Mae tywydd poeth eithafol yn tynnu sylw at anghyfiawnder hinsawdd tra bod gwledydd y gorllewin yn methu â gweithredu - dyma sut y gall llywodraethau helpu
10 Gorffennaf, 2024
Roedd tymereddau aer cyfartalog byd-eang yn uwch na 1.5°C am y tro cyntaf ddechrau 2024 - o leiaf bum mlynedd yn gynharach na'r hyn a ragwelwyd. Felly, tra bod gwledydd datblygedig yn llosgi, mae anghyfiawnder hinsawdd byd-eang yn parhau.
Gan Filippos Proedrou, Athro Cyswllt yr Economi Wleidyddol Fyd-eang, PDC; a Dr Maria Pournara, Darlithydd Troseddeg, Prifysgol Abertawe
Nid oes yr un wlad sy’n drwm o ran ei hallyriadau wedi cydymffurfio â’r targed 1.5°C a osodwyd gan gytundeb Paris. Mae llywodraethau’r DU a’r Alban yn gwaethygu’r argyfwng drwy gefnu ar eu haddewidion hinsawdd i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol erbyn 2030, gan baratoi’r ffordd ar gyfer sero net erbyn 2050 ar yr hwyraf.
Mae effeithiau trychinebus chwalfa hinsawdd yn taro pobl mewn gwledydd datblygedig galetaf, er yn hanesyddol, yn y gorllewin yn bennaf y mae’r allyrwyr uchaf o nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd - yn enwedig yr Unol Daleithiau, yr UE yn ogystal â Rwsia, gyda Tsieina ac India yn ymuno â’r rhengoedd hyn yn fwyaf diweddar.
Felly, rhaid tynnu sylw at wledydd sy'n agored iawn i blaned sy'n cynhesu trwy sicrhau bod y sefydliad sy'n gweithredu fel eu heiriolwr yn cael llwyfan i unioni'r anghyfiawnder hwn. Y sefydliad hwn yw'r Climate Vulnerable Forum (CVF), sef partneriaeth ryngwladol o 58 gwlad sy'n agored iawn i blaned sy'n cynhesu.
Wedi'i sefydlu yn 2009, mae'n gweithredu fel llwyfan cydweithredu i lywodraethau sy'n cymryd rhan i weithio gyda'i gilydd i ddelio â newid hinsawdd byd-eang ac eiriol dros hawliau pobl mewn gwledydd datblygedig. Yn seiliedig ar ein hymchwil, mae tri arferiad yn sefyll allan.
Rhyddhau o ddyled
Mae'r CVF yn eiriol dros gyfnewidiadau dyled-am-hinsawdd. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhau o ddyled yn gyfnewid am brosiectau hinsawdd, fel ynni adnewyddadwy neu barciau cadwraeth, a fydd naill ai'n atal allyriadau neu'n helpu'r gwledydd hyn i addasu i newid yn yr hinsawdd, neu'r ddau.
Mae Costa Rica wedi arwyddo dau gytundeb o'r fath gyda'r Unol Daleithiau. Mae dyled gwerth cyfanswm o $53 miliwn o ddoleri’r UD (£42 miliwn) wedi'i chyfnewid o dan y cytundeb ar gyfer coedwigo (plannu coed mewn ardaloedd lle nad oedd coedwigoedd o'r blaen) a phrosiectau cadwraeth, gan alluogi Costa Rica i ddatblygu fel hyrwyddwr hinsawdd.
Yn Barbados, drwy wneud cyfnewidiad dyled-am-hinsawdd gwerth $150 miliwn o ddoleri’r UD, rhyddhawyd $50 miliwn o ddoleri’r UD mewn cyllid ar gyfer cadwraeth forol.
Fodd bynnag, nid yw cynigion o'r fath yn gyfyngedig i aelodau CVF. Mae gwledydd datblygedig eraill nad ydynt yn aelodau o'r CVF wedi ymrwymo i gytundebau tebyg. Llofnododd Periw, er enghraifft, gynnig gyda'r Unol Daleithiau i sianelu mwy na $20 miliwn o ddoleri’r UD o ddyled ar gyfer gwaith amddiffyn a chadwraeth tri maes blaenoriaeth yn Amason Periw, gydag effeithiau cadarnhaol i'r hinsawdd.
Gyda’r gwledydd mwyaf agored i niwed yn colli 20% o’u cynnyrch domestig gros dros ddau ddegawd cyntaf y ganrif, a chyda’u dyled yn cynyddu i lefelau anghynaliadwy, gall cyfnewid dyled-am-hinsawdd helpu’r gwledydd gwannaf i gyfrannu at weithredu ar newid hinsawdd ac adeiladu gwytnwch.
Ffyniant hinsawdd
Er bod gwledydd datblygedig yn ystyried y trawsnewid ynni fel strategaeth dwf newydd, mae aelodau CVF yn ei ystyried fel cyfle i ailfeddwl am dwf a thrawsnewid eu systemau cymdeithasol ac economaidd. Maent yn blaenoriaethu llesiant ochr yn ochr â thwf economaidd ac yn cysylltu gweithredu ar yr hinsawdd â mesurau cymdeithasol eraill fel incwm sylfaenol cyffredinol, cyfranogiad, cydraddoldeb rhywiol a chynwysoldeb.
Mae cynlluniau ffyniant hinsawdd gwledydd datblygedig – dyna eu strategaethau i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol – yn sicrhau cydbwysedd newydd rhwng cefnogi busnes a hawliau dynol. Mae cynllun ffyniant hinsawdd Sri Lanka yn canolbwyntio ar amddiffyn gweithwyr yn gyffredinol rhag gwres a hyrwyddo atebion sy'n seiliedig ar natur yn yr economi.
Ym mhrifddinas Sri Lanka, Colombo, mae gwlyptiroedd, gan gynnwys llynnoedd dŵr croyw a chorsydd, yn cael eu gwarchod a'u hadfer i adeiladu amddiffynfa naturiol rhag llifogydd a lleihau'r risg o dirlithriadau yn nhymor y monsŵn.
Cefnogi’r gyfraith eco-laddiad
Mae newid yn yr hinsawdd wedi dod yn fygythiad dirfodol i aelodau CVF. Yn 2019, cynigiodd dau aelod o CVF, Vanuatu a'r Maldives, ychwanegu eco-laddiad at statud Rhufain y Llys Troseddol Rhyngwladol, fel y bumed drosedd yn erbyn dynoliaeth.
Byddai'r gyfraith hon yn dal gwledydd cyfoethog yn atebol am weithredoedd ac anweithiau sy'n cyfrannu'n ddifrifol at newid yn yr hinsawdd ac yn effeithio'n andwyol ar wladwriaethau CVF yn anghymesur.
Mae deddf eco-laddiad sy'n tynnu sylw at doriad critigol o sofraniaeth y gwladwriaethau mwyaf agored i niwed yn cael ei hystyried gan lawer o weithredwyr, ysgolheigion cyfreithiol a gwleidyddion fel y dewis olaf i atal newid trychinebus oherwydd newid yn yr hinsawdd. Er nad yw'r CVF yn sefyll y tu cefn i'r cynnig hwn ar y cyd, mae sawl aelod yn ei gefnogi.
Gydag eco-laddiad bellach yn gadarn ar agenda wleidyddol hinsawdd, yn enwedig ers i’r UE basio deddf eco-laddiad yn ddiweddar, mae gan y CVF seiliau cadarn i bwyso ymhellach am ymgorffori deddf eco-laddiad mewn cyfraith ryngwladol fel arf a fydd yn amddiffyn hawliau’r presennol a chenedlaethau'r dyfodol yn y gwledydd mwyaf agored i niwed.
Heb weithredu ar y cyd, ni fydd trychinebau hinsawdd ond yn cynyddu. Mae arferion sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, fel cyfnewidiadau dyled am hinsawdd, llesiant sy’n seiliedig ar natur a chefnogi deddf eco-laddiad yn gamau i’r cyfeiriad cywir. Dylai'r polisïau hyn, a'u heiriolwyr, symud yn nes at ganol y llwyfan yn yr uwchgynhadledd hinsawdd nesaf, COP29, a gynhelir yn Baku, Azerbaijan ym mis Tachwedd.
Ailgyhoeddir yr erthygl hon o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.