Gemau Olympaidd 2024 | Amgylchedd ffyniannus ar gyfer athletwyr elitaidd

9 Awst, 2024

Mae Hannah yn gwisgo crys-t du gyda logo coch Chwaraeon PDC arno. Mae ganddi wallt hir tywyll, syth ac mae'n gwenu ar y camera. Y tu ôl iddi mae logo mawr coch Chwaraeon PDC ar y wal.

Mae Dr Hannah Wixcey, Cymrawd Ymchwil yn Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru a Phrifysgol De Cymru (PDC), wedi bod yn cydweithio â Chwaraeon Cymru i gefnogi athletwyr elitaidd i ffynnu.

“Mae ffynnu yn cynnwys sawl proses yn rhyngweithio dros amser. Er mwyn i athletwyr ffynnu, mae angen iddynt brofi datblygiad a llwyddiant ar draws gwahanol feysydd o'u bywyd, fel chwaraeon, ysgol neu deulu. Mae hyn yn cynnwys gweithredu'n gyfannol, a brofir trwy dyfu a llwyddo, cael ymdeimlad uchel o les, a lefel uwch o berfformiad goddrychol. Gellir cyflawni hyn trwy sicrhau bod eu hanghenion seicolegol sylfaenol yn cael eu diwallu (teimlo bod ganddynt reolaeth, â’r gallu a chysylltiadau) a gweld heriau fel cyfleoedd i wella,” esboniodd Dr Wixcey.

Er mwyn creu diwylliant cadarnhaol sy’n hyrwyddo’r cysyniad hwn, mae Chwaraeon Cymru wedi cyflwyno rhai mentrau ar gyfer athletwyr o dan ymbarél y prosiect ‘Amgylchedd Ffyniannus’.

Dywedodd Dr Simon Middlemas, Seicolegydd Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru: “Roeddem ni wir eisiau deall sut olwg fyddai ar athletwr sy’n perfformio ar lefel uchel, ond hefyd yn datblygu ac yn meddu ar lefel dda o les.

“Un o’n mentrau fu ‘Straeon Bywyd’. Rydym yn gweithio gydag athletwyr wedi ymddeol, hyfforddwyr profiadol ac arweinwyr ac rydym yn eu cyfweld am eu bywydau i ddeall sut mae eu profiad wedi newid dros amser. Pryd maen nhw wedi ffynnu a ddim wedi ffynnu?

“Rydym hefyd wedi sefydlu’r ‘Prosiect Clwb Coffi’. Mae’r ‘cyfarfodydd’ wyneb yn wyneb hyn yn rhoi ‘man diogel’ i athletwyr lle gallant rannu gwybodaeth a phrofiadau, yn ogystal â meithrin cydberthynas a hyder. Mae'n swnio fel syniad syml ond mae llawer o waith meddwl a threfnu y tu ôl i'r cyfarfodydd fel bod pawb yn cael eu cefnogi mewn amgylchedd anffurfiol a hamddenol.

“Gobeithio bod hyn oll yn arwain yr athletwyr at brofiadau gwell o fewn yr amgylchedd dan bwysau rydym yn gweithio ynddo.”

Mae’r prosiect hefyd yn myfyrio ar brofiadau rhieni athletwyr. Mae Chwaraeon Cymru am greu ‘llawlyfr rhieni’, lle gall rhieni profiadol fentora rhieni sy’n newydd i’r amgylchedd, gan eu helpu i gael cyfnod pontio llyfnach sydd, yn ei dro, yn cefnogi’r athletwr.

Ond sut ydych chi'n gwybod a yw athletwyr yn ffynnu a beth yw'r rhwystrau i ffynnu? Dyma beth mae Dr Wixcey yn ymchwilio iddo wrth iddi goladu a dadansoddi'r data o'r mentrau. Meddai: “Y nod yw nodi’r ffactorau a’r themâu sy’n dylanwadu ar amgylcheddau ffyniannus a chyflwyno argymhellion cymhwysol yn ôl i Chwaraeon Cymru ar sut y gellir defnyddio’r rhain i ddatblygu adnoddau ac ymyriadau ar gyfer ymarferwyr chwaraeon, hyfforddwyr, athletwyr a rhieni.”

“Mae’r ymchwil yn parhau ond gallai un o’r ymyriadau hyn gynnwys defnyddio modelau rôl, er enghraifft. Os ydych chi'n athletwr ifanc elitaidd, pwy sy’n eich ysbrydoli chi? Esiampl pwy ydych chi'n ei ddilyn? Efallai nad rhieni, athrawon a hyfforddwyr yw’r rhain. Gallent gael eu dylanwadu gan eu cyfoedion. Felly, er enghraifft gyda straeon bywyd, rydym yn dangos iddyn nhw rywun sydd wedi bod ar yr un daith honno fel y gallan nhw efallai wneud trawsnewidiadau gwell neu ddewisiadau gwell ar wahanol adegau o’u bywyd.”

Dywedodd Dr Middlemas: “Rydym yn newid y ffordd rydym yn edrych ar chwaraeon perfformio o rywbeth sydd ond yn ymarfer ennill neu golli, i ganolbwyntio ar ddatblygiad ochr yn ochr â pherfformiad – gan greu diwylliannau cadarnhaol, a thrwy hynny roi profiad cyffredinol gwell i athletwyr.”