Problem Enbyd: troi allyriadau carbon yn adnodd gwerthfawr
29 Mehefin, 2023
Mae ffilm ddogfen Problem Enbyd, a luniwyd fel rhan o brosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol, yn dangos y datrysiadau cwbl arloesol sy’n cael eu datblygu i drawsffurfio ‘problem enbyd’ allyriadau carbon yng Nghymru yn adnodd gwerthfawr wrth i ni ymdrechu i gyrraedd sero net.
Nid yw’r ffilm yn ofni darlunio bygythiadau cynhesu byd eang, ac mae hefyd yn arddangos datrysiadau addawol ac yn dathlu arloesedd. Cawn gyfarfod â pheirianwyr sy’n gweithio, fel alcemyddion yr oes fodern, i droi carbon yn faethynnau hanfodol a throi dŵr gwastraff yn danwydd heb allyriadau.
Mae cynllun gweledol trawiadol y ffilm a’i thrac sain bywiog yn gosod diwydiannau trwm Cymru yng nghyd-destun y tirweddau syfrdanol lle bu treftadaeth glofeydd ac allforion glo dros y canrifoedd yn helpu i greu’r economi fodern sy’n seiliedig ar garbon – a chanlyniadau hynny o ran y blaned – a bellach yn awgrymu llwybrau creadigol i iachau’r byd. Mae’r ffilm yn ein hatgoffa o’r hyn sydd yn y fantol yn y byd a phob dim mae’n rhaid ei drysori. Yn ei hanfod, mae’r ffilm yn stori am drawsnewid, harddwch a gobaith ac yn cynnig cipolwg i ni ar y dyfeisgarwch dynol sy’n elfen ganolog o arloesi diwydiannol.
Mae adrodd storïau yn ddull ymchwilio ac yn fodd lledaenu sy’n gallu ein helpu ni i ddeall y profiadau dynol y tu ôl i syniadau cymhleth. O’n blynyddoedd cynharaf, down i adnabod y byd trwy storïau – trwy glywed storïau am y bobl sy’n mynd ati i ganfod atebion i rai o’r heriau mwyaf difrifol sy’n ein hwynebu, gallwn ddeall ar lefel un bod dynol i un arall. Mae storïau yn caniatáu i ni agor ein meddyliau a’n teimladau, a meddwl am yr arloesedd gwyddonol sydd wrth wraidd prosiect RICE a pham mae hynny mor bwysig.
Mae Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru wedi casglu mwy na 50 o storïau a chreu ffilm ddogfen sy’n para 30 munud yn rhan o brosiect RICE, sef prosiect cydweithredol rhyngddisgyblaethol unigryw sy’n dod â storiwyr a pheirianwyr ynghyd i ganfod gobaith yn wyneb anhrefn yr hinsawdd.