Cymorth busnes am ddim ar gael i entrepreneuriaid creadigol Casnewydd
23 Gorffennaf, 2024
Mae entrepreneuriaid o ardal Casnewydd sy'n gweithredu yn y sector creadigol yn cael cynnig mynediad at raglenni datblygu busnes am ddim.
Bydd y Stiwdio Sefydlu, sy'n gweithredu o Gampws Casnewydd Prifysgol De Cymru (PDC), yn cynnig y cymorth a'r hyfforddiant am ddim i unrhyw un sydd am ddod yn weithiwr llawrydd.
Mae'r rhaglenni'n agored i unrhyw un sy'n byw yng Nghasnewydd neu sydd am ddechrau eu busnes yno.
Mae'r rhaglen mewn partneriaeth â ICE Cymru – y Ganolfan Arloesi Menter – sydd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy Llywodraeth y DU i redeg rhaglenni cychwyn busnes ar draws y ddinas mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill.
Bydd dwy raglen: mae'r rhaglen gyntaf yn dechrau ganol mis Medi tan fis Tachwedd, a'r ail yn rhedeg o fis Ionawr 2025 tan fis Mawrth 2025.
Mae'r ail raglen wedi'i thargedu'n benodol at unrhyw un sydd o gefndir mwyafrif byd-eang, sy'n F/fyddar, yn anabl neu'n niwroamrywiol, neu'n dod o gefndir dan anfantais addysgol/amgylcheddol neu economaidd ac sydd â syniad busnes newydd mewn unrhyw sector - o ffasiwn, harddwch a thechnoleg ariannol, i fwyd a diod.
Bydd yr holl raglenni yn rhedeg ar ddydd Iau rhwng 9.30am a 3pm ac yn cynnwys cymorth datblygu busnes a mentora personol.
Yna, gall cyfranogwyr leoli eu busnes yn uned egino Stiwdio Sefydlu newydd PDC ar ein campws yng nghanol y ddinas, ac elwa o rwydweithiau busnes helaeth ledled De Cymru.
Dywedodd Richie Turner, Rheolwr Stiwdio Sefydlu: “Rwy'n falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid parhaus i'n galluogi i ehangu'r Rhwydwaith Busnesau Creadigol yng Nghasnewydd, ar ôl ei beilot llwyddiannus yn 2023; ariannwyd gan Creative Cardiff.
“Mae gan Gasnewydd sin creadigol annibynnol ffyniannus eisoes, ac rydym yn gobeithio, trwy arfogi pobl a chymunedau yn y ddinas i ddechrau busnesau a gyrfaoedd creadigol newydd, y gall PDC barhau i ychwanegu at y sector twf uchel hwn.”
Cofrestrwch eich diddordeb yma neu, am drafodaeth anffurfiol, e-bostiwch [email protected].