Prif Weinidog Cymru yn canmol cysylltiadau cryf rhwng Casnewydd a Georgia yn ystod ymweliad â PDC
1 Rhagfyr, 2023
Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i’w Champws yng Nghasnewydd ddoe (dydd Iau 30 Tachwedd) lle cyfarfu â myfyrwyr o Georgia.
Is-ganghellor Prifysgol De Cymru, Dr Ben Calvert, Prif Weinidog Mark Drakeford, Kristine Dzagnidze a Levan Kvinikadze.
Roedd ymweliad y Prif Weinidog yn cydnabod cysylltiadau’r Brifysgol â Georgia, fel rhan o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda Phrifysgol Talaith Akaki Tsereteli yn Kutaisi, sy’n cynnig ysgoloriaethau i dri myfyriwr i astudio gradd Meistr llawn amser ym Mhrifysgol De Cymru. Mae Casnewydd wedi ei gefeillio â dinas Sioraidd Kutaisi ers 1989.
Cyfarfu â dau fyfyriwr, Kristine Dzagnidze a Levan Kvinikadze, sy’n astudio cyrsiau MA ym maes pwnc Dysgu Proffesiynol mewn Addysg, sydd wedi’u lleoli ar Gampws Casnewydd PDC, i glywed am eu hamser yn y Brifysgol.
Dywedodd Kristine, sy’n fyfyriwr MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu): “Mae cael budd o’r ysgoloriaeth hon yn bwysig iawn i mi oherwydd hebddi, ni fyddwn wedi gallu dilyn addysg yma yng Nghymru. Rwy’n dod o deulu o addysgwyr, ac felly mae astudio ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n cael ei ganmol yn eang am ei gyrsiau Addysgu, yn gyfle gwych. Ar ôl graddio rwy’n gobeithio gweithio yn y Weinyddiaeth Addysg a Gwyddoniaeth yn Georgia, lle gallaf gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillais yn ystod fy astudiaethau.”
Ychwanegodd Levan, sy’n astudio ar y rhaglen MA Arwain a Rheoli (Addysg): “Rwy’n teimlo’n freintiedig o fod wedi cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru heddiw, ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i astudio gyda’r ysgoloriaeth hon, sy’n caniatáu i mi ganolbwyntio ar fy addysg a datblygiad personol. Rwy’n fathemategydd, ac rwy’n gobeithio cael profiad rhyngwladol y gallaf ei ddatblygu ymhellach yn ôl yn fy mamwlad.”
Roedd gwleidyddion lleol hefyd yn bresennol ar ymweliad y Prif Weinidog
Yn ystod ei ymweliad, cyflwynodd y Prif Weinidog hefyd grys rygbi Sioraidd i’r Brifysgol, a roddwyd iddo yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn gynharach eleni.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Roedd yn bleser cwrdd â Kristine a Levan a dysgu am eu profiad o astudio ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd cyflwyno’r crys rygbi iddynt yn dod ag atgofion melys yn ôl o’r gêm gyffrous rhwng Cymru a Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd a’r parch a’r cynhesrwydd rhwng y ddwy wlad, ar y cae ac oddi arno.
“Mae addysg yn adeiladu pontydd a gall helpu i ddod â chenhedloedd yn nes at ei gilydd, hyd yn oed os ydynt yn ddaearyddol bell oddi wrth ei gilydd. Edrychaf ymlaen at weld y cysylltiadau rhwng Casnewydd a Kutaisi a’r ddwy brifysgol yn cael eu cryfhau ymhellach fyth drwy’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.”