Arbenigwyr yn esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector ofod mewn digwyddiad addysg unigryw i fyfyrwyr

8 Gorffennaf, 2024

Myfyrwyr mewn darlith yn y digwyddiad Gofod i Ddysgu

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi croesawu’r gwersyll Gofod i Ddysgu cyntaf erioed, gyda myfyrwyr a staff o ysgolion ledled Cymru yn mwynhau wythnos o addysg, ymgysylltu ac ysbrydoliaeth gwyddonol.

Fe'i cynhaliwyd mewn partneriaeth â'r Academi Ofod Genedlaethol (NSA) ar Gampws Trefforest PDC ar gyfer myfyrwyr oedd wedi cwblhau eu TGAU.

Yn ystod yr wythnos clywodd mynychwyr y Gwersyll sgyrsiau gan nifer o arbenigwyr o PDC a sefydliadau eraill, gan gynnwys:

  • Neges fideo gan y Gofodwr Prydeinig yr uwchgapten Tim Peak CMG, yn croesawu myfyrwyr i'r gwersyll
  • Cyflwynodd yr Athro Damian Bailey o PDC sgwrs ar hyfforddiant gofodwyr Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA), ei ymchwil arloesol i iechyd ymenyddiau gofodwyr, a sut y gallwn wneud teithio yn y gofod yn llai niweidiol, a'r posibilrwydd o greu cynefinoedd ar y Lleuad a'r blaned Mawrth.
  • Esboniodd yr awyr-lifftenant Greenwood o Awdurdod Gofod y DU mor hanfodol mae’r gofod i fywyd bob dydd, a'r ffyrdd y mae’r Awdurdod Gofod yn helpu i'w gadw'n ddiogel.
  • Cyflwynodd Grant Day o Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) sgwrs ar yr Asiantaeth a theithiau gofod gyda ffocws arbennig ar y Ddaear.
  • Cafwyd trosolwg gan Dr Rosie Cane o Ofod Cymru ar y sector gofod yng Nghymru, yn esbonio’r cysylltiadau rhwng prifysgolion a chwmnïau sy'n gweithredu yn y wlad.
  • Rhoddodd Jill Hutchinson o Thales Alenia Space, drosolwg o'r gwaith mae'r cwmni'n ei wneud ledled y DU, teithiau’r dyfodol a chyfleoedd gyrfa gyda'r cwmni.
  • Cafwyd sgwrs gan Neil Monteiro a Rafael Borne o Space Forge am eu gweledigaeth ynghylch gweithgynhyrchu yn y gofod, y cynnydd hyd yma a chyfleoedd gyrfa gyda Space Forge.
  • Bu’r Athro Paul Roche o Brifysgol Caerdydd yn siarad am wrthdrawiadau yn y gofod, o ffurfio cysawd yr haul i sut y gallai gwrthdrawiadau asteroidau a chomedau fod wedi rhoi cychwyn ar fywyd ar y Ddaear.
  • Siaradodd Dr Zoran Jelic o Brifysgol Abertawe am yriad rocedi, ac am yr hyn y gallai’r myfyrwyr ei astudio yn y brifysgol.
  • Cafwyd sgwrs am seryddiaeth gan Martin Griffiths o Arsyllfa Bannau Brycheiniog mewn sesiwn â thelesgop bach. Cafodd myfyrwyr gyfle hefyd i roi cynnig ar ddefnyddio telesgopau solar.
  • Cafwyd sesiynau ymarferol dan ofal Em Truman, swyddog rhanbarthol NSA Cymru a Steffan Tudor, NSA, ac Eiriolwr Gofod, yn cynnwys adeiladu comedau, arsylwi isgoch, deall tariannau gwres, a siwtiau hedfan.
  • Gwnaeth yr Uwch Ddarlithydd o PDC, Dr Leshan Uggalla, ganolbwyntio ar arsylwi’r gofod, technolegau sy'n gysylltiedig â'r gofod, y cyfleoedd o ran gyrfaoedd gofod, ac effaith gynyddol sbwriel yn y gofod.
  • Rhoddodd Dr Phil Charlesworth o PDC sgwrs am rocedi Armature, Cymdeithas Rocedi'r Brifysgol, a dangosodd enghreifftiau o rocedi cartref all fod yn fawr iawn.
  • Dan ofal Dr Darren Williams o PDC cafwyd cipolwg ar roboteg yn y gofod, a chafwyd trosolwg ar rai o’r technolegau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
  • Cynhaliodd Natcha Laethongkham a Faith Holbrook o PDC sesiwn gyda'r myfyrwyr ar sut i adeiladu rocedi bach, modurol.
  • Cyflwynodd Robert Tipping ac Elango Nagasundaram o PDC sesiwn yn edrych ar gyflwyno gorsafoedd lloeren a lloerenni ciwb ar y ddaear, gydag arddangosiadau ymarferol.

Yn ystod yr wythnos bu modd i’r myfyrwyr roi cynnig ar adeiladu telesgopau ac adeiladu a lansio eu rocedi aer cywasgedig eu hunain.

Dywedodd Dr Uggalla: "Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr, a dangosodd y gwahanol ffyrdd mae'r sector gofod yn effeithio ar y byd o'n cwmpas.

"Roedd yn wych gallu rhoi cyfle i'r bobl ifanc weld y llu o wahanol opsiynau sydd ar gael yn y diwydiant gofod, ac roedd yn hyfryd eu gweld nhw’n rhoi cynnig ar y technolegau y gallen nhw fod yn eu defnyddio yn y dyfodol.

"Hoffwn ddiolch i'r NSA am fanteisio ar y cyfleusterau sydd gennym yma, ac i'r holl gydweithwyr o PDC a sefydliadau eraill am rannu eu hamser a'u harbenigedd yn ystod y digwyddiad.

"Prif nod y rhaglen yw gwneud i fyfyrwyr ystyried y gofod a STEM fel llwybr gyrfa posib, ac rwy'n credu ein bod wedi llwyddo i gyflawni hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran yr NSA: "Drwy gydol yr wythnos bu'r myfyrwyr hefyd yn gweithio ar brosiectau i ddylunio eu teithiau gofod eu hunain. Dewison nhw gyrchfannau yng nghysawd yr haul, ac yna fe luniodd pob grŵp gwestiwn yr oedden nhw am ei ateb ar eu gwahanol deithiau.

"Gyda'r nod hwn mewn golwg, cynlluniodd y myfyrwyr eu prif lwythi a’u teithiau, ac fe gynhyrchon nhw hysbyseb radio hyd yn oed ar gyfer eu teithiau. Ar y prynhawn Gwener fe gyflwynodd pob un o'r myfyrwyr eu teithiau i'w cyfoedion yn y gwersyll. Cyflwynwyd y teithiau, oedd wedi’u paratoi’n drwyadl, yn wych, gyda llawer o fyfyrwyr yn trafod pynciau ymhell y tu hwnt i'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu yn yr ysgol.

"Roedd hi'n wythnos bleserus iawn gyda grŵp gwych o fyfyrwyr."

Cafodd y gwersyll Gofod i Ddysgu ei ariannu'n llawn gan Asiantaeth Ofod y DU (UKSA) mewn cydweithrediad â PDC a’r NSA.