Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau: Gradd gwyddor data yn dod o hyd i opsiynau dysgu newydd

6 Chwefror, 2024

Dyn â gwallt melyn a menyw â gwallt tywyllach yn cymryd hunlun ar wahân

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydym yn tynnu sylw at y gwaith y mae Prifysgol De Cymru yn ei wneud i gefnogi'r nifer cynyddol o fyfyrwyr sy'n dewis gweithio tra ar yr un pryd astudio ar gyfer gradd.

Mae Carly Rees a Ben Psaila ill dau yn gweithio ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ac fe fentrodd y ddau ddwy flynedd yn ôl a phenderfynu dilyn prentisiaeth gradd mewn gwyddor data yn y Brifysgol. Maen nhw wedi dweud wrthon ni’r cyfan am eu profiadau.

Beth yw eich profiad gwaith ac addysg blaenorol, a beth ydych chi'n ei wneud nawr?

Ben: “Rwyf wedi gweithio yn y Brifysgol ers tua chwe blynedd, yn gyntaf yn y Gofrestrfa Academaidd ac yna yn y Tîm Trawsnewid, sy’n rheoli prosiectau ar raddfa fawr. Cyn hynny astudiais am radd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac yna es i wneud fy ngradd Meistr mewn Addysg ym Met Caerdydd, ac yna dod yn syth oddi yno i weithio yn PDC. Ar hyn o bryd rwy’n Bartner Busnes Trawsnewid – yn ei hanfod y rôl yw rheoli amrywiol brosiectau newid o fewn y Brifysgol.”

Carly: “Fe wnes i radd mewn Hanes a Seicoleg, yna gweithiais fel Asesydd Anghenion Anabledd (DSA) cyn ymuno â PDC, fel Cynorthwyydd Cofrestrfa a gweithio fy ffordd i fyny i rôl Uwch Swyddog Ansawdd a Phartneriaethau. Gweithiais yn yr adran Ansawdd a Gwasanaethau Academaidd am bum mlynedd, a mwynheais hynny, ac yna roeddwn i awydd newid rôl. Roeddwn i’n gwneud y brentisiaeth gradd mewn Gwyddor Data ar y pryd a chododd rôl data yn Nhîm Cymorth y Gyfadran, felly penderfynais ei bod yn bryd newid a symudais i’r adran honno.”

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud cais am y brentisiaeth gradd mewn gwyddor data?

Ben: “Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn mynd i newid ac mae dysgu sgiliau newydd a all fy helpu i addasu i hynny yn ddefnyddiol iawn.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol doedd y math o bethau rydyn ni’n eu dysgu ar y cwrs ddim ar y cwricwlwm, felly doeddwn i erioed wedi eu dysgu nhw o’r blaen, ac mae’r cyfle hwn i ddysgu sgiliau newydd yn fuddiol iawn.

“Mae’n wych cael fy herio fy hun a gwneud rhywbeth gwahanol oherwydd mae’n hawdd mynd i rigol gyda’r un math o drefn bob dydd. Mae'n eich cadw'n ffres, ar flaenau'ch traed.”

Carly: “Mae llawer o’r hyn rwy’n ei wneud yn fy swydd yn seiliedig ar wybodaeth perfformiad ac mae data’n cael ei ddefnyddio’n amlach ar draws y sectorau addysg uwch a sicrhau ansawdd nawr, felly roeddwn i’n meddwl y byddai Gwyddor Data yn faes pwnc defnyddiol i’w astudio.

“Mae’r radd yn cwmpasu rheoli prosiectau, rhaglennu cyfrifiadurol, ystadegau a gwyddor data, felly mae’n ddefnyddiol iawn, a gobeithio y bydd yn agor opsiynau ar gyfer datblygu a hyrwyddo pellach.”

Beth yw eich barn am y cwrs a sut ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n elwa?

Ben: “Un o’r pethau da ar y cwrs yw cymysgu gyda myfyrwyr eraill sy’n gweithio i wahanol fusnesau y tu allan i’r Brifysgol a meithrin perthynas broffesiynol gyda nhw. Gallai'r rhwydweithio hwnnw fod yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol.

“Yn fy rôl yn y Gofrestrfa Academaidd gallai fod yn anodd ar adegau nodi sut mae’n cyd-fynd â’ch swydd, ond roedd hynny’n ychwanegu her ychwanegol at yr hyn rydym yn ei wneud. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o swyddi nawr yn mynd i fod yn berthnasol i hyn yn y dyfodol felly mae’n dda cael dealltwriaeth o ba mor bwysig yw data.

Carly: “Rydw i wir yn mwynhau. Rwyf wedi synnu fy hun. Nid oeddwn yn siŵr sut y byddwn yn ymdopi â'r cydbwysedd rhwng gwaith ac astudio, ond mae wedi bod yn iawn.

“Rwy’n dysgu pethau efallai na fyddwn wedi meddwl am eu dysgu fy hun – mae’r elfen codio yn arbennig o ddiddorol ac rwy’n meddwl y bydd hynny’n ddefnyddiol oherwydd bod cwmnïau’n defnyddio (ieithoedd rhaglennu) Python a SQL yn fwy cyffredin ar gyfer dadansoddi data nawr.

“Mae’r darlithwyr yn wych ac, oherwydd bod llawer o’r cynnwys yn cael ei recordio ar-lein, gallaf ei wylio’n ôl ar fy nghyflymder fy hun, sy’n ddefnyddiol iawn os ydych chi’n gweithio’n llawn amser hefyd.”