Cynhadledd PDC yn cynnal sgyrsiau diwylliant hanfodol

5 Gorffennaf, 2024

Mae dau berson yn sefyll ac yn gwenu wrth y camera. Mae Sal Naseem, arbenigwr diwylliant cynhwysol, gyda Hannah Coombs, Deon Cyswllt dros Bartneriaethau a Datblygu PDC.

Ar 20 Mehefin, cynhaliodd Prifysgol De Cymru (PDC) ei chynhadledd Diwylliant mewn Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf yn ICC Cymru, Casnewydd.

Roedd y gynhadledd, a fynychwyd gan dros 100 o bobl o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus, yn archwilio'r cysylltiadau rhwng diwylliant ac ymarfer arloesol, sut y gall gwasanaethau cyhoeddus wella diwylliant sefydliadol a diwygio polisïau.

Rhoddwyd areithiau cyweirnod gan Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Maggie Blyth, Dirprwy Brif Gwnstabl/Dirprwy Brif Weithredwr y Coleg Plismona, a Sal Naseem, arbenigwr diwylliant cynhwysol a chyn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Llundain yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Cyn rhannu’n weithdai, roedd cyflwyniad gan Claire Parmenter, Cyfarwyddwr Ymarfer Proffesiynol Canolfan Ymchwil ac Arloesi Hydra PDC, a'r Athro Jonathan Crego MBE, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd y Sefydliad Hydra. Fe wnaethant gyflwyno'r gynhadledd i bartneriaeth Sefydliad PDC a Hydra.

Dywedodd Sal Naseem: "Diolch yn fawr iawn i PDC ac i'r holl bobl wych eraill y gwnes i gwrdd â nhw yn y gynhadledd.

"Roedd cymaint o sgyrsiau cyfoethog ac amrywiol, gyda phawb yn canolbwyntio ar y cwestiwn 'sut allwn ni wella diwylliant yn ein gwasanaethau cyhoeddus?'

"Roedd hi'n fraint cael cymryd rhan mewn digwyddiad a thrafodaeth mor bwysig."

Dywedodd Claire Parmenter: "Mae PDC a Chanolfan Ymchwil ac Arloesi Hydra wedi ymrwymo i wella sefydliadau a bywydau er gwell gan ddechrau gyda lansiad ein 'ymarfer ymddygiad a diwylliant' ar gyfer plismona sy'n digwydd ar 11 Gorffennaf. Rydyn ni eisoes yn dechrau gweithio i ymestyn hyn i'r Gwasanaethau Tân ac Achub a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

"Mae'r gynhadledd wedi bod yn gyfle gwych i dynnu sylw at waith y ganolfan ymchwil ac i barhau â'n gwaith gyda rhai partneriaid a dechrau prosiectau newydd gydag eraill."

Meddai Hannah Coombs, Deon Cyswllt dros Bartneriaethau a Datblygu Busnes: "Roeddwn i'n falch iawn o weld lefel yr ymgysylltiad a gawson ni drwy gydol y dydd gan gydweithwyr ar draws y sector.

"Roedd yn amlwg bod hwn yn faes o flaenoriaeth wirioneddol i'n hasiantaethau gwasanaethau cyhoeddus ac roedd y parodrwydd i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac ystyried y rôl y mae pob un ohonynt yn ei chwarae wrth wella diwylliant sefydliadol, trwy rannu arferion gorau a chymryd rhan mewn ymchwil briodol, yn amlwg.

"Diolch i bawb a fynychodd am ddod i'r digwyddiad gydag agwedd gadarnhaol a'i wneud yn ddiwrnod o drafodaeth gyfoethog a dadleuon iach a pharchus."

Canolfan Ymchwil Hydra - Prifysgol De Cymru

Y tu allan i adeilad Tŷ Crawshay ar Gampws Trefforest ym Mhontypridd