Wythnos Ffoaduriaid | Gwersi Cymraeg yn boblogaidd gyda ffoaduriaid
22 Mehefin, 2023
Mae ffoaduriaid sydd wedi ailsefydlu yn y gymuned leol yn mwynhau dysgu Cymraeg, trwy eu hieithoedd brodorol, diolch i gwrs newydd a ddarparwyd gan Brifysgol De Cymru.
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg, sydd wedi’i leoli yn PDC, wedi bod yn addysgu’r cwrs Croeso i Bawb i ffoaduriaid o bob rhan o’r byd, gan gynnwys Wcráin, Syria, Rwsia a llawer o wledydd eraill.
Mae’r cwrs rhad ac am ddim, sydd â’r nod o gyflwyno Cymru a’r Gymraeg i bobl sy’n siarad fawr ddim neu ddim Saesneg, yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda ffoaduriaid sydd wedi ailsefydlu mewn cymunedau lleol yn Ne Cymru.
Pecyn o adnoddau trwy gyfrwng pum iaith wahanol yw Croeso i Bawb – Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto – sy’n defnyddio delweddau a fideos am Gymru gyfan, gan gynnwys gwybodaeth am bobl a lleoedd enwog, hanes yr iaith, y celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.
Mae Nushin Chavoshi-Nejad, tiwtor Cymraeg Dysgu Cymraeg Morgannwg sy’n dysgu’r cwrs Croeso i Bawb, yn wreiddiol o Iran a daeth yn siaradwr Cymraeg rhugl ar ôl dechrau gwersi gyda’r nos dros 30 mlynedd yn ôl.
Ar ôl symud i’r DU yn 10 oed, iaith gyntaf Nushin yw Farsi ond mae hi hefyd yn gallu siarad Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yn rhugl, ac mae wedi eu haddysgu i gyd drwy gydol ei gyrfa.
Fel un o’r tiwtoriaid Dysgu Cymraeg Morgannwg cyntaf i gyflwyno’r cwrs i ffoaduriaid, gwyddai Nushin pa mor bwysig oedd ystyried anghenion dysgwyr sydd wedi cyrraedd Cymru heb wybod llawer am eu cartref newydd.
“Ein nod ar gyfer Croeso i Bawb yw symud oddi wrth ddysgu Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg, gan ddefnyddio dulliau tebyg i ddysgu ESOL [Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill] i gyflwyno’r cwrs mewn ffordd wahanol,” meddai Nushin.
“Rydym yn dod â phobl o gefndiroedd cwbl wahanol at ei gilydd ac yn siarad am bopeth o ddiwylliant, bwyd, hanes ac ati – mae’n ffordd wych o helpu ffoaduriaid i wneud ffrindiau newydd tra’n llywio’r amrywiol bethau sydd eu hangen arnynt i addasu i fywyd yma.
“Rydyn ni’n sgwrsio am bwy ydyn nhw a beth maen nhw’n mwynhau ei wneud, tra’n cadw mewn cof y sefyllfaoedd anodd y gallen nhw fod wedi bod ynddynt cyn dod i Gymru.
“Mae llawer o’n dysgwyr wedi mwynhau’r cwrs cymaint fel eu bod am barhau i ddysgu Cymraeg yn y gwersi prif ffrwd rydym yn eu cynnig, sydd mor gyffrous ac yn arwydd gwych eu bod yn teimlo’n hapus ac yn cael croeso yn eu cymunedau newydd.”
Daeth Alina Shestak, o Kharkiv, Wcráin, i fyw gyda theulu sy’n derbyn plant ym Merthyr Tudful y llynedd, a phenderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl dod o hyd i waith gwirfoddol fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgol gynradd leol.
Canfu pan ofynnodd y plant gwestiynau iddi yn Gymraeg, neu pan oedd angen cymorth arnynt i sillafu geiriau Cymraeg, nad oedd yn gallu eu deall, ac felly dechreuodd ar gwrs Croeso i Bawb a gynhaliwyd yn Llyfrgell Ganolog Merthyr.
Ers iddi ddysgu Cymraeg, mae Alina wedi ymuno â chôr yn Nelson, ac yn ddiweddar wedi dysgu canu Calon Lân, ar ôl trawsgrifio'r geiriau i Wcràin i wneud yn siŵr ei bod yn gallu eu hynganu'n gywir yn Gymraeg.
Ychwanegodd Nushin: “Cafodd Alina wybod am y cwrs trwy Belinda Foulkes, cydlynydd lleol y gymuned Wcreineg yng Nghyngor Merthyr Tudful, sy’n gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi’r gymuned hon gyda phob agwedd o’u hanghenion, o dai, i addysg a dod o hyd i swyddi.
“Mae Alina yn edrych ymlaen at ymarfer ei sgiliau ynganu newydd yn y Gymraeg yng nghyngerdd nesaf y côr ym mis Gorffennaf, a helpu’r plant cynradd gyda’u Cymraeg. Mae ei Saesneg yn rhagorol ac mae hi wedi gwneud cynnydd aruthrol wrth ddysgu Cymraeg yn yr ychydig amser y mae hi wedi bod yn mynychu’r dosbarth.
“Ar wahân i ddysgu Cymraeg, mae’r dosbarth yn rhoi cyfle i bobl o Wcráin dreulio amser gyda’i gilydd, cael hwyl ac anghofio am eu problemau am gwpl o oriau. Mae Alina wedi dweud wrthyf ei bod yn falch o fod yn byw yng Nghymru, lle mae’n dweud bod pobl wedi bod yn hynod gymwynasgar a charedig.”