Mae dronau yn ein helpu i ddeall sut y gallai ffrwydrad folcanig yng Ngwlad yr Iâ fwy na dwy ganrif yn ôl fod wedi lladd pobl yng Nghymru
13 Awst, 2024
Mae tîm o ymchwilwyr a fylcanolegydd o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi defnyddio offer arbenigol i ddatblygu delweddaeth fanwl a golwg rhithwir o un o fynyddoedd mwyaf dramatig gogledd Ewrop.
A gallai helpu daearegwyr i gael dealltwriaeth well o lawer o’r gweithgarwch folcanig sydd wedi llunio tirwedd Gwlad yr Iâ.
Yn gynharach eleni, defnyddiodd tîm ymchwil Gwybodeg Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) PDC ddronau i arolygu mynydd Lómagnúpur yn ne Gwlad yr Iâ. Yn codi i 764 metr uwchben lefel y môr, ar un ochr o’r clogwyni ceir clogwyni mewndirol uchaf y wlad, sef 671m, sy'n agos at dri chwarter uchder Pen y Fan.
Roedd y gwaith cychwynnol o gwblhau’r arolwg dronau yn anarferol i dîm ymchwil GIS PDC, oherwydd fel arfer cânt eu gwneud gydag ymweliad cychwynnol â safle’r daith hedfan.
Fodd bynnag, oherwydd bod y mynydd fwy na 1,000 o filltiroedd o Dde Cymru, defnyddiwyd pensetiau VR wedi'u cysylltu â Google Earth ynghyd â meddalwedd drôn arbenigol i gynllunio ac efelychu'r holl daith hedfan.
“Roedd y model 3D a gynhyrchwyd yn dda, gyda llawer o fanylion,” meddai Joseph Griffiths, darlithydd Gwybodeg PDC a wnaeth yr arolwg dronau, ynghyd â’i gydweithiwr Nathan Thomas, peilot dronau profiadol a chymwys.
“Mae’r model 3D yn eithaf trawiadol ac yn cael ei gynhyrchu o gannoedd o luniau unigol sy’n cael eu prosesu i mewn i gwmwl pwynt geo-gyfeiriol cymhleth iawn. Mae lle bellach i ddatblygu golwg VR rhyngweithiol ohono a hefyd y posibilrwydd o gynhyrchu model 3D manwl o’r mynydd wedi’i argraffu, fel bod pobl yn gallu gweld yn union sut mae’n edrych.”
Mae arolwg dronau Gwlad yr Iâ a gwaith maes daearegol wedi’u cynnal diolch i gyllid gan Taith, cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cydweithredu ymchwil rhyngwladol, yn yr achos hwn gyda gwyddonwyr o Brifysgol Gwlad yr Iâ. Mae daearegwyr o Brifysgolion Newcastle a Chaerhirfryn hefyd yn rhan o'r astudiaeth.
Eglurodd y Fylcanolegydd Dr Ian Skilling, sy'n uwch ddarlithydd yn PDC, pam y gallai'r arolwg a'r gwaith maes ar y mynydd fod mor bwysig.
“Bydd manylion Lómagnúpur sydd wedi’u dal gan y drôn yn bwysig iawn i ddaearegwyr sy’n astudio hanes gweithgarwch folcanig yr ardal ac yn helpu i ragweld beth allai ddigwydd yn y dyfodol yn yr ardal hynod folcanig hon o Wlad yr Iâ,” meddai.
“Mae’r mynydd yn agos iawn at losgfynydd mwyaf byw Gwlad yr Iâ, Grimsvotn, sydd mewn gwirionedd o dan gapan iâ mwyaf Ewrop o’r enw Vatnajökull, ac fel arfer yn ffrwydro bob ychydig flynyddoedd. Mae'r ardal hon o Wlad yr Iâ â llosgfynyddoedd byw ers miliynau o flynyddoedd.
“Rydyn ni’n gwybod bod ffrwydrad enfawr ar ymyl y capan iâ wedi cynhyrchu tua 22 cilomedr ciwbig o lafa tua 240 mlynedd yn ôl, y llif lafa mwyaf mewn hanes sydd wedi’i gofnodi, ac wedi achosi pluen o nwy gwenwynig dros Ewrop. Yn ôl cofnodion plwyfi o'r cyfnod, fe allai hyn fod wedi achosi llawer o farwolaethau yng Nghymru.
“Pe bai ffrwydrad mawr tebyg o dan y capan iâ hwn yn digwydd nawr, gallai fod problem ddifrifol gyda nwyon gwenwynig ac effeithiau ar awyrennau o ganlyniad i’r lludw yn yr atmosffer.
“Dyna pam bod hedfan y drôn o amgylch Lómagnúpur ac archwilio’r creigiau’n fanwl yn y maes yn bwysig iawn, gan fod y mynydd yn darparu cofnod hir o ryngweithio llifoedd lafa mawr a chapiau iâ yn y gorffennol.”
Joseph Griffiths, Nathan Thomas, a Dr Ian Skilling o flaen Lómagnúpur yng Ngwlad yr Iâ