Sut mae ymennydd dynol yn ymdopi yn y gofod?
9 Tachwedd, 2023
Mae academyddion o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi bod yn gweithio gyda chriw gofod rhyngwladol, sy'n cychwyn ar daith hyd blwyddyn i'r ganolfan fwyaf anghysbell ar y Ddaear.
Mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), Sefydliad Pegynol Ffrainc (IPEV), Rhaglen Eidalaidd Genedlaethol yr Antarctig (PNRA) a Chanolfan Awyrofod yr Almaen (DLR), bydd yr Athro Damian Bailey, Prif Ymchwilydd a'r Athro Ffisioleg a Biocemeg Gymdeithas Frenhinol Wolfson, a Benjamin Stacey, Darlithydd mewn Gwyddoniaeth Glinigol, o Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd PDC, yn ymchwilio i'r effeithiau ar yr ymennydd pan fyddant yn agored i gyfnodau estynedig o lefelau isel o ocsigen (hypocsia), sy'n gynhenid wrth archwilio'r gofod.
Yr wythnos hon mae criw’r alldaith yn teithio i Orsaf Ymchwil Concordia. Wedi'i leoli yn Antarctica, mae Concordia, wedi'i leoli ar lwyfandir 3200m uwchben lefel y môr gyda'r tymheredd yn gostwng i -80 °C yn y gaeaf, gyda thymheredd blynyddol cyfartalog o -50 °C. Gan fod Concordia ar union ben deheuol y Ddaear, nid yw'r haul yn codi uwchlaw'r gorwel yn y gaeaf ac nid yw'n machlud yn yr haf. Rhaid i'r criw fyw heb olau'r haul am bedwar mis o'r flwyddyn. Mae'r amodau yn y ganolfan yn wahanol i unrhyw le arall yn y byd, felly mae'n cynnig cyfleoedd ymchwil eithriadol.
Yn gynharach eleni, wrth baratoi ar gyfer yr alldaith, cynhaliodd ymchwilwyr PDC fesuriadau sylfaenol ar aelodau'r criw yng nghyfleuster ymchwil feddygol Envihab yng Nghanolfan Awyrofod yr Almaen (Deutsches Zentrum für Luft- und Raumfahrt [DLR]).
Dywedodd yr Athro Bailey: "Bydd dyfodol archwilio dynol y gofod yn gofyn i ofodwyr berfformio gweithgareddau y tu allan i'w llong ofod, ac o ganlyniad profi cyfnodau estynedig o hypocsia. Mae canlyniadau hirdymor y diffyg ocsigen estynedig hwn wedi bod yn gysylltiedig ag amhariad dysgu ac ar y cof i’r rhai sy'n methu ag ymgynefino i'r amgylchedd.
"Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfle unigryw i ni gasglu data hydredol i archwilio sut yn union mae'r ymennydd yn ymddwyn mewn ymateb i'r straen amgylcheddol hwn trwy asesu newidiadau yn strwythur a gweithgarwch yr ymennydd, a thrwy hynny gyfrannu at ddyfodol archwilio'r gofod.
"Ar gyfer cam nesaf yr ymchwil, rydym wedi hyfforddi doctor meddygol o fewn y criw i gasglu data ar ein cyfer. Yn anffodus, ni allem fynd ein hunain heb aros am chwe mis, gan nad oes unrhyw ffordd o gyrraedd neu adael Concordia yn ystod misoedd y gaeaf."
Mae'r tîm ymchwil yn gweithio gyda nifer o gwmnïau sy'n arwain y diwydiant gan gynnwys: Hyperfine i gynorthwyo gyda Delweddu Cyseinedd Magnetig symudol yr ymennydd; Heidelberg Engineering UK ar gyfer Tomograffeg Cydlyniant Optegol i hwyluso delweddu llygaid; ac AD Instruments i gynorthwyo gyda chasgliad y data.