Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau: Prentisiaid gradd peirianneg rheilffyrdd

7 Chwefror, 2024

Grŵp o ddynion yn sefyll mewn llinell o flaen adeilad

I nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, rydym yn tynnu sylw at y gwaith y mae Prifysgol De Cymru yn ei wneud i gefnogi'r nifer cynyddol o fyfyrwyr sy'n dewis gweithio wrth astudio ar gyfer gradd

Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr i ymgymryd â phrentisiaeth gradd mewn peirianneg rheilffyrdd wedi dechrau ar eu hyfforddiant.

Mae dau o'r prif fusnesau sy’n cefnogi'r llwybr astudio hefyd wedi esbonio pam eu bod yn cymryd rhan yn y cyrsiau newydd arloesol hyn.

Mae’r cwrs wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal gan Brifysgol De Cymru (PDC) ar y cyd â Choleg y Cymoedd. Mae'r Brentisiaeth Gradd pedair blynedd mewn Peirianneg Rheilffyrdd yn rhoi cyfle i brentisiaid sy'n gweithio yn y sector rheilffyrdd ennill gradd peirianneg wedi'i hachredu gan brifysgol.

Lansiwyd y cwrs ym mis Ionawr a bydd y prentisiaethau'n rhedeg yn flynyddol o fis Medi eleni. Bydd y myfyrwyr ar y llwybrau astudio yn canolbwyntio naill ai ar beirianneg electro-fecanyddol sifil a chledrau, fel seilwaith ffyrdd haearn; neu systemau ac electroneg electro-fecanyddol, gan gefnogi trydaneiddio a chynnal a chadw cerbydau. Bydd y myfyrwyr yn astudio rhan o'r cwrs ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd a'r gweddill ym Mhrifysgol De Cymru. Os byddant yn llwyddiannus, byddant yn ennill gradd Baglor yn y Gwyddorau.

Wrth lansio'r cwrs, dywedodd Louise Pennell, Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu yng Nghyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC, ei fod wedi'i ddatblygu i fodloni gofynion penodol y diwydiant rheilffyrdd ledled Cymru a'r DU, wrth i brosiectau fel Metro De Cymru gael eu datblygu i fynd i'r afael â'r angen am systemau trafnidiaeth gyhoeddus cynaliadwy a dibynadwy.

"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd, Diwydiant Cymru, a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r angen am lwybr addysg peirianneg rheilffyrdd yng Nghymru, gan nad oedd cymhwyster o'r fath ar gael," meddai Mrs Pennell.

"Ar ôl i Diwydiant Cymru ofyn i gwmnïau sy'n gweithredu yn y sector rheilffyrdd pa wybodaeth, sgiliau ac ymddygiad lefel uwch y mae eu hangen ar eu gweithwyr a darpar raddedigion, cafodd y llwybr ei lunio a'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

"Ym Mhrifysgol De Cymru, mae gennym adran beirianneg sydd ag arbenigedd helaeth mewn datblygu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith mewn amrywiaeth o sectorau, ac sy'n arbenigwyr ar reoli prentisiaeth gradd ar draws nifer o ddisgyblaethau.

"Gan ein bod yn arwain y ffordd ar y brentisiaeth gradd hon, mae cyflogwyr a'r sawl sy'n dilyn y cyrsiau yn sicr o gael mynediad i'r wybodaeth a'r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael i'r diwydiant yng Nghymru."

Dywedodd Dr Francis Cowe, Cyfarwyddwr Partneriaethau Addysg Bellach a Phrentisiaethau Gradd PDC:

"Mae hon yn enghraifft arall o ddiwydiant, Llywodraeth Cymru, PDC, a Cholegau Addysg Bellach lleol yn cydweithio yn y rhanbarth i ddiwallu anghenion diwydiant a chreu cyfleoedd i bobl leol gael mynediad at waith sy'n talu'n dda."

Network Rail yw un o'r prif bartneriaid sy'n ymwneud â datblygu'r cwrs. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni, sy'n berchen, yn trwsio ac yn datblygu seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, bod cymryd rhan yn hwb mawr i'r busnes.

"Daeth Network Rail yn rhan o'r brentisiaeth gradd drwy ei pherthynas â chwmni lleol sydd eisoes yn cymryd rhan wrth ddylunio'r cynllun, ac mae'n awyddus i fanteisio ar ddarpariaeth sy'n ymwneud yn benodol â'n diwydiant ac sy'n cefnogi llwybrau gyrfa," meddent.

"Mae nifer o fanteision i Network Rail ymwneud â'r brentisiaeth gradd, fel myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth a magu sgiliau ymarferol a damcaniaethol perthnasol y gellir eu defnyddio yn y gweithle, gan gynnig mewnwelediad i rannau eraill o'r rheilffordd na fyddent yn eu gweld o ddydd i ddydd, y cyfle iddynt ddod yn beirianwyr mwy cytbwys, a'r buddion dilyniant gyrfa a chadw staff sydd ar gael.

"Mae hyn oll, ynghyd a’r berthynas barhaus â'r darparwyr prentisiaethau gradd, a fydd yn cadw'r cwrs yn fyw ac yn berthnasol i'r diwydiant, yn helpu i greu perthnasoedd cryf a rhannu gwybodaeth ar draws y sector, a datblygu peirianwyr sydd â sgiliau blaengar a fydd yn parhau i fod o fudd i'r diwydiant rheilffyrdd am flynyddoedd lawer."

Mae Protech Rail Engineering, sy’n seiliedig ym Mhontypridd, yn darparu arbenigedd peirianneg ac adeiladu i ddiwydiant rheilffyrdd y DU, yn gefnogwr o'r brentisiaeth gradd. Esboniodd Rheolwr Prentisiaeth Protech, Emma Giles, pam y dewisodd y cwmni gefnogi prentisiaethau.

“Dewisom ymgysylltu â phrentisiaeth gradd er mwyn gallu helpu i ddatblygu arweinwyr y diwydiant, pontio’r bylchau mewn sgiliau mewn sector arbenigol sydd â blaenoriaeth yng Nghymru, ac annog ein gweithwyr talentog i gyrraedd eu potensial llawn," meddai Mrs Giles.

"Mantais ychwanegol fu'r gallu i ni gyfuno hyfforddiant yn y gweithle ag astudio, fel y gall ein gweithwyr ddatblygu eu harbenigedd, ennill cymwysterau perthnasol, a bwydo’u gwybodaeth yn ôl i'r busnes.

"Mae gweithwyr sydd yn meddu ar wybodaeth a phrofiad yn werthfawr iawn i'n busnes. Rydym yn gobeithio y bydd y brentisiaeth hon yn grymuso ein gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i gynyddu eu ffyddlondeb i’r busnes."

Ychwanegodd Mrs Giles na fyddai’n oedi am ennyd cyn argymell y cynllun i gyflogwyr eraill.

"Dylai'r brentisiaeth ddenu talent ffres, amrywiol i'r diwydiant rheilffyrdd, gan sicrhau cydbwysedd rhwng ymrwymiadau gwaith a dysgu i ddatblygu’r gweithiwr a'r busnes," meddai.

"Mae gweithwyr medrus iawn yn un o'r asedau mwyaf y gall unrhyw fusnes ei gael, mae rheilffyrdd yn parhau i fod yn sector â blaenoriaeth a fydd yn wynebu bylchau sgiliau wrth i nifer fawr o weithwyr y sector agosáu at ymddeol.

“Gall y prentisiaethau uwch/gradd ddarparu llwybr i swydd arbenigol a fydd yn pontio'r bwlch hwn ac yn ymestyn ac yn herio pob dysgwr i gyrraedd eu potensial, a fydd yn hybu eu datblygiad personol ynghyd a diwallu anghenion datblygu'r busnes hefyd."