Darlithydd darlunio yn arddangos gwaith yn Academi Frenhinol y Celfyddydau
29 Mehefin, 2023
Mae gwaith celf gan Matt Morgan, darlithydd Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, wedi cael ei ddewis ar gyfer arddangosfa haf Academi Frenhinol y Celfyddydau eleni, ochr yn ochr â rhai o artistiaid mwyaf llwyddiannus y byd.
Cydlynydd arddangosfa haf 2023 yw'r peintiwr enwog o Brydain, David Remfry, sy'n archwilio'r thema Only Connect, wedi’i thynnu o'r dyfyniad enwog yn Howards End gan EM Forster.
Ymhlith y 1,614 o weithiau yn yr arddangosfa mae cerfluniau trawiadol gan y ddiweddar Phyllida Barlow, gosodiad symudol dramatig Richard Malone, a phaentiad ffraeth gan y digrifwr Joe Lycett, yn ogystal â darnau gan Tracey Emin, Hew Locke, Barbara Walker, Gavin Turk a llawer mwy.
Dewisodd Matt, a gyflwynodd waith am y tro cyntaf erioed i arddangosfa haf yr Academi Frenhinol eleni, lun pensil lliw o'r enw His Touch, a grëwyd o sesiwn fyw gyda dau fodel gwrywaidd.
Dywedodd: "Mae'r darlun yn cynnig sylwadau ar syniadau ynghylch gwrywdod ac yn archwilio'r cysylltiad tyner rhwng y ddau fodel. Lluniadau ffigurol yw fy ngwaith yn bennaf, sy'n archwilio hunaniaeth a phortreadau trwy luniadau bywyd arsylwadol ar bapur, gan gynnig golwg a phersbectif ar hunaniaeth, diwylliant a gwrywdod cwiar.
"Gwelais y thema ar gyfer arddangosfa haf eleni a dyma feddwl bod y lluniadau roeddwn i’n eu creu ar y pryd yn cyd-fynd yn dda â thema Only Connect. Penderfynais roi cynnig arni, a chyflwyno un o fy lluniadau a oedd â theimlad cryf o gysylltiad rhwng y gwrthrychau.
"Doeddwn i ddim wedi disgwyl cyrraedd rhestr fer y rownd gyntaf o feirniadu ar-lein, felly pan gefais yr e-bost yn dweud wrthyf fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer, roeddwn wedi synnu ac yn llawn cyffro fy mod i wedi cyrraedd mor bell â hynny. Yna gofynnon nhw i fi gyflwyno'r gwaith celf i'r Academi Frenhinol ar gyfer y rownd feirniadu derfynol. Ar ôl disgwyl ychydig wythnosau, cefais e-bost yn dweud fy mod wedi cael fy newis ar gyfer arddangosfa'r haf, ac roeddwn i wrth fy modd yn gwybod y byddai fy ngwaith yn cael ei arddangos yn Academi Frenhinol y Celfyddydau.
"Mae wedi bod yn brofiad gwych o’r dechrau’n deg, o gyflwyno'r gwaith i'r Academi Frenhinol hyd at y Diwrnod Twtio hyd a’r agoriad preifat. Roedd y Diwrnod Twtio yn uchafbwynt arbennig i fi, gan fod y diwrnod yn llawn traddodiad a seremoni yn dyddio'n ôl i 1769. Dyma pan fyddai artistiaid arddangosfa'r haf yn gorffen ac yn farneisio eu paentiadau cyn i’r arddangosfa agor i'r cyhoedd.
"Mae'r diwrnod yn dechrau gyda'r artistiaid yn ymgynnull yng nghwrt yr Academi Frenhinol, ac yna’n gorymdeithio trwy Piccadilly i Eglwys Sant James. Wrth flaen yr orymdaith mae band dur, ac yna clerigwyr yn cludo croes. Mae gwasanaeth llawn yn dilyn – i fendithio pawb sy’n cymryd rhan – ynghyd ag emynau, darlleniadau, datganiad corawl a phregeth. Ar ddiwedd y gwasanaeth, mae pawb yn mynd yn ôl i'r Academi Frenhinol i weld eu gwaith.
"Roedd arddangos yn yr un sioe ag artistiaid enwog yn brofiad swreal, ac mae'r oriel yn ofod mor anhygoel; mae'r ystafelloedd yn grand iawn ac yn fawreddog iawn. Felly, roedd gweld fy ngwaith yn y gofod hwnnw, gan wybod holl hanes y sefydliad a'r artistiaid sydd wedi arddangos yn y gofod o'r blaen, yn brofiad dwys iawn ac yn un y byddaf yn ei gofio am adeg hir iawn.
"Mae hefyd yn arbennig iawn i fi fy mod i wedi arddangos fy ngwaith yn ystod Mis Pride. Mae'n rhoi ymdeimlad aruthrol o falchder i fi – nid yn unig yn fy ngwaith, ond hefyd yn y themâu sy’n cael eu harchwilio yn fy narluniad – i weld fy narn yn hyrwyddo cysylltiad tyner a sensitif rhwng cwpl o'r un rhyw, yn hongian ochr yn ochr â gwaith artistiaid eraill."
Mae’r arddangosfa haf ar agor tan 20 Awst yn Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Piccadilly, Llundain. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Academi Frenhinol.