Disgyblion craff yn dditectifs i’r adwy
21 Rhagfyr, 2023
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/12-december/news-december-student-super-sleuths-to-the-rescue.jpg)
Gofynnwyd i ddisgyblion chweched dosbarth, o Ysgol Gymunedol Aberdâr (YGA), ddod yn dditectifs mewn digwyddiad arbennig â thema trosedd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
Cyrhaeddodd y grŵp o ddisgyblion gampws Pontypridd y Brifysgol a chawsant eu briffio â senario lle gafodd labordy ei dorri i mewn iddo, ac amheuir mai protestwyr hawliau anifeiliaid gwnaeth hyn.
Cyflwynwyd tystiolaeth ar ffurf amrywiol i'r grŵp, gan fynd i'r afael â'r broblem gyda chymorth academyddion PDC o feysydd heddlua, gwasanaethau cyhoeddus, gwyddor fforensig, a throseddeg.
Cawsant gyfle i weld tystiolaeth trwy fideo realiti rhithwir, a hyd yn oed defnyddio labordy i brofi tystiolaeth yn fforensig. Fe wnaethon nhw uno'r holl wahanol rannau i roi achos at ei gilydd yn erbyn y rhai dan amheuaeth.
Dywedodd Nathan Keeble, Arweinydd Dysgu ac Arweinydd Cynnydd Cynorthwyol Blwyddyn 12/13, YGA: "Mae heddiw wedi bod yn wych. Roedd y grŵp yn ymgysylltu'n fawr â'r ymarfer a gyflwynwyd iddynt ac yn mwynhau gweithredu fel yr heddlu a gwyddonwyr fforensig. Diolch i PDC am ein gwahodd a gobeithio am ysbrydoli rhai troseddegwyr a swyddogion heddlu'r dyfodol."
Dywedodd Helen Martin, Pennaeth Heddlua a Throseddeg PDC: "Rydym wrth ein bodd gyda pha mor boblogaidd y mae'r digwyddiadau hyn wedi bod gydag ysgolion a cholegau. Rydym hyd yn oed wedi cael rhestrau aros ar gyfer rhai dyddiadau.
"Ein nod yw cael yr oedolion ifanc hyn i feddwl yn feirniadol ac o wahanol safbwyntiau, gan roi blas iddynt ar bynciau y gallent fynd ymlaen i'w hastudio pan fyddant yn gadael yr ysgol. Cafodd disgyblion YGA amser gwych a byddent yn gwneud myfyrwyr prifysgol rhagorol un diwrnod."