Dathlwyd enillwyr yng Ngwobrau Cyflenwyr PDC 2023
1 Rhagfyr, 2023
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi dathlu gwaith eu cyflenwyr allanol yng Ngwobrau Cyflenwyr PDC 2023. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar Gampws Trefforest PDC ddydd Iau 30 Tachwedd, fel rhan o’r digwyddiad Neuadd y Dref Cyflenwyr wyneb yn wyneb cyntaf, gyda’r thema ‘Creu Gwell Yfory’.
Rhannwyd y diwrnod yn ddwy ran. Yn y bore, cafwyd cyflwyniadau gan randdeiliaid a sesiwn holi ac ateb gyda thîm Gweithredol PDC ac yna’r Seremoni Wobrwyo lle cyhoeddwyd enillwyr y chwe Gwobr Cyflenwr. Yn y prynhawn, cynhaliodd PDC ddau weithdy ar reoli’r berthynas â chyflenwyr, a chydweithio â chyflenwyr i ddatgarboneiddio ein cadwyn gyflenwi.
Dangosodd Gwobrau Cyflenwyr PDC 2023 werthfawrogiad o’r gwahaniaeth y mae cyflenwyr PDC wedi’i wneud i gydweithwyr, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach dros y deuddeg mis diwethaf.
Dan arweiniad tîm caffael PDC, rhannwyd y gwobrau’n chwe chategori, gydag enwebiadau’n mynd trwy broses dau gam gan y panel i gyrraedd y rhestr fer. Enillwyr y gwobrau eleni yw:
Enillydd y wobr Gwasanaeth - Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Prifysgolion
Mae'r wobr hon yn cydnabod cyflenwyr sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl.
Teimlai'r panel beirniadu fod yr enwebiad hwn gan gyflenwyr yn enghraifft o bopeth y bwriadwyd y wobr i'w gydnabod. Mae’r cyflenwr yn caniatáu i Brifysgol De Cymru ddarparu ar gyfer ystod ehangach o bryderon ynghylch lles myfyrwyr, gan sicrhau bod y cymorth i fyfyrwyr yn gytbwys, yn briodol ac yn gost-effeithiol. Mae’r bartneriaeth wedi caniatáu ar gyfer cydweithio â Phrifysgolion eraill ac wedi cyflwyno cyfleoedd hyfforddi helaeth ac eithriadol i Wasanaethau Myfyrwyr PDC.
Enillydd y wobr Arloesi – OCS
Mae'r wobr Arloesi wedi'i chynllunio i gydnabod cyflenwyr sydd wedi cyflwyno syniadau a chyfleoedd yn rhagweithiol ar gyfer gwelliant ac arloesi parhaus ym Mhrifysgol De Cymru.
Cydnabu’r panel beirniadu fod pob un o gampysau PDC yn dod â her wahanol i OCS, ond trwy eu harloesi a’u technegau glanhau gwahanol maent wedi gallu sicrhau eu bod yn diwallu anghenion PDC. Boed trwy Roboteg neu gemegau ac offer glanhau newydd, mae OCS yn chwilio am y datblygiadau diweddaraf i ddarparu eu gwasanaeth.
Enillydd y wobr Cydweithredu – Neon Events
Cynlluniwyd y wobr Cydweithredu i gydnabod cyflenwyr sydd wedi dangos agwedd ragweithiol a chydweithredol at berthnasoedd cyflenwyr a'u partneriaeth â Phrifysgol De Cymru fel cwsmer. Mae'r wobr hefyd yn ceisio cydnabod y cyflenwyr hynny sy'n dangos yr un ymagwedd â chyflenwyr eraill PDC neu'r gymuned ehangach, gyda nodau a buddion i'r ddwy ochr.
Mae Neon Events yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol De Cymru, gan ddangos sut y gall cyflenwr ddod yn estyniad o dimau PDC. Maent wedi integreiddio â Thîm Digwyddiadau ac Ymgysylltu PDC i sicrhau eu bod yn gwerthfawrogi gwaith mewnol Prifysgol De Cymru. Mae'r bartneriaeth gyda'r cyflenwr hwn hefyd wedi golygu bod gan Brifysgol De Cymru bellach arbenigedd penodol mewn rheoli digwyddiadau gŵyl. Sicrhaodd y manteision gweladwy hyn o’r berthynas gydweithredol hon fod yr enwebiad hwn yn un cryf.
Enillydd y wobr Gwerth Cymdeithasol – E Cycle
Mae'r wobr Gwerth Cymdeithasol wedi'i chynllunio i gydnabod cyflenwyr sy'n mynd ati'n rhagweithiol i greu mentrau penodol y mae Prifysgol De Cymru wedi'u rhoi ar waith i gefnogi cydweithwyr, myfyrwyr, a'r gymuned leol.
Trwy E Cycle, roedd PDC yn gallu darparu offer TG i'n prifysgol bartner, Academi Diwylliant Corfforol Talaith Kharkiv, yn Wcráin. Casglodd E Cycle ein hoffer, cael gwared ar yr holl ddata, eu hailosod, talu am y trwyddedau Windows a'u danfon yn ôl i'r campws. Roeddent hefyd yn cyflenwi bagiau gliniadur ar gyfer yr holl ddyfeisiau. Gwnaed y cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r cyflenwr hwn yn dangos popeth y mae'r wobr wedi'i gynllunio i'w gydnabod.
Enillydd y wobr Iechyd a Diogelwch – Kingdom Security
Mae’r wobr Iechyd a Diogelwch ar gyfer cyflenwyr sydd wedi cyflwyno ffyrdd newydd o weithio i Brifysgol De Cymru ac mae’n cydnabod cyflenwyr sy’n meithrin diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol.
Mae lles myfyrwyr a staff bob amser yn bwysig i Brifysgol De Cymru; mae'n hanfodol bod cyflenwyr sydd wedi'u lleoli ar y campws yn gallu ymateb gyda'r cyflymder a'r sgiliau angenrheidiol. Mae Kingdom Security yn ymgorffori hyn yn llawn, ac wedi ymdrin yn rhagorol â llawer o ddigwyddiadau, rhai ohonynt wedi bod yn sefyllfaoedd meddygol difrifol. Yn ystod pob digwyddiad, roedd lles myfyrwyr bob amser yn dod gyntaf. Roedd y panel yn edmygu'r hyn roedd y cyflenwr wedi'i wneud, ac roedd yr enwebiad yn amlwg yn rhannu'r straeon dynol sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd hwn.
Enillydd y wobr SEREN PDC (Diolch a Chydnabyddiaeth i'r Cyflenwr) – OCS
Mae gwobr SEREN PDC wedi’i chynllunio i gydnabod cyflenwr sydd wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau neu sydd wedi cyflwyno syniadau a chyfleoedd yn rhagweithiol i ysgogi gwerth a gwelliannau i staff, myfyrwyr PDC neu’r gymuned ehangach. Mae hefyd yn cydnabod cyflenwyr sy'n gyson yn enghreifftio ac yn dangos pum gwerth PDC; cydweithredol, proffesiynol, creadigol, ysbrydoledig ac ymatebol.
Mae enillydd gwobr SEREN PDC, OCS, yn gyflenwr sy’n rhoi mantais uniongyrchol i brofiad myfyrwyr yn y Brifysgol. Fel agwedd sy’n cael ei hanwybyddu weithiau ar fusnes dyddiol Prifysgol De Cymru, mae’r gwasanaeth a ddarperir gan OCS yn haeddu cael ei gydnabod. Trwy ddarparu eu gwasanaeth y gall PDC weithredu'n ddiogel bob dydd. Mae'r ymdrech y mae OCS wedi'i gwneud yn amlwg, i'r fath raddau fel bod siaradwr mewn cynhadledd fewnol ddiweddar wedi nodi ar ba mor lanach yw ein safleoedd.
Dywedodd Catherine Lund, Cyfarwyddwr Caffael PDC: “Ar ôl llwyddiant Gwobrau Cyflenwyr PDC blaenorol, rydym yn gyffrous iawn i gynnal Gwobrau Cyflenwyr 2023 a Neuadd y Dref yn wyneb yn wyneb. Mae’n fraint cael y cyfle i gydnabod perfformiadau gwych ein cyflenwyr allanol dros y 12 mis diwethaf.
“Cawsom ystod amrywiol o enwebiadau eleni ac rydym yn falch o gydnabod sawl cyflenwr sydd wedi sefyll allan yn eu perfformiad i Brifysgol De Cymru. Llongyfarchiadau i holl enillwyr eleni.”
Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: “Mae’r Gwobrau Cyflenwyr yn gyfle gwych i ddiolch i gyflenwyr a dathlu eu hymdrechion i helpu PDC i weithredu’n llwyddiannus dros y 12 mis diwethaf.
“Mae’r sefydliadau sydd wedi ennill gwobrau yn esiamplau disglair o’r hyn y gall cydweithio effeithiol ei gyflawni. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch am wneud cymaint o wahaniaeth i’n cydweithwyr, myfyrwyr, a’r gymuned ehangach.”