Clwstwr yn gweld hwb o £20m a 400 o swyddi newydd i sector cyfryngau De Cymru
22 Mehefin, 2023
Yn ôl ei adroddiad effaith, cyfrannodd Clwstwr – menter uchelgeisiol i sbarduno arloesedd yn sector cyfryngau De Cymru – at £20m o incwm ychwanegol a mwy na 400 o swyddi newydd yn y diwydiannau creadigol.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ariannodd y fenter bum mlynedd gyfanswm o 188 o brosiectau ymchwil a datblygu sgrin a newyddion (Y&D), gan roi mynediad iddynt at adnoddau ac arbenigedd arbenigol, gyda gweithwyr llawrydd, BBaChau a sefydliadau cyfryngau mwy yn cael y cyfle i feithrin syniadau newydd a allai drawsnewid y sector.
Mewn adroddiad yn mesur effaith y rhaglen, canfuwyd rhwng 2019 a 2022, bod Clwstwr wedi cyfrannu’n uniongyrchol £1 ym mhob £13 o dwf trosiant blynyddol yn y diwydiannau creadigol Cymreig. Cafodd busnesau a dderbyniodd arian Clwstwr hefyd gynnydd o 650% mewn hawlfreintiau, patentau, nodau masnach a dyluniadau cofrestredig.
Ariannodd y rhaglen 17 o brosiectau yn canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â saith prosiect yn datblygu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu cynnwys i’r cyfryngau.
Yn ôl Cyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: “Mae Clwstwr wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol. Mae prosiectau Clwstwr wedi nodi manteision hirdymor i’w busnesau, a oedd yn cynnwys gwell cyflawniad a chynhyrchiant a gwell prosesau rheoli prosiect. Mae ein hadroddiad yn cyflwyno tystiolaeth glir bod buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn hanfodol os ydym am arloesi a llywio’r cyfryngau a’r sectorau creadigol.”
Heddiw, mae mwy na 15% o fentrau Caerdydd yn y diwydiannau creadigol. Mae gan dde Cymru fwy o stiwdios teledu nag unrhyw le yn y DU y tu allan i Lundain, a dyma drydydd cyflogwr mwyaf y diwydiant ffilm a theledu yn y DU (ar ôl Llundain a Manceinion).
Roedd Clwstwr yn rhan o Raglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol. Cafodd ei ariannu gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannola’i gyflwyno gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar ran Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).
Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos pwysigrwydd sylfaenol y diwydiannau creadigol i Gaerdydd, a gwerth buddsoddiad ymchwil a datblygu i roi’r cyfle i’r arloesedd maent yn ffynnu arno dyfu. O’r cyflogaeth a’r buddsoddiad sydd wedi’u creu, i’r cyfoeth rhyfeddol o greadigrwydd y mae wedi’i harneisio, mae Clwstwr wedi bod yn stori lwyddiant wirioneddol i Gaerdydd a’r ardal ehangach, ac i’r diwydiannau creadigol ledled y DU.”
Ariannwyd y rhaglen hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy Cymru Greadigol.
Yn ôl Dawn Bowden, Gweinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwy'n falch iawn bod yr adroddiad hwn yn amlinellu’r effaith fawr y mae'r prosiect hwn wedi'i chael ar sector y cyfryngau yn Ne Cymru, a'r angen i barhau i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygiad. Mae Ymchwil a Datblygiad yn allweddol i ddatgelu creadigrwydd ac arferion gwaith newydd sy'n canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd, amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol.
“Mae prosiectau cydweithredol fel Clwstwr yn ei gwneud hi'n bosibl i brosiectau bach ond hanfodol fanteisio ar y cyllid, yr wybodaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo ac mae'n unol â'n hymrwymiad Rhaglen Lywodraethu bod buddsoddiad Cymru Greadigol o £2m yn y rhaglen yn targedu cymorth busnes ar gyfer prosiectau sy'n gweithio ar Ymchwil a Datblygiad.”
Gan adeiladu ar lwyddiant Clwstwr, mae PDC bellach yn rhan o Media Cymru – sef prosiect ar y cyd gwerth £50 miliwn. Bydd yn trawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg.
Mae’r adroddiad llawn, ‘Clwstwr: model ar gyfer ymchwil, datblygiad ac arloesedd yn y diwydiannau creadigol’, ar gael i’w lawrlwytho yma: https://clwstwr.org.uk/cy/clwstwr-model-ar-gyfer-ymchwil-datblygiad-ac-arloesedd-yn-y-diwydiannau-creadigol