Wythnos Anabledd Dysgu | “Cymerodd 47 mlynedd i mi ddod o hyd i Nyrsio Anabledd Dysgu”

22 Mehefin, 2023

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Claire_Welch_LD_nurse.jpeg

Mae Claire Welch yn astudio BSc (Anrh) Nyrsio (Anabledd Dysgu). Ar gyfer wythnos Anabledd Dysgu, mae’n dweud wrthym ei bod wedi dod o hyd i’w ‘galwad’ o fewn y gangen nyrsio hon.

“Ar brynhawn Sul arbennig o boeth yn haf 1976, fe benderfynais i’n saith oed fy mod i eisiau bod yn nyrs. Roeddwn yn crwydro coridorau Ysbyty Brenhinol Cernyw tra bod fy mam yn cynnal cynhadledd. Fy swydd mewn cynadleddau oedd helpu gydag arllwys te a chynnig cacennau a bisgedi. Doedd hi ddim cweit yn amser te, er bod y cwpanau allan a’r yrnau ymlaen, felly tra bod y cyflwyniadau diweddaraf ar y gweill, roeddwn i’n rhydd i grwydro.

Treuliais dipyn o amser yng nghyffiniau'r ysbyty, lle'r oedd mam yn gweithio ym maes Haematoleg, ond roeddwn i’n mwynhau'n fawr ar ddydd Sul pan oedd hi'n mynychu cynadleddau. Archwiliais yr ystafelloedd dysgu, ond roedd gen i fy ffefryn. Roedd y sgerbwd ‘yn y cwpwrdd’ yn hongian ar ei stand yn yr un modd ag yr oedd bob amser yn ei wneud. Cymerais amser i ryfeddu ato. Cefais fy swyno. Roeddwn i bob amser yn dod i edrych ond, yn fwy na hynny, roeddwn wrth fy modd â'r arogl pren, papur, a glendid a gynigiai'r ystafell ddysgu. Roedd yn ofod y gwyddwn fy mod eisiau astudio ynddo, man lle’r oeddwn i'n teimlo'n gartrefol.

Pan oeddwn tua naw oed, fe wnaethom symud tŷ a chael cymydog newydd a oedd, ar ôl dioddef o Polio, yn gaeth i gadair olwyn. Treuliais oriau lawer yn helpu a dysgais am declynnau codi a oedd yn rhedeg o’r toiled uchel, dros y bath, ac i mewn i’w hystafell wely, gwneud gwelyau gyda chorneli ysbyty, ac addasiadau gan gynnwys ei hunedau cegin is.

Wnaeth bywyd ddim mynd â fi i fy ystafell ddysgu a drysorwyd gyda'r sgerbwd yn y cwpwrdd. Roeddwn i wedi bod yn hiraethu i ddweud wrth Mam fy mod i eisiau bod yn nyrs (ni wnaeth y teimlad fy ngadael), ond wnes i ddim magu'r dewrder, ac es i Lundain i astudio mewn conservatoire cerddoriaeth. Wedi hynny daeth gyrfa mewn cyhoeddi, priodas, a thri bachgen. Nid oedd gen i amser i mi fy hun am flynyddoedd lawer.

Pan fu farw fy nhad o COVID-19, penderfynais fod bywyd yn rhy fyr. Es i ar hyd yr Himalayas er elusen a dechreuais ymchwilio i raddau nyrsio. Gwnes gais i PDC a, phan ddechreuodd y cwrs, roeddwn i wrth fy modd.

Pan ges i gynnig lleoliad anabledd dysgu, fe wnes i neidio ar y cyfle hwnnw. Gan mai ychydig iawn o wybodaeth oedd gennyf am nyrsio anabledd dysgu, roeddwn i braidd yn bryderus ar fy niwrnod cyntaf. Doedd dim angen i mi fod yn bryderus, roedd y tîm yn hynod groesawgar, angerddol, ac yn awyddus i esbonio. Roedd fy ngoruchwyliwr yn wych. Roedd hi'n fy nghynnwys i ym mhopeth. Mewn pum wythnos fer, cyflwynodd fi i fyd o ryfeddod, gobaith, gwaith cymdeithasol, ‘sgiliau’ ditectif, mwy o acronymau nag a feddyliwn oedd yn bosibl, a nyrsio yr oeddwn yn teimlo fy mod yn ei ddeall yn reddfol. Rhoddodd y defnyddwyr gwasanaeth y cyfarfûm â hwy, y cymorth a gefais gan y tîm, a'r amrywiaeth a gynigiwyd gan y maes nyrsio hwn y syniad i mi mai dyma le’r oeddwn i fod.

Mae’n peri tristwch mawr i mi pan oeddwn yn yr ysgol yn yr 1980au, fod plant ag anableddau dysgu yn cael eu cadw ar wahân i ni. Mae gwybod nawr bod nyrsys Anabledd Dysgu yn darparu gofal iechyd arbenigol a chymorth i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd, a gofalwyr i'w galluogi i fyw bywyd boddhaus yn rhoi gobaith mawr i mi. Rwy’n ymwybodol nad yw gwasanaethau bob amser fel y gallent neu y dylent fod, ond mae yna gorff o bobl sy’n ymdrechu i sicrhau bod y rhai ag anabledd dysgu yn cael eu gwerthfawrogi, yn derbyn gofal cyfartal, a chael eu deall.

Rwy’n gobeithio pan fyddaf yn cymhwyso, y bydd yr agweddau hynny ar nyrsio a welwn heddiw, lle mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael yr un gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ag eraill, wedi esblygu hyd yn oed ymhellach. Amgylchedd cynhwysol lle mae anghenion gofal iechyd pawb yn cael eu trin yn gyfartal a lle mae addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud yn reddfol heb amheuaeth. Cymdeithas sy'n croesawu ac yn cofleidio amrywiaeth.

Mae nyrsio AD wedi dod â mi ‘adref’ eto – fe gymerodd 47 mlynedd i mi ddod o hyd iddo.