Arweinwyr y diwydiant technoleg yn derbyn Doethuriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol De Cymru

19 Gorffennaf, 2024

Gareth Williams a John Davies

Mae dau arbenigwr blaenllaw sy'n gweithredu yn sector technoleg ffyniannus Cymru wedi derbyn anrhydeddau gan Brifysgol De Cymru (PDC).

Mae dau arbenigwr blaenllaw sy'n gweithredu yn sector technoleg ffyniannus Cymru wedi derbyn anrhydeddau gan Brifysgol De Cymru (PDC).

Mae John Davies MBE, rheolwr gyfarwyddwr Pervade Software, a Gareth Williams, Prif Swyddog Gweithredu Marshall, wedi derbyn Doethuriaethau er Anrhydedd.

Gyda 35 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, Mr Davies yn 2014 oedd cyd-sylfaenydd a chadeirydd un o glystyrau seiberddiogelwch cyntaf y DU. Ers hynny mae wedi bod yn gyd-sylfaenydd a chadeirydd Seiber Cymru, yr ecosystem seiber fyd-eang GlobalEPIC ac UKC3, sy’n cefnogi clystyrau seiberddiogelwch yn y DU. Yn 2019, ef oedd cynrychiolydd y DU o Sefydliad Seiberddiogelwch Ewrop.

Cyd-sefydlodd John Pervade Software, sy’n darparu’r platfform ar gyfer Cynllun Hanfodion Seiber y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, platfform Larwm Seiber Heddlu’r DU, a phlatfform casglu cuddwybodaeth y We Dywyll. Mae'n cadw ei sgiliau'n gyfredol ac mae'n Haciwr Moesegol Ardystiedig.

Mae John yn gyn-filwr yn y Fyddin ac yn swyddog ym Myddin Prydain o Filwyr Wrth Gefn. Mae’n Gadeirydd y Grŵp Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol ar gyfer y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ac yn Gyrnol er Anrhydedd. Yn ei amser hamdden, mae’n codi arian i elusennau’r Lluoedd Arfog drwy feicio a rhedeg ac mae’n mwynhau archwilio Bannau Brycheiniog gyda’i wraig a’u pedwar ci Dalmataidd.

“Pan agorodd yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol ar Gampws Casnewydd PDC yn ôl yn 2016, roedd yn teimlo fel torri tir newydd, anghyfarwydd, i ‘fynd yn groes i’r duedd’ a chreu ffordd newydd sbon o addysgu pwnc sy’n symud yn gyflym, sef maes seiber,” meddai Mr Davies.

“Ar ôl ffurfio Clwstwr Seiberddiogelwch cyntaf Cymru cwpl o flynyddoedd ynghynt, roedd yn briodas berffaith ac fe wnaeth PDC groesawu aelodau’r clystyrau seiber yr un mor rhwydd ag y gwnaethom ni groesawu’r to newydd o fyfyrwyr.

“Gyda’n gilydd rydym wedi gallu pontio’r bwlch rhwng ysgolheigion ac ymarferwyr mewn ffyrdd nad oedd erioed wedi’u gwneud o’r blaen ac mae wedi bod yn bleser pur cael bod yn rhan ohono.

“Yn 2022 derbyniais MBE gan y Dywysoges Frenhinol am 'wasanaethau i ecosystem seiber y DU', a oedd yn anrhydedd fawr, ond mae'r ddoethuriaeth hon yn teimlo'n fwy real i mi rywsut - efallai am iddi ddod gan bobl rwy'n eu parchu am y gwaith rydym wedi’i wneud dros y degawd diwethaf ac oherwydd ei fod yn cynrychioli’r gwaith y byddwn yn parhau i’w wneud i gau’r bwlch sgiliau.

“Mae’r dyfodol yn ddisglair iawn, mae’r diwydiant mor awyddus ag erioed am ddoniau newydd ac mae ein cymuned seiber Gymreig yn dal i frwydro yn erbyn darnio i gynnal hunaniaeth genedlaethol a pharhau i adeiladu cydnabyddiaeth fyd-eang. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gryfach (i ddwyn arwyddair o chwaraeon Cymru) ac rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r daith hon gyda’r tîm, a’r myfyrwyr a nerth cyfunol cymunedau seiber Cymru.”

Mr Williams yw Prif Swyddog Gweithredu Marshall, gan arwain ar bob agwedd weithredol ar y grŵp ar draws y DU, Ewrop, Gogledd America a'r Dwyrain Canol. Mae hefyd yn gyn-arweinydd yn Thales, lle bu’n goruchwylio gweithrediadau busnes seiber byd-eang y sefydliad.

Helpodd Mr Williams i ddatblygu Canolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol Cymru (NDEC) a ResilientWorks, datblygiad partneriaeth rhwng prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru a Thales.

Mae’n un o arweinwyr sefydlu menter Coleg Seiber Cymru, partneriaeth diwydiant gyda cholegau AB yng Nghymru sy’n addysgu myfyrwyr o gyn-gymunedau diwydiannol am gyfleoedd gyrfa ym maes seiber. Mae hefyd yn aelod o Gyngor CBI Cymru ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Seiber Cenedlaethol Llywodraeth y DU.

“Mae gradd er anrhydedd yn y bôn yn gydnabyddiaeth o werthoedd cyffredin, ac mae’n anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i ymuno â chymuned y brifysgol yn y ffordd arbennig hon,” meddai Mr Williams.

“Rydym yn rhannu cred sylfaenol mewn dysgu a grym addysg brifysgol i ddatgloi potensial pobl o bob cefndir a phrofiad bywyd, gan hogi eu sgiliau deallusol a’u meddyliau chwilfrydig i wneud y gorau o’u doniau.

“Dyma pam mae prifysgol yn bodoli, dyna mae PDC yn gwneud mor dda, a dyna pam rydw i’n falch i gael fy nghyfrif fy hun nawr yn rhan o gymuned PDC.”

Dywedodd Pennaeth Seiberddiogelwch a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Academaidd PDC, Sharan Johnstone: “Rwy’n falch iawn o weld John a Gareth yn cael eu cydnabod am eu gwaith diflino yn y sector a’u brwdfrydedd dros ddod â seiberddiogelwch i sylw blaenllaw llywodraeth ac unigolion.

“Mae’n fraint cael cydweithio gyda nhw a rhannu gweledigaeth i ddatblygu graddedigion cyflogadwy ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau ym maes seiber.

“Mae Gareth a John wedi chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant maes Seiber PDC ​​a’i wneud yn llwyddiant arobryn y mae heddiw.”