Disgyblion yn mwynhau blas ar fywyd yn PDC

20 Awst, 2024

dau fyfyriwr yn gwisgo hetiau bwced a sbectol haul Prifysgol De Cymru

Croesawodd Prifysgol De Cymru (PDC) 34 o ddysgwyr i Drefforest y mis hwn ar gyfer ymweliad preswyl dros nos fel rhan o Ysgol Haf PDC ac Ymestyn yn Ehangach.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i'r dysgwyr chweched dosbarth, o ysgolion a cholegau ledled y DU, gael profiad gwirioneddol o fywyd prifysgol.

Dyluniwyd y digwyddiad yn benodol i gefnogi darpar fyfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ac sy'n wynebu rhwystrau trwy gydol eu haddysg.

O weithgareddau cymdeithasol, aros mewn Neuaddau Preswyl, a chwrdd â dysgwyr eraill, mwynhawyd y profiad trochi ar bob ochr. Rhoddwyd cyfle i'r dysgwyr gymryd rhan mewn sesiynau pwnc-benodol a chael cyngor a gwybodaeth bwysig gan academyddion.

Roedd llysgenhadon PDC hefyd wrth law i sgwrsio â'r dysgwyr a rhoi cipolwg iddynt ar fywyd myfyriwr PDC.

Dywedodd Lisamarie, un o'r dysgwyr a fynychodd yr Ysgol Haf: "Byddwn 100% yn argymell yr Ysgol Haf i ddysgwyr y flwyddyn nesaf. Mae'r staff yn hyfryd. Rydych chi'n cael cwrdd â llawer o ffrindiau, ac mae’r llysgenhadon myfyrwyr yn gymwynasgar iawn."

Dywedodd Alexandra Roberts, Uwch Swyddog Recriwtio Myfyrwyr: "Mae'r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant mawr. Rydym wedi cael 34 o bobl ifanc ar y campws ac mae'r adborth wedi bod yn wych.

"Roedd y sesiynau academaidd yn uchafbwynt gwirioneddol i lawer. Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y prosiect hwn, heboch chi, ni fyddai'r Ysgol Haf yn mynd yn ei blaen.

"Edrychwn ymlaen at garfan y flwyddyn nesaf a chroesawu'r rhai a fynychodd yr Ysgol Haf i'r Brifysgol ym mis Medi"

Bydd holl fynychwyr yr Ysgol Haf sy'n cofrestru ar gwrs gradd israddedig tair neu bedair blynedd llawn amser yn PDC ym mis Medi 2025 yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth Ysgol Haf PDC. Mae'r fwrsariaeth yn werth £500 a bydd yn anelu at gefnogi gyda thechnoleg neu ddeunyddiau a chostau eraill sy'n gysylltiedig â'r cwrs.