PDC yn noddi Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd 2024

14 Chwefror, 2024

Coesau Rhedwyr Marathon yn yr Admiral - Marathon Casnewydd 2024

Bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn noddwr swyddogol ar Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd eleni.

Cynhelir y ras ar ddydd Sul 3 Mawrth dan arweiniad Gofal Hosbis Dewi Sant, a fydd yn codi arian at gefnogi cleifion hosbis ledled De Powys a De Ddwyrain Cymru. Hwn fydd y 12fed tro i'r digwyddiad gael ei gynnal.

Bydd y ras yn cychwyn am 9AM ar Ffordd Brynbuga ger Campws Casnewydd PDC. Mae'r cwrs yn mynd tua’r De, dros Bont y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol, i’r chwith i fyny Ffordd Corporation cyn arwain y cystadleuwyr at Gaerllion gan ddychwelyd ar hyd y llwybr astellog at ganol y ddinas.

Dywedodd Christine Vorres, Rheolwr Codi Arian Gofal Hosbis Dewi Sant: "Mae’n fraint gennym gynnal ein digwyddiad codi arian blaenllaw ar Gampws Casnewydd Prifysgol De Cymru unwaith yn rhagor.

"Byddwn yn cynnal Ras Hwyl i'r Teulu Friars Walk ar y campws ar Ddydd Sadwrn 2 Mawrth – taith 2km i'r teulu cyfan – lle y gall yr holl deulu ymuno â’r hwyl ac anogir gwisgo gwisg ffansi. Ben bore Sul 3 Mawrth, byddwn yn croesawu’r rhedwyr Hanner Marathon i'r llinell gychwyn wrth ymyl drysau blaen y Campws.

"Mae cefnogaeth y Brifysgol yn hanfodol i lwyddiant ein digwyddiadau, gan gynnal ein Timau Rheoli Digwyddiadau sy'n monitro ac yn ymateb yn ofalus i bob math o sefyllfaoedd yn ystod y rasys. Ni all Gofal Hosbis Dewi Sant bwysleisio digon pa mor ddiolchgar yr ydym i gael cefnogaeth o'r fath, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r elusen.

"Mae'n berthynas hynod o bositif sydd o fudd i gymaint o bobl; y rhedwyr a'r gwylwyr, ond yn bennaf oll y cleifion yr ydym yn codi arian ar eu cyfer. Mae pob ceiniog sy'n cael ei chodi gan Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd yn cael ei defnyddio i ariannu gwasanaethau hosbis".

Dywedodd yr Athro Donna Whitehead, Dirprwy Is-ganghellor PDC: "Rydym yn falch o fod yn bartner swyddogol i Hanner Marathon Admiral Dinas Casnewydd eto eleni, gan gefnogi ei datblygiad fel digwyddiad pwysig yng nghalendr y ddinas.

"Rydym yn gyffrous i groesawu'r rhedwyr wrth iddynt ddechrau’r ras y tu allan i'n campws yng nghanol y ddinas. Fel Prifysgol y rhanbarth, rydym wrth ein bodd ein bod yn chwarae rhan mewn digwyddiad gwych sy'n mynd o nerth i nerth."