Diwrnod Amser i Siarad | Myfyriwr cwnsela yn dylunio llyfr ar gyfer cyfoedion
1 Chwefror, 2024
Mae Chloe Hayden, o Lanedern, yn ei blwyddyn olaf yn astudio BA (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig. Yn ystod ei hastudiaethau, creodd ateb arloesol ar gyfer nodiadau’r therapydd yn ystod sesiynau cwnsela.
“Pan ddechreuais i weithio gyda chleientiaid, roeddwn i'n defnyddio llyfr nodiadau sylfaenol ond roeddwn i eisiau rhywbeth mwy strwythuredig,” meddai.
“Ni allwn ddod o hyd i unrhyw beth yn union fel yr oeddwn ei eisiau felly fe wnes i ddylunio un a’i roi ar werth trwy Kindle Direct Publishing ar Amazon. Mae pobl wedi bod yn ei brynu, sy’n wefreiddiol, ond roeddwn i’n hapus i gael un at fy nefnydd fy hun.”
Mae gan Chloe sawl adolygiad 5 seren ar Amazon, gan gynnwys: “Am lyfr nodiadau bach gwych ar gyfer cofnodi nodiadau cleientiaid, yn ystod sesiwn gwnsela go iawn. Mae’n cadw'r holl nodiadau mewn un lle ac yn wych gyda'r gwahanol adrannau â phenawdau, ar gyfer gwahanol rannau o'r sesiwn. Llyfr wedi'i ddisgrifio fel llyfr nodiadau ar gyfer Therapyddion, wedi'i ddylunio gan Therapydd, syniad da a strwythur da, byddai’n gymorth mawr i unrhyw therapydd."
Yn y dyfodol, mae Chloe yn bwriadu creu mwy o lyfrau i hybu hunanofal ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Ochr yn ochr â’i gwaith cyflogedig, astudio a sesiynau cwnsela, mae Chloe yn eiriolwr dros iechyd meddwl. Mae hi'n angerddol am godi ymwybyddiaeth y rhai sy'n cael trafferthion emosiynol, yn enwedig plant ysgol.
Dywedodd: “Roeddwn i’n ddioddefwr trais rhywiol pan oeddwn i’n ifanc. Cefais fy mwlio yn yr ysgol hefyd ac ni chefais unrhyw gefnogaeth trwy gyfnod anodd iawn pan oeddwn i’n unig iawn. Gwelais hefyd aelodau o’r teulu a gafodd drafferthion gydag iechyd meddwl, pan oeddent yn yr ysgol, ac nid oedd strwythur mewn lle i’w helpu.”
Mae Chloe yn ymladd dros well darpariaeth o gymorth iechyd meddwl yn y system addysg drwy ei rôl fel Miss Voluptuous Wales. Meddai: “Doeddwn i erioed wedi ystyried pasiantri ond daeth o sgwrs am sut y gallwn ymgyrchu dros fy achos. Fe wnes i gais, es i drwy broses gyfweld a chefais fy newis.
“Mae’n un o’r pethau gorau rwyf erioed wedi’i wneud. Mae wedi rhoi llwyfan i mi, wedi rhoi hwb i fy hyder, ac wedi cadarnhau perthnasoedd anhygoel gyda chyd-gystadleuwyr. Nid yw'n teimlo fel cystadleuaeth, yn debycach i deulu cynhwysol.”
Dywed Chloe mai ei hen dad-cu, a fu farw’r llynedd, yw ei hysbrydoliaeth fwyaf. Meddai: “Yn ei fywyd roedd yn elusengar iawn ac yn fodel rôl eithriadol yn y gymuned. Yr oedd yn cael ei garu gan bawb oedd yn ei adnabod. Hoffwn ddilyn ei olion traed a pharhau â’i etifeddiaeth.”