Myfyrwyr busnes yn mynd y tu ôl i'r llenni yn Amazon

30 Awst, 2024

Myfyrwyr MBA yng nghanolfan BRS2 Amazon yn Swindon

Mae myfyrwyr MBA ym Mhrifysgol De Cymru wedi cael cipolwg gwerthfawr ar sut mae robotiaid a phobl yn gweithio ochr yn ochr i gyflwyno miloedd o barseli bob dydd, yn ystod ymweliad â chanolfan gyflawni BRS2 Amazon yn Swindon.

Roedd yr ymweliad yn rhan o gydweithrediad rhwng PDC, Amazon a'r cwmni logisteg Junction 4, lle cafodd myfyrwyr brofiad o brosiectau go iawn yn archwilio cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd gweithredol yn y cwmni byd-eang.

Tra yn y ganolfan, cyfarfu'r myfyrwyr â Phenaethiaid Prynu, Gweithrediadau a Chynaliadwyedd Amazon, gan drafod pynciau fel optimeiddio'r gadwyn gyflenwi, lleihau ôl-troed carbon, ac arferion caffael cynaliadwy.

Ymunodd arweinwyr y cwrs MBA, Peter Murphy a Moizzah Asif, ynghyd â'r darlithydd a'r goruchwyliwr prosiect Graeson John Clarke, â'r myfyrwyr ar yr ymweliad â'r ganolfan 550,000 troedfedd sgwâr, lle mae Amazon yn defnyddio robotiaid o'r radd flaenaf i gario eitemau i weithwyr.

Dywedodd Moizzah: “Rhoddodd yr ymweliad safbwyntiau newydd i'n myfyrwyr ar y berthynas rhwng cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd gweithredol. Maent bellach wedi cwblhau eu prosiectau yn llwyddiannus, ac yn meddu ar y wybodaeth i fynd i'r afael â heriau busnes yn y dyfodol, gan gynnig atebion ac argymhellion arloesol.

“Amlygodd y profiad hwn werth cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant wrth baratoi arweinwyr busnes y dyfodol, trwy ddangos cymhwysiad ymarferol cysyniadau damcaniaethol a phwysigrwydd dysgu drwy brofiad.”

Ychwanegodd Zahara Azhar, un o’r myfyrwyr ar yr ymweliad: “Mae ein profiad yn warws Amazon BRS2 wedi ychwanegu gwerth aruthrol i'n prosiect terfynol. Roedd camu i ganolbwynt prysur gweithrediadau Amazon yn caniatáu inni weld yn uniongyrchol y technolegau arloesol a'r prosesau effeithlon sy'n gyrru llwyddiant un o gewri e-fasnach mwyaf blaenllaw'r byd.

“Nid yn unig rhoddodd fewnwelediadau amhrisiadwy i ni o gymhlethdodau logisteg e-fasnach, ond hefyd cryfhau canlyniadau ein prosiect trwy seilio ein hargymhellion mewn arsylwadau yn y byd go iawn. Roedd yr ymweliad yn uchafbwynt fy nghwrs MBA yn bendant.”

Dywedodd Wasana De Silva, myfyriwr arall a gymerodd ran: “Mae'r trochi i weithrediadau warws a phaled Amazon wedi ein helpu i ddeall ei gymhwysiad datblygedig o dechnoleg arloesol, a sut mae hynny'n gweithio law yn llaw â rôl hanfodol personél medrus wrth optimeiddio gweithrediadau logisteg.

“Helpodd y profiad hwn i fireinio ein galluoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan ddod â nhw yn unol ag arferion busnes modern a'r cyfleoedd a gyflwynir gan yr amgylchedd corfforaethol sy'n newid yn barhaus.”

Bydd y cydweithio parhaus rhwng PDC, Amazon a Junction 4 yn gweld mwy o fyfyrwyr MBA yn ymgymryd â phrosiectau yn yr hydref.