Chwaer Richey Edwards i siarad mewn Cynhadledd Pobl Goll
10 Mehefin, 2023
Rachel Edwards
Ar 1 Chwefror 1995, diflannodd Richey Edwards, dylunydd, awdur geiriau a gitarydd rhythm y Manic Street Preachers. 28 mlynedd yn ddiweddarach, bydd ei chwaer, Rachel, yn cyflwyno mewn cynhadledd ryngwladol, dan ofal Prifysgol De Cymru (PDC), yng Nghaerdydd ar 5-7 Gorffennaf.
Mae Richey yn dal i gael ei ystyried yn berson coll. Ar ôl blynyddoedd lawer, mae ei achos yn parhau i ddenu sylw yn y cyfryngau prif ffrwd a’r cyfryngau cymdeithasol, gyda llawer o ddyfalu am yr hyn ddigwyddodd iddo.
Cafodd y teulu eu gwthio i lygad y cyhoedd ar adeg arbennig o anodd iddyn nhw i gyd. Ar ôl diflaniad Richey, roedd Rachel yn teimlo bod angen cynnal diddordeb y cyhoedd yn y diflaniad, yn y gobaith y gellid dod o hyd i Richey. Ers hynny mae hi wedi bod yn cefnogi teuluoedd sydd â pherthynas coll ac yn 2017 roedd yn rhan o’r Missing People Choir gyrhaeddodd rownd derfynol Britain's Got Talent.
Yn cael ei adnabod fel Richard i'w deulu, gwnaed Richey yn ‘dybiedig yn farw’ yn swyddogol yn 2008. Dywedodd Rachel: "Yn ddealladwy, mae rhai’n gweld y term 'rhagdybiaeth marwolaeth' yn ofidus iawn ond mae angen dirwyn materion ariannol cymhleth i ben. Roedd ein tad yn marw, a'i ddymuniad oedd bod ystâd Richard mewn trefn. Ar y pryd, roedd hi'n broses anodd iawn cael rhagdybiaeth marwolaeth."
Ymgyrchodd Rachel yn llwyddiannus i newid y gyfraith fel bod teuluoedd yn gallu delio â materion ariannol eu hanwyliaid coll mewn ffordd symlach. Rhoddodd Rachel dystiolaeth mewn Ymchwiliad Llywodraethol ac, yn 2013, daeth y Ddeddf Rhagdybiaeth Marwolaeth i rym. O ganlyniad, daeth y broses ymgeisio ar gyfer datganiad rhagdybiaeth marwolaeth yn llai cymhleth.
Yn ogystal, roedd Rachel yn allweddol o ran ffurfio a gweithredu Uned Pobl Goll y DU, sy’n rhan o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA). Rhoddodd dystiolaeth hefyd mewn Ymchwiliad Llywodraethol pellach oedd yn ceisio sicrhau y byddai DNA pob person coll yn cael ei ddal, ei storio, a'i groesgyfeirio yn erbyn pob corff neu ran o gorff oedd heb ei adnabod.
Mae Rachel hefyd yn Gyfarwyddwr gwirfoddol ar Fwrdd Llinell Gymorth Genedlaethol Missing Persons Ireland, sefydliad dielw sy'n ceisio dod â gobaith i deuluoedd a ffrindiau pobl goll drwy adnoddau, cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth.
"Mae Llinell Gymorth Missing Persons Ireland yn gwneud gwaith da gyda'r Adran Gyfiawnder a chyrff sydd heb eu hadnabod. Rhywbeth arall rydw i’n angerddol drosto, ac y byddaf yn ei drafod yn y gynhadledd, yw'r ffordd y gall cronfa ddata Olion wedi eu Canfod ond heb eu Hadnabod yr NCA helpu i ddatrys achosion pobl goll," meddai.
Dywedodd Dr Cheryl Allsop, Uwch Ddarlithydd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol PDC: "Rydym yn falch iawn o groesawu Rachel a llu o gyflwynwyr o amryw feysydd i'r gynhadledd.
"Mae arnom hefyd ddyled i'r Centre for the Study of Missing Persons ym Mhrifysgol Portsmouth ac i'r holl gyflwynwyr am wneud y gynhadledd hon yn bosibl. Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, ymarferwyr ac academyddion, yn ogystal â chynrychiolwyr elusennau - Missing People, Locate International, Unseen, Listen Up, Alzheimer Scotland, a Thîm Achub Mynydd y Bannau."
Bydd y Gynhadledd Plant ac Oedolion Coll Ryngwladol yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf, yn Stadiwm Principality dros dridiau. Bydd y gynhadledd yn archwilio ac yn trafod yr ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â'r heriau sy'n wynebu pawb sydd ynghlwm, ym mha bynnag ffordd, â phobl goll.
Mae’r agenda a manylion cadw lle yma: https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/Busnes/Cynhadledda-a-Chyfleusterau/Cynhadledd-Plant-ac-Oedolion-Coll/