‘Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru’ – PDC ar y brig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
22 Ebrill, 2024
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei henwi, am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, fel y sefydliad addysg uwch sy'n perfformio orau yng Nghymru am gefnogi busnesau newydd i raddedigion.
Mae ffigyrau'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) hefyd yn dangos bod PDC, yn 2022/2023, unwaith eto yn 11eg o 220 o brifysgolion ledled y DU ar gyfer busnesau newydd, a bellach yn 9fed yn y DU ar gyfer nifer y busnesau gweithredol gan raddedigion.
Yn 2022-23 cefnogodd PDC sefydlu 96 o fusnesau newydd graddedigion, gan ddod â chyfanswm busnesau gweithredol gan raddedigion a gefnogir gan y Brifysgol i fwy na 500.
Yn ôl Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC, mae'r ffigurau'n dangos sut mae ffocws y Brifysgol ar entrepreneuriaeth a'i buddsoddiad mewn entrepreneuriaeth yn talu ar ei ganfed.
“Mae'r ffigurau hyn gan HESA yn dangos eto mai PDC yw ‘Prifysgol Entrepreneuraidd Cymru’ ac mae'n parhau i fod yn arweinydd o ran datblygu graddedigion sy'n mynd ymlaen i redeg eu busnesau llwyddiannus eu hunain,” dywedodd.
“Nid ffigurau HESA yn unig sy'n tynnu sylw at ein cefnogaeth i fenter - y llynedd roedd PDC yn rownd derfynol categori Prifysgol y Flwyddyn Gwobrau’r Times Higher Education, yn rhannol oherwydd ein hymrwymiad i ddatblygu ecosystem sy'n cefnogi entrepreneuriaid.
“Mae'r ymrwymiad hwn ar draws y sefydliad i gefnogi dechrau busnesau a busnesau bach yn rhan o'n DNA – mae'n rhedeg trwy bopeth a wnawn - ac mae'n gydnabyddiaeth i'w groesawu o'r gwaith caled a wnaed gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddatblygu economi sy'n tyfu yng Nghymru, ledled y DU, a ledled y byd.”
Ychwanegodd Jonathan Jones, Rheolwr Entrepreneuriaeth PDC: “Creu rhaglenni hygyrch ac amrywiol ar ddechrau busnes yw'r hyn a wnawn orau yn PDC. Trwy bartneriaethau cryf gyda'n Deorydd (Stiwdio Sefydlu), Gyrfaoedd PDC, a Rhwydwaith Busnes y Gyfnewidfa, a'n cyfoeth o bartneriaid o’r diwydiant a’r sector, rydym yn gallu cynnig yr holl gefnogaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr a graddedigion uchelgeisiol i fod yn weithwyr llawrydd neu i gychwyn busnes.”
Eglurodd Will Langley, sylfaenydd c-bloc Productions a myfyriwr a raddiodd yn PDC yn 2022 mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth a Pheirianneg Sain, sut mae cymorth y Brifysgol wedi bod yn hanfodol.
“Mae'r gefnogaeth gan PDC a'r cyfleoedd wedi bod yn hanfodol i'm busnes c-Bloc. Heb y gofod deor, mynediad at offer, cyllid a chymorth busnes, ni fyddwn wedi gallu bod yn gwneud y swydd rwy'n ei charu heddiw,” meddai.
Mae Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol PDC yn cael ei chynrychioli'n gryf ymhlith busnesau newydd graddedigion a ddangosir yn ffigurau HESA, sy'n ffurfio 65% o'r mentrau newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn gweithredu yn y sgrin a'r cyfryngau, a hefyd yn y sector dylunio. Roedd bron i chwarter busnesau newydd graddedigion o Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg PDC, gyda'r mentrau yn cynnwys therapïau, chwaraeon a cheiropracteg.