Arddangos PDC yn yr Eisteddfod Genedlaethol

2 Awst, 2024

Llythyrenau coch yr Eisteddfod mewn cae

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn falch o noddi Eisteddfod Genedlaethol 2024 – un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop – a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd rhwng 3 a 10 Awst.

O’n stondin PDC ar y Maes, ac ar ein Campws yn Nhrefforest, byddwn yn arddangos popeth sydd gan y brifysgol i’w gynnig, gan gynnal amserlen lawn trwy gydol yr wythnos gyda gweithgareddau cyffrous i ymwelwyr o bob oed eu mwynhau.

Bydd y gweithgareddau ar ein stondin yn cynnwys:

Cystadleuaeth Sgïo Erg: Profwch eich cryfder, eich cyflymder a'ch dygnwch gyda sgïo 100m. Bydd hyn yn rhedeg trwy gydol yr wythnos, gyda gwobrau dyddiol i'r person cyflymaf i gyrraedd 100m.

Cylchgrawn Ffasiwn: Bydd ein myfyrwyr Ffasiwn yn dogfennu eiliadau ffasiwn eiconig o bob rhan o’r Maes, ac yn cynnwys yr holl ddelweddau mewn cylchgrawn digwyddiad i’w harddangos a’u rhannu ag ymwelwyr.

Gweithdai Iechyd a Nyrsio Perthynol: Ymunwch ag academyddion o'n cyrsiau Iechyd a Nyrsio Perthynol i brofi ein hoffer gofal iechyd o'r radd flaenaf.

Argraffu crys-T: Ymunwch ag academyddion a myfyrwyr Ffasiwn a chreu eich crys-T personol eich hun.

Model ymennydd: Erioed wedi meddwl sut olwg sydd ar eich ymennydd, a beth mae'n ei wneud? Ymunwch â ni wrth i'n darlithwyr Seicoleg ddangos model o'r ymennydd dynol a'i swyddogaeth.

Citiau STEM: Rhowch gynnig ar rai o'n gemau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Addysg Gynradd ac Addysgu: Ymunwch ag academyddion o'n tîm Addysg Gynradd ar gyfer gweithgareddau crefft a theithiau Realiti Rhithwir o amgylch ein gofodau addysgu o'r radd flaenaf.

Gweithdai Effeithiau Gweledol: Defnyddiwch ein sgrin werdd gludadwy i weld eich hun mewn lleoliadau a chefnlenni syfrdanol, heb adael y stondin.

Gweithdy Steilio Ffasiwn: Defnyddiwch ein rheiliau steilio i greu edrychiadau eiconig.

CSI: Eisteddfod – Gweithdy Dadansoddi Fforensig: Datgloi eich ditectif mewnol! Ymwelwch â ni i ddarganfod y cliwiau, llwch am olion bysedd a datgelu cyfrinachau dal y llofrudd!

Sesiwn y gyfraith: Ymunwch â'n darlithoedd yn y Gyfraith i drafod y gyfraith ar waith. Byddwn yn ystyried eich diogelwch ar gyfryngau cymdeithasol, pwerau dedfrydu ac a yw cacen Jaffa yn gacen neu'n fisged.

Gweithdy Presgripsiynu Cymdeithasol: Dysgwch fwy am Ragnodi Cymdeithasol a sut mae’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Gallwch hefyd ddysgu am yr offeryn gwydnwch teulu (FRAIT) a ddatblygwyd yn PDC.

Cerddoriaeth fyw: Ymunwch â ni ar gyfer perfformiadau byw gan fyfyrwyr PDC, myfyrwyr coleg partner a chyn-fyfyrwyr, gan gynnwys AWDL, MELLT, Rhosyn Jones a Melys Edwards.

Derbyniad cyn-fyfyrwyr: Byddwn yn cynnal derbyniad arbennig i ddathlu ein cyn-fyfyrwyr anhygoel.

Arddangosfeydd: Byddwn yn arddangos gwaith ein myfyrwyr Ffotograffiaeth Ddogfennol yn y prosiect Station to Station, sef cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru sy’n rhoi cipolwg ar fywyd bob dydd yng nghymoedd De Cymru. Bydd Finding Home hefyd yn cael ei arddangos, sef arddangosfa yn adrodd hanesion myfyrwyr PDC sydd wedi ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth ac sydd bellach yn ailadeiladu eu bywydau fel ffoaduriaid yng Nghymru Bydd aelod o staff PDC a’r awdur Peter Roberts, hefyd ar y safle i sgwrsio ag ymwelwyr am ei lyfrau ar gymoedd y Rhondda, Pub Life a Park Life, sy’n cynnig darn o hanes cymdeithasol, cymuned a diwylliant trwy dafarndai a phêl-droed ar lawr gwlad.

Darganfyddwch am PDC: Darganfod mwy am ddod yn fyfyriwr PDC, sgwrsio am ein cyrsiau ac ymweld â'n campysau yn rhithwir trwy glustffonau VR.

Teithiau campws y gellir eu harchebu: Cofrestrwch ar gyfer taith o amgylch rhai o’n cyfleusterau gwych ym Mhontypridd, gan gynnwys ein Parc Chwaraeon, Tŷ Ymchwilio i Leoliadau Trosedd, Hangar Awyrennau ac Efelychydd Hedfan, a’n Canolfan Efelychu Gofal Iechyd.

Gallwch weld rhaglen o ddigwyddiadau PDC yma.

Mae PDC hefyd yn falch o fod yn gyd-noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg – rhan annatod o’r ŵyl – ochr yn ochr â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR).

Bydd PDC a CCR wedi’u lleoli yn y Pentref i gynghori ar lwybrau gyrfa ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd uwchsgilio mewn sgiliau seibr a digidol yn Ne Ddwyrain Cymru.

Gwahoddir ymwelwyr i ymuno â PDC ar gyfer gweithdy Rocketry 101, lle gallant adeiladu eu roced eu hunain a mynychu digwyddiad lansio rocedi VIP yn ein Parc Chwaraeon yn ddiweddarach yn yr wythnos. Bydd PDC hefyd yn cynnal sgwrs ar Ddyfodol Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg.

Gallwch weld rhaglen o ddigwyddiadau’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yma.

Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-ganghellor PDC: “Rydym yn falch iawn o fod â phresenoldeb sylweddol ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac o fod yn cefnogi’r ŵyl wrth iddi ddod i Bontypridd am y tro cyntaf ers dros 130 o flynyddoedd.

“Mae’r Eisteddfod yn rhoi llwyfan i ni arddangos y gwaith gwych rydyn ni’n ei wneud yn PDC, ac rydw i’n falch bod ein cydweithwyr a’n myfyrwyr wedi llunio rhaglen mor llawn dop o weithgareddau cyffrous ac arloesol i bawb sy’n dod i’n stondin.”