Academyddion PDC yn derbyn Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru
23 Ebrill, 2024
Mae dau academydd o Brifysgol De Cymru wedi'u henwi ymhlith 43 o Gymrodyr newydd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae’r Athro Sandra Esteves, Athro mewn Technoleg Biobrosesu ar gyfer Adfer : Ynni a Deunyddiau; a'r Athro Roiyah Saltus, Athro Cymdeithaseg, ymhlith yr academyddion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol i dderbyn Cymrodoriaeth gan y Gymdeithas Ddysgedig, sy'n cynrychioli'r gorau o fywyd academaidd, diwylliannol a dinesig Cymru.
Mae strategaeth y Gymdeithas yn rhoi'r Cymrodyr wrth galon ei gwaith. Maen nhw’n hanfodol wrth gadarnhau enw da'r Gymdeithas fel llais annibynnol ac awdurdodol all gael effaith ar gymdeithas Cymru. Bydd eu cysylltiadau, eu profiad a'u harbenigedd yn allweddol i gyflawni nod y Gymdeithas o sicrhau bod ymchwil yng Nghymru yn cyfrannu at genedl ffyniannus.
Mae bron traean o'r Cymrodyr newydd, sy'n cael eu hethol gan y Cymrodorion presennol, yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, y ganran uchaf erioed o bell ffordd, datblygiad pwysig wrth i'r Gymdeithas barhau i weithio i wella ei hamrywiaeth.
Daw'r Cymrodyr newydd o ystod eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol, yn cwmpasu meysydd mor amrywiol â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a meddygaeth ar un llaw a’r dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol ar y llaw arall. Mae cryfderau nodedig eleni mewn oncoleg, cyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth a chynaliadwyedd a'r economi werdd.
Yn ogystal, mae dau Gymrodor newydd, yr Athro Erminia Calabrese a'r Athro Aimee Morgans, newydd dderbyn medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ddiweddar, tystiolaeth bellach o’r ffordd mae'r medalau'n arwydd o dalent ymchwil eithriadol.
Dywedodd yr Athro Sandra Esteves: "Rwy'n falch iawn o fod yn aelod o'r Gymdeithas Ddysgedig gan fod fy nodau a fy nghyflawniadau’n cael eu hadlewyrchu gan ethos y gymdeithas.
"Fy amcan yw cyfrannu at waith y gymdeithas ym maes ymchwil, gwybodaeth ac addysg sy'n gysylltiedig â biodechnolegau wedi eu gosod wrth galon yr economi gylchol a sero net."
Dywedodd yr Athro Roiyah Saltus: "Mae'n anrhydedd cael fy ethol i'r Gymrodoriaeth. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Chymrodorion eraill i ddatblygu ymchwil ac ysgolheictod er lles Cymru, yn benodol.
"Rwyf wedi cael cefnogaeth gan y rhai a gynigiodd yr enwebiad ac oedd yn credu ynof fi. Byddaf innau hefyd yn ceisio rhoi llais i waith cydweithwyr yn PDC a chefnogi eu llwybrau at ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru."
"Mae cyhoeddi ein Cymrodyr newydd bob amser yn uchafbwynt ym mlwyddyn y Gymdeithas," dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas.
"Mae gwaith y Gymdeithas, y trafodaethau bwrdd crwn arloesi rydym yn eu cynnal, ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, i gyd wedi'u hadeiladu ar wybodaeth a chyfraniadau ein Cymrodyr.
"Mae'r Cymrodyr rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn ychwanegu at hyn drwy ddod â'r ystod fwyaf rhyfeddol o sgiliau a mewnwelediad a phrofiad. Mae gallu defnyddio eu harbenigedd i gefnogi'r gwaith a wnawn ar y cyd yn golygu y gallwn gael effaith wirioneddol fel ffynhonnell cyngor dibynadwy, sy'n seiliedig ar dystiolaeth."
Croesawyd y Cymrodorion newydd gan Olivia Harrison, Prif Weithredwr y Gymdeithas, a ddywedodd: "Yn sgil ymgyrch dan ofal Cyngor y Gymdeithas, rydym yn arbennig o falch o weld cynnydd sylweddol yn y Cymrodyr newydd sy'n dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
"Rydym yn benderfynol o barhau i wella amrywiaeth y Gymdeithas. Rydym am sicrhau ein bod yn Gymdeithas groesawgar a chynhwysol sy’n annog Cymrodyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gael llais yn ein gwaith.
"Mae gweithgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gymdeithas yn cynnwys ystod eang o Gymrodyr, gan gynnwys pobl sy'n arbenigwyr byd-eang blaenllaw yn y maes Cydraddoldeb. Mae'n helpu i lywio ein camau uchelgeisiol nesaf, gan gynnwys lansio ein cynllun gweithredu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd ar fin digwydd."
Mae'r Gymdeithas wedi ymrwymo i gasglu a rhannu data bob blwyddyn am ddemograffeg ein Cymrodyr newydd, rhan o'n hymdrechion i fod yn dryloyw ynghylch y camau rydym yn eu rhoi ar waith tuag at gyflawni ein huchelgeisiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Eleni, roedd ffocws gan y Gymdeithas ar annog enwebiadau ar gyfer pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a arweiniodd at gynnydd o 11% o’n Cymrodyr yn 2023 i 30% yn 2024.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, bu gan y Gymdeithas ffocws ar enwebiadau ar gyfer menywod. Y llynedd, roedd ychydig dros 50% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod; mae ffigur eleni bron yn 35%. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf felly mae 43% o Gymrodyr newydd y Gymdeithas wedi bod yn fenywod.