Buvidal: a yw'n gallu 'trawsnewid’ y ffordd rydym yn trin defnydd problemus o opioidau mewn gwirionedd?
7 Rhagfyr, 2023
Gan Katy Holloway, Athro Troseddeg, Prifysgol De Cymru, a Fabrizio Schifano, Cadeirydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg, Prifysgol Swydd Hertford.
Cymeradwywyd buvidal, neu buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu, i'w ddefnyddio yn y DU yn 2019.
Er mwyn goresgyn defnydd problemus o opioidau, mae ffurfiau traddodiadol o Therapi Amnewid Opioidau, fel methadon a buprenorphine trwy'r geg, wedi dod yn offer gwerthfawr. Mae ymchwil yn dangos bod cleifion sy'n derbyn therapi amnewid yn fwy tebygol o aros mewn triniaeth a rhoi'r gorau i ddefnyddio heroin na chleifion sy'n derbyn triniaethau sydd ddim yn cynnwys amnewidion - fel cwnsela neu therapi grŵp.
Ond nid yw pawb sydd ar feddyginiaeth gyfnewid yn gallu rhoi'r gorau i ddefnyddio opioidau anghyfreithlon. Mae rhai yn parhau i'w defnyddio yn ogystal â'r amnewidyn. Un rhwystr i lwyddiant yw'r angen i fynd i glinig neu fferyllfa bob dydd, neu bob ychydig ddyddiau, i gael yr amnewidyn.
Yn gynnar yn 2019, cymeradwywyd math newydd o driniaeth yn lle buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu, i'w ddefnyddio yn y DU. Yn wahanol i fethadon a buprenorphine trwy’r geg, mae buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu yn cael ei roi drwy bigiad naill ai'n wythnosol neu'n fisol. Mae'r driniaeth - a elwir hefyd wrth ei enwau brand Buvidal neu Sublocade - wedi cael ei ddisgrifio’n "drawsnewidiol" gan feddygon a chleifion.
Opioidau
Yn 2021, cofrestrwyd bron i 5,000 o farwolaethau cysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr. Roedd tua hanner y rheiny yn ymwneud ag opioid.
Dosbarth o gyffuriau yw opioidau sy'n cynnwys sylweddau sy'n deillio o'r pabi opiwm. Maent yn cynnwys morffin a heroin, yn ogystal â dewisiadau amgen synthetig sy'n dynwared effeithiau opioidau naturiol fel tramadol a fentanyl.
Mae opioidau yn gweithio yn yr ymennydd i gynhyrchu amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys lleddfu poen. Maent hefyd yn cynhyrchu teimladau o ewfforia, llawenydd a phleser. Mae opioidau yn cael effaith iselydd ar y corff, felly os bydd rhywun yn gorddosio, gallant stopio anadlu a gallant farw. Mae gorddos yn risg arbennig i'r rhai sy'n defnyddio opioidau o gryfder anhysbys a gafwyd yn anghyfreithlon, fel heroin.
Yn aml, ni all pobl roi'r gorau i ddefnyddio opioidau er gwaethaf y risg o farwolaeth a'r canlyniadau iechyd a chymdeithasol negyddol difrifol. Mae'n anodd rhoi'r gorau i gyffuriau o'r fath, yn rhannol oherwydd bod rhoi'r gorau iddynt yn achosi symptomau diddyfnu corfforol a seicolegol poenus.
Therapi amnewid opioidau
Math effeithiol o driniaeth ar gyfer defnydd problemus o opioidau yw therapi amnewid opioidau, lle mae opioidau a gafwyd yn anghyfreithlon yn cael eu hamnewid ar gyfer dewisiadau amgen rhagnodedig.
Mae darparu amnewidydd cyfreithiol o burdeb hysbys yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd. Yn fwyaf nodedig, mae'n dileu'r angen i brynu a defnyddio opioidau anghyfreithlon. Mae hyn yn lleihau'r risg o orddos a’r angen i gyflawni troseddau fel dwyn a lladrata o siopau i gael arian i dalu am gyffuriau.
Ond er y gall presenoldeb dyddiol a bwyta dan oruchwyliaeth helpu i leihau'r risg o gamddefnydd, mae anfanteision iddo hefyd. Er enghraifft, gall ddod â chleifion i gysylltiad rheolaidd â'u cyn-rwydweithiau sy'n defnyddio cyffuriau a gall fod angen teithiau llafurus sy'n ymyrryd â chyflogaeth, addysg a chyfrifoldebau eraill.
Nid oes gan buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu’r anfanteision hyn. Nid yw'n wahanol i ffurfiau atal cenhedlu cyfnod hir, gan fod y feddyginiaeth yn rhyddhau'n araf dros amser, a thrwy hynny osgoi'r uchelbwyntiau ac iselbwyntiau sy'n gysylltiedig â fformwleiddiadau trwy’r geg.
Pan gychwynodd y pandemig a phan aeth y DU i mewn i’r cyfnod clo, mynegwyd pryderon gan arbenigwyr y gallai presenoldeb dyddiol mewn clinigau neu fferyllfeydd ar gyfer meddyginiaeth amnewid opioidau gynyddu'r risg o drosglwyddo COVID.
Yn awyddus i atal lledaeniad y feirws wrth ddarparu triniaeth ddiogel a pharhaus i gleifion ar yr un pryd, cytunodd Llywodraeth Cymru[RJ1] i ariannu'r gwaith o gyflwyno buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu, i wasanaethau cyffuriau ledled Cymru.
Cefnogwyd y penderfyniad hwnnw gan dystiolaeth sy'n dod i’r amlwg o effeithiolrwydd y feddyginiaeth o wasanaeth cyffuriau yn ne Cymru a oedd wedi bod yn treialu'r feddyginiaeth cyn y pandemig.
Canlyniadau
Er mai'r prif nod bryd hynny oedd atal lledaeniad COVID, daeth yn amlwg yn gyflym bod y feddyginiaeth o fudd i gleifion mewn sawl ffordd arall.
Nododd cleifion a gymerodd rhan mewn arolwg am y feddyginiaeth newydd ostyngiadau mewn awydd i gymryd opiodau, lefelau is o bryder, gostyngiadau mewn troseddu, ac ymatal rhag opioidau anghyfreithlon. Fe wnaethant ddisgrifio ailadeiladu eu bywydau, cael swyddi, ailgysylltu ag aelodau'r teulu. Wnaethant hefyd ddisgrifio buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu yn "drawsnewidiol", rhywbeth sy’n "newid bywyd" a hyd yn oed yn "wyrth".
Mae canlyniadau cadarnhaol hefyd wedi'u hadrodd mewn adolygiadau systematig sy'n crynhoi canfyddiadau'r corff o dystiolaeth, sydd ar hyn o bryd yn fach ac nid yw’n gadarn iawn, ar effeithiolrwydd y feddyginiaeth.
Fodd bynnag, ochr yn ochr â'r adroddiadau o lwyddiant, mae straeon llai cadarnhaol wedi dod i'r amlwg sy'n awgrymu efallai na fydd y driniaeth yn fwled arian. Mae rhai cleifion wedi gweld y newid i'r feddyginiaeth yn heriol oherwydd ei bod yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl yn llawn cyn eu dos cyntaf.
Mae eraill wedi cael eu llethu gan emosiynau oherwydd bod y feddyginiaeth wedi gwneud i’w pennau deimlo mor glir fel bod eu trawmâu o’r gorffennol – a gafodd eu hatal gan flynyddoedd o ddefnyddio opioidau anghyfreithlon - wedi dechrau dod yn ôl i'r wyneb. Mae hefyd wedi bod adroddiadau am gynnydd yn y defnydd o grac cocên ymhlith rhai cleifion a phryderon am y gostyngiad mewn cyswllt (o fod yn ddyddiol i fod yn fisol) gyda gwasanaethau cyffuriau.
Er bod "effaith nenfwd" sy'n lleihau'r risg o orddos, mae dal i fod risg o dananadlu yn gysylltiedig â’r feddyginiaeth hon. Mae'r risg hon yn uwch ymhlith y rhai sy'n defnyddio alcohol, bensodiasepinau neu opioidau eraill fel heroin.
Mae buprenorphine cyfnod hir i’w chwistrellu yn dal i fod yn ei fabandod ledled y byd, felly mae'r dystiolaeth am ei effeithiolrwydd yn fach. Er mwyn penderfynu a yw'n "drawsnewidiol" mewn gwirionedd, bydd angen i arbenigwyr edrych ar ei effaith ar draws ystod ehangach o ganlyniadau, dros gyfnodau hirach a gyda samplau mwy nag sydd wedi cael eu hystyried hyd yn hyn.
Mae'r erthygl hon yn cael ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.