfodi i ganiatáu i grwpiau troseddau trefniadol gael mynediad at eu cyfrifon banc yn y DU. Mae’r ‘Mulod Arian’, ac weithiau aelodau o’r teulu, wedi wynebu bygythiadau a digwyddiadau o drais. Mae’r heddlu eisiau rhybuddio myfyrwyr rhyngwladol am hyn ond mae dulliau traddodiadol, fel darparu taflenni cynghori neu ddarlithoedd, wedi bod yn aneffeithiol. Gall y gwirfoddolwyr gyflwyno atebion mewn amrywiol ffyrdd, megis fideos TikTok, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, neu gynigion ysgrifenedig. Gwahoddir gwirfoddolwyr i fod mor greadigol ag y dymunant fod.
Mae'r rhaglen yn agored i fyfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol, gan ymgysylltu â llawer o wahanol ddisgyblaethau, megis seicoleg, troseddeg, astudiaethau plentyndod, cyfrifiadureg, cyfrifeg, ac ati.
Dywedodd Dr Martin Wright, Swyddog Heddlu wedi ymddeol a Chymrawd Gwadd PDC: “Rwy’n gwirfoddoli gyda Heddlu Dyfed Powys, felly rwy’n deall bod materion, fel fetio a mynediad i orsafoedd heddlu, yn creu rhwystrau i bobl wirfoddoli.
“Rydyn ni’n byw mewn hinsawdd lle mae yna ddrwgdybiaeth o’r heddlu, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, felly roedden ni eisiau ceisio cyflawni dau beth; creu amgylchedd lle gallai pobl wirfoddoli i'r heddlu yn hawdd, ond hefyd ymgysylltu'n gadarnhaol â grwpiau o unigolion na fyddent fel arfer yn ymgysylltu.
“Ar ôl ei gwblhau, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn llythyr o werthfawrogiad gan Tarian, ac maent yn cael profiad gwaith y gallant fyfyrio arno mewn ceisiadau am swyddi yn y dyfodol.
“Ymhen amser, rydyn ni’n bwriadu ehangu hyn i bob un o’r tri heddlu yn Ne Cymru.”
Dywedodd Denise Lodge, Cydlynydd Dinasyddion Mewn Plismona Cymru Gyfan: “Mae gwirfoddoli yn darparu ychwanegedd hanfodol ar draws plismona ac mae’n cyfrannu’n weithredol at lawer o flaenoriaethau plismona lleol.
“Mae’n allweddol bod ein rhaglenni’n parhau i symud ymlaen ochr yn ochr â’r cyfnod modern ac yn parhau i fod yn gyfle gwirfoddoli deniadol ac atyniadol a dyna pam mae gwirfoddoli rhithwir yn ddatblygiad mor gyffrous i ni. I wirfoddolwr, mae'n cynnig mwy o hyblygrwydd ac mae'n hawdd ei gyrraedd. Mae’n borth gwych i ystyried rolau mwy ffurfiol fel Cwnstabliaid Gwirfoddol ac Arweinwyr Cadetiaid Gwirfoddol, ein rolau cyflogedig neu, yn syml, cael cyngor gwerthfawr ar atal trosedd. “
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Tarian, Steven Maloney, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i gydweithio â’r Brifysgol a’u myfyrwyr. Mae'r problemau hyn yn heriol ac yn gymhleth. Nid yw syniadau plismona traddodiadol wedi datrys yr heriau sy’n ein hwynebu wrth blismona’r problemau hyn, felly rydym am estyn allan at gynulleidfa newydd i ofyn am eu cymorth i gadw pobl yn ddiogel. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i fyfyrwyr wneud gwahaniaeth i’w cymunedau.”
Mae Gwirfoddolwyr Rhithwir ar gael yn hawdd i fyfyrwyr a graddedigion diweddar trwy wefan mewnol Gyrfaoedd PDC.