Sut y gallai gwastraff carthion chwyldroi gwrtaith fferm

23 Mehefin, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Farm_fertiliser.jpg

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn edrych ar sut y gellid defnyddio gwastraff carthion i chwyldroi datblygiad gwrteithiau fferm ar raddfa fawr.

Mae tîm dan arweiniad Dr Christian Laycock, Athro Cyswllt mewn Cemeg Gynaliadwy yn PDC, wedi bod yn arbrofi gyda’r cynhyrchion sydd dros ben o broses y mae PDC yn arwain y ffordd ynddi – Treuliad Anaerobig (TA).

Mae TA yn ddull a ddefnyddir i ddadelfennu gwastraff dynol, anifeiliaid neu fwyd i gynhyrchu bio-nwy - y gellir ei ddefnyddio yn lle nwyon sy'n seiliedig ar ffosil - a bio-wrtaith. Mae TA yn digwydd mewn tanciau mawr, wedi'u selio, heb ocsigen, ac mae'n defnyddio microbau arbennig i brosesu'r gwastraff, gan wahanu nwyon a maetholion defnyddiol.

Mae Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) y Brifysgol wedi bod yn cynnal ymchwil arloesol i TA ers nifer o flynyddoedd.

Hyd yn hyn, bu’n anodd datblygu’r ‘slyri’ – sef gweddillion treuliad anaerobig – sydd dros ben unwaith y bydd y broses TA wedi dod i ben, er bod ganddo gynnwys maethol uchel sy’n ei alluogi i gael ei ddefnyddio fel gwrtaith – oherwydd mae ei gynnwys hylifol mawr yn golygu ei fod yn hawdd ei olchi i ffwrdd, tra gall cludo'r sylwedd fod yn gostus.

Ond mae datblygiad arloesol a wnaed gan dîm PDC wedi datrys llawer o'r heriau a achosir gan y gweddillion.

“Un o’r problemau gyda defnyddio gweddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith yw nad oes ganddo lawer o allu i gadw’r maetholion sydd ynddo, ac mae’r maetholion hynny’n hawdd iawn yn trwytholchi i briddoedd a dŵr daear ac achosi llygredd maetholion,” meddai Dr Laycock.

“Gall y llygredd maetholion hwn achosi problemau difrifol mewn afonydd a llynnoedd, lle gall algâu ddatblygu a thagu’r cyflenwad ocsigen i fywyd anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n dibynnu ar ddŵr iach i oroesi.

“Rydym wedi datblygu dull o wella’r gweddillion treuliad anaerobig trwy ychwanegu sylweddau sy’n hawdd eu defnyddio gan organebau. Mae'r broses hon yn fuddiol am dri rheswm - yn gyntaf, mae'r ychwanegion perchnogol yn cynnwys maetholion sy'n ddefnyddiol ar gyfer cnydau yn eu rhinwedd eu hunain, ac, yn ail, maent yn gwella priodweddau cyflyru pridd gweddillion treuliad anaerobig.

“Y trydydd rheswm, sef y pwysicaf, yw bod y swbstradau bio sydd ar gael yn troi’r gweddillion treuliad anaerobig o hylif yn gel, sy’n golygu bod y maetholion yn cael eu rhyddhau tua saith gwaith yn arafach nag o wrtaith gweddillion treuliad anaerobig neu fwynau.

“Yn ei dro, mae hyn yn golygu bod mwy o’r maetholion yn mynd i mewn i’r cnydau, yn hytrach na chael eu golchi i ffwrdd yn gyflym ac achosi llygredd maetholion a diraddio pridd. Gyda mwy o’r maetholion yn mynd i mewn i gnydau, mae’r cynnyrch cnwd hefyd yn cynyddu, gyda hyd at ddwbl y cynnyrch cnwd a welwyd mewn treialon a gynhaliwyd yn PDC o’i gymharu â defnyddio gwrtaith mwynau.”

Er gwaethaf y canlyniadau addawol o'r ymchwil cynnar, dywedodd Dr Laycock fod angen mwy o astudiaethau i bennu manteision posibl y gwrtaith newydd.

“Mae’n amlwg fod yna fanteision posib enfawr o’r broses, gyda TA yn cynhyrchu ynni carbon isel ar ffurf bio-nwy a’r gweddillion treuliad anaerobig yn gallu cynnal amaethyddiaeth fel gwrtaith,” meddai.

“Yr heriau sy’n ein hwynebu nawr yw dod o hyd i ffyrdd effeithlon o gael y gwrtaith ar dir, deall yr effaith hirdymor y mae’n ei gael ar yr amgylchedd, ac yna masnacheiddio’r deunydd i’w ddefnyddio’n eang.

“Unwaith y bydd gennym ni fwy o ddealltwriaeth o’r materion hynny a sut y gellir mynd i’r afael â nhw, bydd manteision amlwg y broses hon yn ei gwneud hi’n anodd iawn eu hanwybyddu.”

Mae’r ymchwil wedi’i gynnal gyda chyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, fel rhan o brosiect FLEXISApp ac Ysgoloriaeth Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth (KESS2), sef menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan, sy’n cefnogi doethuriaeth, MPhil, a chymwysterau gradd Meistr ymchwil ym mhob prifysgol yng Nghymru.