Cwmni adeiladu wedi’i benodi ar gyfer Clinig Ceiropracteg newydd yn PDC

28 Chwefror, 2024

Argraff arlunydd o'r clinig ceiropracteg newydd. Mae'r ddelwedd yn dangos adeilad mawr a modern.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi penodi Kier Group fel adeiladwyr Clinig Ceiropracteg newydd, a fydd yn cael ei adeiladu ar Gampws Trefforest erbyn gwanwyn 2025.

Bydd y Clinig, sef gartref newydd i Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIOC), yn estyniad o'r cyfleusterau dysgu ac addysgu ar gyfer Ceiropracteg ar waelod y campws.

Bydd y prosiect yn disodli’r cyfleusterau presennol ym Mharc Busnes William Price, gan ddod â’r holl ddysgu, addysgu a thriniaethau at ei gilydd ar yr un safle am y tro cyntaf ers i’r cwrs gradd Meistr Ceiropracteg (MChiro) ddechrau ym 1997.

Dechreuodd Kier Group ar y gwaith adeiladu y mis hwn, ac maen nhw wedi dechrau ar y gwaith adeiladu yn barod i osod ffrâm ddur yr adeilad at ei gilydd. Disgwylir i adeilad y Clinig gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025, a bydd yn croesawu cleifion newydd o haf 2025.

Wedi’i ddylunio gan dîm o benseiri o Stride Treglown, o leolir yng Nghaerdydd, bydd yr adeilad deulawr 900sqm yn cynnwys ystafelloedd trin, ystafelloedd sganio DXA (dwysedd esgyrn) ac uwchsain, ystafell seminar a mannau cymorth i fyfyrwyr a chydweithwyr, ymhlith llawer o gyfleusterau eraill.

Bydd yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, cynaliadwy a bioddiraddadwy i sicrhau bod yr adeilad mor wydn ac effeithlon o ran ynnu â phosibl, gan gefnogi nod PDC o ddod yn garbon niwtral erbyn 2040.

Nick Fletcher, Pennaeth Prosiectau a Rheoli Gofod yn PDC, sy'n goruchwylio'r prosiect. Dywedodd: “Drwy symud y cyfleusterau Ceiropracteg allan o Barc Busnes William Price, bydd hyn yn caniatáu i ddysgu Ceiropracteg a chlinig WIOC gael eu lleoli mewn un adeilad, yn hytrach na’u lledanu dros bedwar. Mae hyn hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at atgyfnerthu ein gweithgarwch ym Mhontypridd, a sicrhau mwy o fywiogrwydd a phrofiad myfyrwyr.”

Ychwanegodd yr Athro David Byfield, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol: “Rydym yn gyffrous iawn i weld gwaith adeiladu’n dechrau ar y clinig newydd, a fydd yn ategu ein gofod dysgu ac addysgu newydd rhagorol yr ydym wedi bod yn ei ddefnyddio ers 2022.

“Bydd y gofod yn darparu seilwaith ar gyfer ystadau addysgu a chlinig cyfoes, pwrpasol i fodloni gofynion y cwrs ac anghenion clinigol cleifion allanol, a ddiogelir at y dyfodol am y 25 mlynedd nesaf. Mae hyn wedi creu mannau cymdeithasol a dysgu bywiog sy’n gwella profiad myfyrwyr o fewn addysgu prif ffrwd a’r tu allan iddi.”

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction y Gorllewin a Chymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn adeiladu’r Clinig Ceiropracteg newydd hwn, ac i barhau â’n perthynas â PDC, ar ôl cyflawni’r Parc Chwaraeon ym Mhontypridd yn flaenorol.

“Ar ôl ei gwblhau, bydd y clinig newydd yn adeilad pwysig ar gyfer preswylwyr a’r brifysgol, gan ychwanegu at gyfleusterau gofal iechyd lleol a helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i hyfforddi yn PDC.”