Adroddiad newydd yn amlygu sut mae PDC yn helpu i ddatblygu prosiectau sero-net lleol
30 Ebrill, 2024
Mae biotechnoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n gallu cefnogi economi gylchol drwy adfer gwastraff a chynhyrchu ynni glân a gwrtaith, yn un o chwe datblygiad arloesol a gynigiwyd gan y Rhwydwaith Arloesi Dinasoedd Allweddol (KCIN) yn Civic Partners in Net Zero, casgliad o astudiaethau a adolygir gan gymheiriaid sy'n manylu ar ffyrdd arloesol y mae prifysgolion yn gweithio gyda'u mannau lleol i gyrraedd targedau sero net.
Mae KCIN yn cydlynu prifysgolion sy'n gysylltiedig â'r grŵp trawsbleidiol o 27 dinas allweddol ledled Cymru a Lloegr - gan gynnwys Casnewydd - sef y dosbarthiad mwyaf o awdurdodau trefol yn y DU y tu allan i Lundain. Dewiswyd yr astudiaethau ar gyfer perthnasedd lleol, yn ogystal ag am eu potensial ar gyfer dyblygiad mewn mannau eraill. Maent yn amrywio o arloesedd technoleg a datblygiad polisi i ymgysylltu cymunedau lleol â gwyddor yr hinsawdd.
Mae ymchwil PDC - a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth y DU ac a ledaenwyd i awdurdodau a chymunedau lleol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru – yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg treulio anaerobig wrth ailgylchu gwastraff bwyd trefol gyda'r potensial i gwrdd â chyfran sylweddol o'r galw am nwy domestig.
Y datblygiadau arloesol eraill sy'n ymddangos yn Civic Partners in Net Zero yw:
- Dynacov: technoleg arloesol newydd i alluogi gwefru cerbydau trydan (mae’n werth nodi y bydd cerbydau nwyddau trwm a gwasanaeth cyhoeddus yn ofynnol o hyd mewn dinasoedd di-gar) drwy wefru deinamig wrth yrru ar ffyrdd cyhoeddus sy’n galluogi pŵer. (Prifysgol Cofentri a Chyngor Dinas Cofentri)
- Cwricwlwm Bae Morecambe: ymchwilwyr a gwyddonwyr hinsawdd sy'n gweithio gydag addysgwyr mewn ysgolion a cholegau i ymwreiddio cynaliadwyedd i addysg bob dydd ar draws pob cam addysg, mewn prosiect cydweithredol a ysbrydolwyd gan ddatblygiad Prosiect Eden Morecambe. (Prifysgol Caerhirfryn gyda Choleg Caerhirfryn a Morecambe)
- Cysylltu polisi a gwyddoniaeth ar gyfer adeiladu carbon sero-net: treialu polisïau cynllunio lleol i gyflawni canlyniadau carbon isel sy'n mynd ymhell y tu hwnt i reoliadau adeiladu cenedlaethol. (Prifysgol Caerfaddon, a Chyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf)
- Dinasyddion Ecolegol ac Ystadau Tai Mawr y Dyfodol: grymuso cymunedau a diwydiant lleol i yrru'r trawsnewidiad sero net. (Prifysgol Wrecsam gyda Chymdeithas Tai ClwydAlyn a phartneriaid lleol)
- Straeon yn y Llwch: mae ymchwilwyr a chwmni theatr yn cydweithio i ymgysylltu cynulleidfaoedd ysgolion cynradd â gwyddor yr hinsawdd mewn ffordd emosiynol. (Prifysgol Southampton a Chwmni Theatr Stories in the Dust)
Dywedodd yr Athro Sandra Esteves, Athro mewn Technoleg Biobroses ar gyfer Adennill Adnoddau: Ynni a Deunyddiau ym Mhrifysgol De Cymru: "'Bydd biotechnoleg yn parhau i adennill adnoddau a chyfrannu at sero net, economi gylchol, a thwf gwyrdd.
"Gall y rhain ddarparu tanwydd, cemegion, polymerau a phorthiant cynaliadwy gan ddefnyddio gwastraff organig a nwyon anorganig mewn lleoliadau trefol a gwledig, cyfrannu at drin ac ailgylchu gwastraff organig a charbon mewn modd cynaliadwy, a chyfrannu at storio ynni adnewyddadwy.
"Gellir cyflwyno prosesau microbaidd gydag ynni parasitig isel, tymheredd isel, pwysedd isel a chyda defnydd cemegol isel, mae’r holl ffactorau hyn yn cyfrannu at lai o effeithiau amgylcheddol.
"Mae'r papur yn crynhoi rhywfaint o effaith yr ymchwil a chyflawnwyd, yn ogystal â datblygiadau cyfredol. Mae ymchwil a datblygu, uwchraddio, integreiddio ac arddangos pellach yn hanfodol i gefnogi defnydd a masnacheiddiad y fiotechnoleg newydd a gwell ar raddfa lawn."