Gallai Keir Starmer droi at fytholeg Gymreig am ychydig o wersi ar arweinyddiaeth

17 Gorffennaf, 2024

Y Prif Weinidog Syr Keir Starmer y tu allan i Rif 10

Mae gan Syr Keir Starmer, prif weinidog newydd y DU, CV trawiadol: bargyfreithiwr, cyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus a chyn-ysgrifennydd yr wrthblaid dros Brexit.

Yn rhywun o’r tu mewn i’r sefydliad sy'n gyfarwydd iawn â choridorau grym, mae wedi hen arfer ag arweinyddiaeth. Ond nid yw hynny o reidrwydd yn ei wneud yn arweinydd da, na hyd yn oed yn dangos ei botensial i ddod yn un. Gallai bod yn aelod o’r elît breintiedig arwain at swydd benigamp i chi, ond nid yw hynny’n golygu y byddwch yn dda ynddi.

Gan Kevin Mills, Athro Llenyddiaeth Saesneg

Roedd ein hynafiaid Cymreig yn gwybod hyn yn iawn, gan adrodd straeon i ddatgelu’r drwg a hyrwyddo defnydd da o rym, fel y dangoswyd yn fy ymchwil. Gallai Starmer wneud yn llawer gwaeth na darllen Pedair Cainc y Mabinogi yn ystod ei ychydig wythnosau cyntaf yn y swydd. O'r chwedlau crefftus hynny am arglwyddiaeth, efallai y bydd yn dysgu llawer am sut i ymddwyn fel pennaeth llywodraeth. Ac, yn hollbwysig, sut i beidio ag ymddwyn.

Fe wnaeth cyfieithiadau Saesneg o'r Pedair Cainc, ynghyd â saith chwedl ddigyswllt arall a geir mewn dwy lawysgrif ganoloesol – Llyfr Gwyn Rhydderch (oddeutu 1350) a Llyfr Coch Hergest (oddeutu 1382) – ymddangos yn gyntaf fel rhan o Fabinogion yr Arglwyddes Charlotte Guest (1847-49). Roedd hi'n uchelwraig Seisnig a’r cyhoeddwr cyntaf o'r Mabinogion mewn print modern.

Yn wahanol i’r chwedlau eraill yng nghompendiwm Guest, mae chwedlau Pwyll, Branwen, Manawydan a Math i gyd yn rhan o gylch o straeon sy’n cydblethu. Er eu bod yn gyfansoddiadau canoloesol, ymddengys eu bod yn defnyddio deunydd mwy hynafol ac wedi'u gosod yn y cyfnod cyn-Rufeinig.

Gan blethu arferion hudol a chyfarfyddiadau arallfydol trwy straeon am yr elît oedd yn rheoli yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, eu gwrthdaro, eu troseddau, eu camymddwyn a’u gweithredoedd achubol, credir ar brydiau bod y Pedair Cainc yn cynnwys olion mytholeg gyn-Gristnogol a oedd yn frodorol i Brydain.

Mae o leiaf un ysgolhaig wedi awgrymu bod y Pedair Cainc wedi'u hysgrifennu fel math o lawlyfr i dywysogion. Nid yw'n anodd gweld pam. Mae pob stori yn y cylch yn cynnwys enghreifftiau o reolaeth ddrwg a da, a'u canlyniadau.

Mae’r bedwaredd gainc yn sôn am neiaint brenin, Math, sy’n treisio morwyn eu hewythr, Goewin. Mae effeithiau ofnadwy eu llygredigaeth yn lledaenu’n ddi-stop ar draws dwy deyrnas, gan adael olion o frad, bychanu, llofruddiaeth a rhyfel yn eu sgil.

Ond mae yna arweinyddiaeth dda hefyd. Mae Math yn gosod penyd llym, hudolus ar ei neiaint ac yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd i Goewin. Yn hytrach na thrin cosb ei neiaint fel cyflawniad o ofynion cyfiawnder, mae'n cymryd baich yr iawndal ei hun, gan gynnig priodi'r fenyw a gafodd ei cham-drin ac ildio ei awdurdod dros ei deyrnas iddi.

Mae hyn yn awgrymu, os yw grym yn eich dwylo chi, y gred y dylech gymryd cyfrifoldeb nid yn unig am eich gweithredoedd eich hun, ond hefyd am weithredoedd y rhai rydych chi'n eu harwain, boed yn aelodau o'r teulu neu'n swyddogion. Yn anffodus, mae hyn yn gwbl groes i’r diwylliant bwrw’r bai a chodi cywilydd a geir yng ngwleidyddiaeth fodern Prydain.

Os mai achos Math a Goewin yw’r wers fwyaf dramatig ac ysgytwol wrth drafod arglwyddiaeth yn y Pedair Cainc, nid dyma’r unig chwedl a allai wneud i’r Prif Weinidog bwyllo.

Yn y gainc gyntaf, cawn gwrdd â Pwyll, Pendefig Dyfed. Mae'n cyflawni amrywiol wallau sy'n deillio o benderfyniadau gwael a gweithredoedd byrbwyll, y mae eu canlyniadau yn bellgyrhaeddol ac yn parhau i'r genhedlaeth nesaf. Mae ei gamgymeriad cyntaf yn digwydd am iddo fethu â chadw at ddefodau’r helfa, wrth ganiatáu i’w helgwn fwydo ar hydd a laddwyd gan helgwn brenin arall. Arawn yw’r brenin a dramgwyddwyd, sef brenin Annwfn (yr Arallfyd).

I wneud iawn am ei ymddygiad, mae gofyn i Pwyll newid lle gydag Arawn am flwyddyn a diwrnod, a threchu ei elyn marwol mewn ymladdfa unigol. Pan fydd yn dychwelyd o'r diwedd i'w lys ei hun, y pris wedi’i dalu, mae'n canfod nad yw ei ddeiliaid wedi ei golli oherwydd bod Arawn, yn ei debygrwydd iddo, wedi bod yn rheolwr llawer gwell nag ef. Gwell oherwydd ei fod yn fwy hael ac yn fwy parod i rannu llawenydd a chaledi ei bobl yn llawn.

Ond mae Pwyll yn methu â dysgu'r wers ac yn parhau i fod yn ddyn sy'n gweithredu ac yn siarad heb feddwl. Yn dilyn cyfarfyddiad hudolus â Rhiannon, cymeriad llawn dirgelwch, mae’r ddau yn cytuno i briodi. Mae gwledd yn cael ei threfnu yn llys ei thad i ddathlu, ond mae'r gŵr y mae hi wedi'i wrthod yn cyrraedd. Heb feddwl, mae Pwyll yn ei gyfarch ac yn cynnig unrhyw beth iddo y mae â’r grym i'w ganiatáu. Mae'n gofyn, wrth gwrs, am law Rhiannon. Mae hi, felly, yn gorfod achub ei hun trwy chwarae tric.

Mae Gwawl, y gŵr a wrthodwyd, yn gaeth mewn cod ac yn cael ei orfodi i fargeinio ei ffordd allan drwy dynnu ei hawliad ar Rhiannon yn ôl. Mae Pwyll, sy'n dal yn frenin annoeth a difeddwl, yn caniatáu i'w ddynion guro Gwawl tra ei fod yn y god ac yn methu amddiffyn ei hun.

Yn y drydedd gainc, daw’r ymddygiad amhriodol hwn i darfu ar ei weddw a’u mab Pryderi, pan gaiff eu gwlad ei melltithio a’u cnydau eu dinistrio gan swynwr sydd am ddial cam Gwawl.

Doethineb

Gallai’r Mabinogion atgoffa’r prif weinidog newydd fod gwir arweinyddiaeth yn gofyn nid yn unig am weithredu grym, ond hefyd y doethineb i’w ddefnyddio’n bwyllog, y gostyngeiddrwydd i ddysgu o gamgymeriadau a’r dewrder i gymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd eich hun a gweithredoedd eich is-weithwyr.

Wrth i Starmer droedio’r dirwedd wleidyddol gymhleth, gallai’r naratifau hynafol hyn wasanaethu fel cwmpawd gwerthfawr, gan sicrhau bod ei ddeiliadaeth yn cael ei nodi gan gyfiawnder, tosturi ac ymrwymiad gwirioneddol i les y wlad.

Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.