Partneriaeth unigryw i gasglu straeon heb eu hadrodd am gymunedau amrywiol Cymru

11 Ebrill, 2024

merched yn eistedd o amgylch bwrdd, yn sgwrsio a gwenu

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru a'r gwasanaeth cymorth cam-drin domestig arbenigol Bawso i alluogi menywod i rannu eu straeon a gwneud cyfraniad allweddol at dreftadaeth Cymru.

Mae prosiect Straeon Llafar DALlE Bawso yn bartneriaeth blwyddyn o hyd lle bydd y tri sefydliad yn cydweithio i gasglu, archifo a rhannu dwsinau o straeon a hanesion llafar gan ddefnyddwyr gwasanaeth Bawso, nad ydyn nhw erioed wedi'u clywed o'r blaen.

Mae Bawso yn wasanaeth arbenigol sy'n cynnig cymorth arbenigol i oroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu mewn pobl, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) a phriodas dan orfod. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi dros 6,000 o oroeswyr o gymunedau DALlE bob blwyddyn - 98% ohonyn nhw’n fenywod.

Gan fod cymuned Bawso yn cynrychioli hunaniaethau amrywiol o bedwar ban byd, mae gan ddefnyddwyr y gwasanaeth straeon pwysig am ddiwylliant, treftadaeth a mudo. Mae lleoliad Bawso yng Nghymru yn golygu bod y straeon hyn wedi'u hangori yma, ond mae'r profiadau a'r safbwyntiau yn aml yn rhai anniriaethol a heb eu dogfennu.

Mae defnyddwyr gwasanaeth Bawso yn barod i adrodd eu straeon, a'u cadw at y dyfodol, er mwyn sicrhau amrywiaeth o fewn yr archif genedlaethol; herio’r dehongliadau sydd ar waith ar hyn o bryd o dreftadaeth a pherthyn yng Nghymru; codi ymwybyddiaeth am VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol); ymfudo ac amrywiaeth.

Drwy glywed y straeon hyn, a fydd hefyd ar gael i ysgolion, colegau a'r cyhoedd yn gyffredinol drwy Gasgliad y Werin Cymru, mae'r tîm yn gobeithio y bydd gwrandawyr yn cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw yng Nghymru nawr, a allai helpu i adeiladu cydlyniant cymunedol a dyfodol cadarnhaol.

Mae'r tîm yn cyfuno arbenigedd adrodd storïau ac ymchwil gan PDC (Arweinydd Adrodd Storïau: Yr Athro Emily Underwood-Lee; Swyddog Cysylltiol y Prosiect: Dr Sophia Kier-Byfield), arbenigedd sector menywod gan Bawso (Arweinydd y Prosiect: Nancy Lidubwi), ac arbenigedd treftadaeth gan Amgueddfa Cymru. Mae cymorth ychwanegol gan yr arbenigwr adrodd storïau Prue Thimbleby, y gwerthuswr Jasmin Chowdhury a Chasgliad y Werin Cymru.

Mae PDC hefyd yn gartref i Rwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru.

Mae'r gwaith hwn gyda Bawso yn ychwanegu prosiect arall at y portffolio cynyddol o ymchwil sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith, gan ei gwneud yn ganolfan arbenigedd rhyngddisgyblaethol o ran deall ac atal trais ar sail rhywedd.

Dywedodd yr Athro Emily Underwood-Lee, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans yn PDC: "Mae'n fraint enfawr clywed y straeon y mae'r menywod anhygoel hyn yn eu rhannu gyda ni.

"Rwyf wedi clywed am fwyd blasus yn cael ei rannu ar draethau Cymru, am blanhigfeydd te ym Mangladesh, ac am ganeuon a dawnsfeydd plentyndod."

"Mae gan bob un ohonon ni storïau i'w hadrodd, ac mae gallu gwrando ar eraill pan fôn nhw’n ddigon hael eu rhannu yn ein galluogi i rannu profiadau cyffredin, dod o hyd i gysylltiad, a'n helpu i ddeall yn well beth mae'n ei olygu i fyw yn y byd heddiw.

"Rwy'n falch iawn ein bod ni yn PDC yn cael gweithio gyda'r timau gwych yn Bawso ac Amgueddfa Cymru i ddod â'r straeon hyn i'r amlwg a sicrhau eu bod yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ychwanegodd Nancy Lidubwi, Rheolwr Polisi Bawso: "Rydyn ni i gyd yn Bawso yn falch iawn o fod yn rhan o'r gwaith gwych hwn ac wrth ein bodd gyda'r canlyniadau a ddaw.

"Roedd y menywod sy'n cael eu cefnogi gan Bawso yn llawn cyffro wrth iddyn nhw dreulio diwrnod, oedd yn un oer iawn, yn mwynhau’r stôr o ddiwylliant cyfoethog yn Amgueddfa Cymru.

"Rwy'n cofio dagrau o lawenydd gan un o’n menywod yn Amgueddfa Sain Ffagan pan welodd hi'r dduwies Hindŵaidd a theimlo ei bod yn perthyn yn syth.

"Mae hon yn daith mor gofiadwy i fi a'r menywod sy'n rhan o'r prosiect rhyfeddol hwn ym myd storïa Cymru. Rydyn ni’n ddiolchgar i'n noddwyr a'n partneriaid."

Dywedodd Sioned Hughes o Amgueddfa Cymru: "Mae Amgueddfa Cymru yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Bawso a PDC i gasglu'r straeon pwysig hyn sydd heb eu hadrodd.

"Bydd yr hanesion llafar a gofnodir yn cael eu harchifo yn yr Amgueddfa fel cofnod parhaol o'r prosiect. Rydym yn hynod ddiolchgar i ddefnyddwyr gwasanaeth Bawso am rannu eu profiadau byw gyda ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi cynnal tri gweithdy yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd ac Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre gyda 15 o ddefnyddwyr gwasanaeth, ac wedi cynnal 11 cyfweliad dilynol. Bydd rhagor o weithdai a chyfweliadau yn cael eu cynnal yn y gwanwyn. Bydd sain yn cael ei olygu’n gyfweliadau hanes llafar ffurf hir ac yn straeon digidol byr y gellir eu defnyddio at ddibenion ymchwil, addysgu a dysgu amrywiol.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chyllid pellach wedi'i sicrhau gan Gronfa Gweithgarwch Dinesig PDC i gynhyrchu allbynnau pellach.

Bydd digwyddiad lansio ar gyfer y prosiect yn cael ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Medi 2024, gyda gwesteion nodedig o blith y sectorau sy'n cymryd rhan, i ddangos straeon, rhannu mewnwelediadau o'r prosiect, a dathlu bywydau'r rhai sy’n derbyn cymorth Bawso.

I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch i wefan y prosiect neu wefan Bawso, neu cysylltwch â Swyddog Cysylltiol y Prosiect Dr Sophia Kier-Byfield: [email protected]