PDC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio rhestr termau i symleiddio iaith bresgripsiynu cymdeithasol

4 Ebrill, 2024

Plentyn ac oedolyn yn chwarae mewn parc

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi partneru gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) i ddatblygu rhestr termau i helpu i egluro a safoni'r derminoleg a ddefnyddir ym maes presgripsiynu cymdeithasol.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull o ymdrin â gofal iechyd sy'n pwysleisio grymuso a chysylltiadau cymunedol, menter sy'n nodi cam sylweddol tuag at wella canlyniadau iechyd a lles, i bobl ledled Cymru a thu hwnt.

Dywedodd Dr Simon Newstead, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil yn Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSPPR), sydd wedi'i leoli yn PDC ac a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae presgripsiynu cymdeithasol yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gysylltu unigolion â'u cymunedau, gyda'r nod o'u helpu i reoli eu hiechyd a'u lles yn well".

"Wrth wraidd presgripsiynu cymdeithasol mae'r cysyniad o 'sgwrsio am yr hyn sy'n bwysig' sy'n helpu unigolion i nodi’r heriau sy'n eu hwynebu ac hefyd yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn bersonol. Drwy'r sgyrsiau hyn, gall ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol, a elwir hefyd yn weithwyr cyswllt neu gysylltwyr cymunedol, gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu gyda'r unigolyn cyn eu cysylltu â gwasanaethau neu grwpiau perthnasol yn eu cymunedau. Trwy rymuso unigolion i ymgysylltu â'u cymunedau, mae presgripsiynu cymdeithasol yn cryfhau lles unigolion ac yn meithrin gwytnwch cymunedol hefyd.

"Yn anffodus, mae'r derminoleg a ddefnyddir wrth bresgripsiynu cymdeithasol yn amrywiol ac yn ddryslyd, gyda sawl term yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r un agweddau penodol ar bresgripsiynu cymdeithasol.

"Hyd eithaf ein gwybodaeth, mae'r rhestr termau hon, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yr un cyntaf yn y byd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol."

Mae'r rhestr termau proffesiynol hon, i'w defnyddio ochr yn ochr â'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, yn adnodd gwerthfawr i ymarferwyr, comisiynwyr, a'r rhai y mae eu rolau proffesiynol yn dod â nhw i gysylltiad â phresgripsiynu cymdeithasol.

"Roeddem am wneud presgripsiynu cymdeithasol yn fwy hygyrch a defnyddiol i bawb a dyna pam y gwnaethom greu fersiwn hawdd ei ddeall o'r restr termau a'r wefan (www.splossary.wales/cy/) sy'n gartref i'r ddwy fersiwn o'r restr termau ac yn cynnwys nodweddion fel animeiddiadau, mapiau meddwl rhyngweithiol, a swyddogaeth dwyieithog," meddai Dr Newstead.

Cafodd WSSPR gyllid ychwanegol gan PDC i ddatblygu'r fersiwn hawdd ei ddeall (ar y cyd ag Anableddau Dysgu Cymru) a'r wefan (ar y cyd â Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru).

 

Credyd Delwedd: Mental Health Foundation, Erin Trembley