Mis Balchder | Defnyddio ffotograffiaeth i archwilio hunaniaeth cwiar
15 Mehefin, 2023
I ddathlu Mis Balchder, rydym yn siarad â’r myfyriwr Ffotograffiaeth Joss Copeman, sy’n defnyddio ystod o ddulliau ffotograffig i greu sgyrsiau am hunaniaeth cwiar.
Mae ei waith yn archwilio gwleidyddiaeth cwiar a syniadau am yr hunan, gan ddefnyddio’n bennaf ffotograffiaeth lens a’r hyn a elwir yn Saesneg yn vernacular, a sganiau cyfrifiadurol. Mae Joss yn gosod ei hun yng nghanol ei waith, gan godi amheuaeth a gwatwar y ffordd yr ydym yn cyflwyno ein hunain.
Pa themâu ydych chi'n mynd i'r afael â nhw yn eich gwaith?
Mae fy ngwaith yn cyffwrdd â syniadau o'r hunan ac yn benodol fy mhrofiadau. Rwy'n tueddu i archwilio cynrychiolaeth, rhywedd a gwleidyddiaeth rhywioldeb. Mae fy mhrosiect presennol ’21 Years’ – yn dwyn y teitl hwnnw oherwydd fy mod yn 21 oed! – yn edrych ar ddarn o ddeddfwriaeth o’r enw Adran 28 a ddaeth i rym ym 1988 ac a waharddodd “hyrwyddo cyfunrywioldeb” gan awdurdodau lleol ym Mhrydain.
Cefais fy ngeni ychydig cyn iddo gael ei ddiddymu yn 2003, ac mae fy ngwaith yn archwilio’r ffordd y mae wedi taflu cysgod dros bobl o’m hoedran i sydd wedi tyfu i fyny fel rhan o’r gymuned LGBTQ+.
A ydych chi byth yn ei chael hi'n anodd delio â themâu mor drwm?
Rwy'n ceisio ei wneud mor chwareus â phosibl, tra'n dal i dynnu sylw at bwysigrwydd y materion hynny. Mae peth o’m gwaith o natur dafladwy, er enghraifft delwedd lle rydw i’n llythrennol wedi argraffu’r ddeddfwriaeth Adran 28, wedi ei wasgu’n belen a’i ailsganio. Mae hiwmor neu chwareusrwydd mewn gwirionedd yn ffordd o dynnu pobl i mewn ac yna caniatáu agoriad iddynt i'r sgwrs.
Sut mae eich gwaith yn cyd-fynd â democrateiddio ffotograffiaeth?
Bu datblygiad rhyfedd dros y 10-15 mlynedd diwethaf lle mae pobl yn defnyddio ffotograffiaeth i fframio eu hunain ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'n bersona rwy'n ei gyflwyno i raddau helaeth ac rwy'n meddwl bod hynny'n tystiolaethu i'r ffordd y mae pobl yn cyflwyno eu hunain nawr ar-lein. Ni fyddwn yn dweud imi wneud penderfyniad ymwybodol i wneud hyn yn fy ngwaith, ond rwy'n cydnabod bod yr ystyron hynny yno. Mae'n rhywbeth rydw i wedi bod yn ceisio darganfod sut i fynd i'r afael ag ef, ac ni chredaf i mi ei feistroli hyd heddiw mewn gwirionedd.
Pa mor gyfforddus ydych chi fel canolbwynt eich ffotograffiaeth?
Un peth rydw i wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw'r ffaith bod fy ngwaith o bosibl yn rhy fewnol. Mae'n canolbwyntio o'm cwmpas i ac mae fy wyneb yn amlwg iawn ynddo.
Byddwn i’n dweud bod y ffordd rydw i’n dewis cyflwyno fy hun ychydig yn wahanol i fywyd bob dydd – yn amlwg ni fyddwn fel arfer yn mynd allan yn gwisgo crys sy’n dweud “It’s All About Me”!
Pa brosesau technegol ydych chi'n eu defnyddio wrth wneud eich ffotograffau? Oes gennych chi gydweithiwr sy'n helpu i gynhyrchu'r hunanbortreadau?
Rwy'n defnyddio dulliau lluosog. Mae rhai delweddau'n fwy fel pe baent wedi’u llwyfanu, lle mae'r stiwdio wedi'i goleuo'n benodol fel rydw i eisiau iddi fod. Yna mae yna rai sy'n ffotograffiaeth fwy vernacular lle dw i'n pwyntio ac yn saethu.
Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn cyflwyno delweddau haniaethol hefyd, sef y rhai mwy personol yn fy marn i. Ond yn nodweddiadol byddaf yn y stiwdio, yn gosod y goleuadau a'r camera fel y dymunaf, ac yna'n gweithio gyda fy nghydweithiwr a chyd-fyfyriwr Holly. Rydyn ni fel arfer yn gwneud yr holl bethau hyn gyda'n gilydd, gan daflu syniadau i’r naill a’r llall. Rwy'n ei chael hi i sefyll lle rydw i'n mynd i fod er mwyn cael y goleuo yn iawn. Rwy'n ceisio dal popeth mewn saethiad, yn hytrach na gwneud llawer o olygu ôl-saethiad. Ond yn yr un modd nid wyf yn un o'r bobl hynny sy'n cymryd oesoedd i geisio cael popeth yn berffaith. Rwy'n hoffi ymddiried yn fy ngreddf.
Beth yw’r hyn a’ch denodd at ffotograffiaeth?
Dw i wastad wedi cael fy nenu at ffotograffiaeth. Mae'n rhywbeth rydw i wir yn ceisio arbrofi ag ef ond nid wyf wedi cael yr amser i wneud hynny o reidrwydd. Ond ni fyddwn yn dweud fy mod yn gyfyngedig i'r cyfrwng hwnnw. Ar ôl i mi raddio byddwn wrth fy modd yn arbrofi mwy gyda cherflunio a chyfryngau cymysg a fideo. Gan fy mod i wedi astudio ffotograffiaeth trwy gydol fy amser ym myd addysg, credaf fod ffocws wedi bod ar ffotograffiaeth bur, ond trwy wneud y cwrs hwn rydw i’n bendant wedi ehangu fy ngorwelion ac mae hynny’n rhywbeth rydw i eisiau bwrw ymlaen ag ef.
Cynhelir y sioe graddedigion BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn Oriel BayArt, Caerdydd, rhwng 16 a 22 Mehefin. Am ragor o fanylion, dilynwch @uswphotography ar Instagram.