Myfyrwyr arloesol yn dathlu llwyddiant mewn gradd-brentisiaeth ddigidol
26 Gorffennaf, 2024
Mae'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i gwblhau'r radd-brentisiaeth ddigidol wedi graddio o Brifysgol De Cymru (PDC).
Ar ôl dechrau yn 2019 gyda'r israddedigion sydd bellach wedi derbyn eu graddau, mae 79 bellach yn astudio tuag at y cymhwyster, gyda disgwyl i tua 30 arall ddechrau'r cwrs ym mis Medi.
Dechreuodd y rhaglen gyda thri phartner - y partner arweiniol Capgemini, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a Flintec. Mae bellach wedi tyfu i gynnwys eraill fel Admiral, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Thales, Bridewell, De Novo Solutions, GIG Cymru, Tŷ'r Cwmnïau, a Sony.
Mae'r radd-brentisiaeth yn adlewyrchu cyrsiau tebyg eraill a gynhelir gan PDC, gan ganolbwyntio ar yr angen i bartneriaid yn y diwydiant arwain a chefnogi'r cwricwlwm fel bod gan raddedigion y sgiliau cywir i ffynnu yn eu sector dewisol.
"Datblygwyd y cwrs o'r cwrs BSc Cyfrifiadureg cyfredol sy'n canolbwyntio'n fawr ar sgiliau craidd," meddai Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Cwrs PDC, Ian Fitzell
"Caiff hyn ei ategu trwy fewnwelediad a mewnbwn gan ein partner datblygu Capgemini i sicrhau bod y cwrs yn addas ac wedi'i dargedu ar gyfer anghenion diwydiant.
"Mae'r dull dysgu hefyd yn wahanol i gwrs gradd traddodiadol, yr amgylchedd dysgu heriol lle caiff darlithoedd eu cynnal ar-lein a’u hategu gan ddysgu wyneb yn wyneb am un wythnos o dri.
"Gan fod hyn yn cael ei redeg dros flwyddyn galendr, mae'n dipyn o ymrwymiad i'r prentisiaid, ond mae'r dull hwn o astudio yn rhoi'r cyfle i gydbwyso gwaith, addysg a bywyd personol i ffwrdd o'r ddau.
"Ac mae'n amlwg yn gweithio - o'r 13 myfyriwr sy'n graddio’r mis hwn, mae gan 12 radd dosbarth cyntaf ac mae un wedi cyflawni 2:1, sy'n set drawiadol iawn o ganlyniadau ac sy’n profi eu hymrwymiad i'w cyflogwyr a'u gyrfaoedd eu hunain."
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: "Roedd yn wych cwrdd â graddedigion y gradd-brentisiaeth ddigidol wrth iddynt ddathlu derbyn eu graddau, a chlywed rhai o'u straeon ysbrydoledig.
"Mae gradd-brentisiaethau yn dangos yn berffaith beth yw pwrpas PDC, gan roi'r addysg sydd ei hangen ar ein myfyrwyr i ffynnu yn eu sectorau dewisol a chefnogi eu taith, sut bynnag y maent yn dewis astudio, tuag at yrfa lwyddiannus.
"Mae'n braf gwybod y bydd eraill yn cerdded yn ôl traed y grŵp arloesol hwn, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw a'n partneriaid yn y diwydiant i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol."
Mae ACC yn un o bartneriaid sefydlol y cwrs israddedig. Mae ACC yn gyfrifol am reoli dwy dreth ddatganoledig, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi. Creodd ACC system ddigidol i helpu i gasglu'r trethi’n barod ar gyfer mynd yn fyw ar 1 Ebrill 2018.
Dywedodd Anthony Pritchard, Prif Swyddog Digidol ACC: "Mae wedi bod yn foddhaol iawn gweld ein prentisiaid yn datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad i ddod yn aelodau allweddol o'n tîm digidol. A hoffem ddiolch i Brifysgol De Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o'r cynllun cyffrous hwn.
"Rydym yn awdurdod treth gwmwl ac rydym yn ymrwymedig i gynnig y profiad digidol gorau i'n cwsmeriaid. Mae ein prentisiaid wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ein helpu i dyfu ein gallu digidol mewnol wrth hefyd wella ein gwasanaethau treth ar-lein ar yr un pryd.
"Cafodd pob un o'n prentisiaid ganlyniadau trawiadol, trwy waith caled ac ymrwymiad, a diolch i nifer o gydweithwyr mewnol sydd wedi eu cefnogi ar eu taith yn ACC."