Ail anrhydedd seiberddiogelwch i ddarlithydd Beth
6 Rhagfyr, 2023
Mae darlithydd o Brifysgol De Cymru (PDC), Beth Jenkins, wedi cael ei hanrhydeddu am yr eildro mewn mater o fisoedd.
Ar ôl cael Canmoliaeth Uchel yng Ngwobr Alan Turing yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol ym mis Medi, aeth Beth un yn well yn y Gwobrau Seiberddiogelwch diweddar, gan ennill Personoliaeth Seiber y Flwyddyn, sy'n cydnabod unigolyn eithriadol sydd wedi dangos arweinyddiaeth, eiriolaeth ac arbenigedd rhagorol ym maes seiberddiogelwch.
Dywedodd Beth, sy’n Ddarlithydd Fforensig Digidol, a oedd gynt yn Arholwr Fforensig Digidol gyda Heddlu Gwent, ac yna'n Arbenigwr Ansawdd Fforensig, am ei gwobr: "Rwy'n gwybod bod pawb yn dweud hyn, ond mae hyn yn fy synnu'n fawr oherwydd doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl, rydw i mor ddiolchgar fy mod yn cael y cyfle i gyfrannu at y diwydiant gwych hwn.
“Rwy'n ei weld ym mhob cynhadledd rwy'n ei mynychu, mae cynhesrwydd ac angerdd pobl yn y gymuned seiber yn heintus. Rwy'n wirioneddol falch o fod yn rhan ohono, felly mae cael fy nodi fel 'personoliaeth' yn anghredadwy.
“Diolch yn fawr iawn i'r beirniaid a llongyfarchiadau i'r enwebeion eraill. Rwy'n ddiolchgar i weithio i sefydliad fel PDC sy'n cefnogi fy mentrau yn y diwydiant.”
Sefydlwyd Gwobrau Seiberddiogelwch yn 2014 i wobrwyo'r unigolion, y timau a'r cwmnïau gorau yn y diwydiant seiberddiogelwch.