O Gymru i Lwyfan y Byd - taith Joanna i Gemau Olympaidd 2024

25 Gorffennaf, 2024

Mae Joanna yn sefyll gyda breichiau wedi'u croesi a gwenu wrth y camera. Mae hi'n gwisgo crys-t du gyda'r logo 'Surfing Australia'.

Eleni, am yr eildro yn unig, bydd syrffio yn rhan o'r Gemau Olympaidd. Mae Dr Joanna Parsonage, a raddiodd o Brifysgol De Cymru (PDC), yn Rheolwr Ymchwil ac Arloesi yn Surfing Australia ac mae ei rôl yn allweddol i lwyddiant tîm Awstralia wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu.

Ar ôl astudio am ei gradd ôl-raddedig mewn Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol De Cymru (Prifysgol Morgannwg ar y pryd), ymfudodd Joanna yn ddiweddarach i Awstralia i ddechrau ar PhD gyda Surfing Australia a fyddai’n arwain at newid byd iddi.

Yn PDC, roedd ymchwil Joanna yn canolbwyntio ar hyfforddi cryfder a chyflyru, a dyma oedd yr ysgogiad i’r hyn a ddaeth nesaf iddi. Meddai: “Yn ystod fy astudiaethau, llwyddais i gael lleoliad gwaith gyda thîm rygbi academi Gleision Caerdydd. Ar ôl cwblhau'r radd Meistr, fe wnes i gadw fy nghyswllt â Rygbi Cymru a gweithio gyda Tennis Cymru hefyd. Ond yn ystod fy ngradd israddedig roeddwn i wedi cymryd blwyddyn allan yn Awstralia, ac roeddwn i wastad yn gwybod fy mod i eisiau mynd nôl yna.

“Dyma gyfle’n godi i wneud PhD gyda Surfing Australia, ond doedd gwneud PhD ddim ar fy radar o gwbl, doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon clyfar.

“Yn ogystal â hyn, mae gwneud cais am ysgoloriaeth ryngwladol i wneud PhD yn ddrud ac yn gymhleth. Mae angen i chi ennill nifer penodol o bwyntiau i gael eich ystyried. Mae’r rhain yn cael eu cyfrif ar sail eich lefelau astudio a phethau fel gwaith ymchwil rydych chi wedi’i gyhoeddi (cafodd traethawd fy ngradd meistr ei gyhoeddi yn y Journal of Strength and Conditioning and Research).

“Yn ffodus, dyma Gymdeithas Cryfder a Chyflyru y Deyrnas Unedig yn cadarnhau hefyd fy mod i wedi ennill Gwobr yr Ymchwilydd Ifanc felly roedd gen i ddigon o bwyntiau i wneud cais. Fe gefais i gyfweliad a phum mis yn ddiweddarach, roeddwn i ar awyren.”

Gwnaeth Joanna, sy’n wreiddiol o Abertawe, gwblhau’r PhD yn 2018. Y flwyddyn ganlynol, dyma glywed eu bod am gyhoeddi bod syrffio yn gamp Olympaidd.

“Fe wnaeth fy rôl drawsnewid wedyn o fod yn Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru ar gyfer Surfing Australia. Gyda chyhoeddiad y Gemau Olympaidd, fe wnaeth fy rôl esblygu i fod yn 50% cryfder a chyflyru a 50% ymchwil ac arloesi,” meddai.

Yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 (a gynhaliwyd yn 2021 oherwydd pandemig Covid-19), enillodd tîm Awstralia fedal efydd yng nghategori’r dynion. Dywedodd Joanna: “Fe wnaeth Covid newid popeth. Roedd tri ohonom mewn cwarantîn gyda'n gilydd yn cynnal y dadansoddiad perfformiad mewn ystafell fach. Ond roedd yn wych i’r gamp fod yn rhan o’r gystadleuaeth honno a llwyddo i ennill medal yn ein Gemau Olympaidd cyntaf erioed.”

Ar gyfer y cylch Olympaidd hwn, yn arwain i Baris, trodd gwaith Joanna i fod yn rôl ymchwil ac arloesi amser llawn. Bydd y rhagbrofion syrffio yn cael eu cynnal yn Tahiti, Polynesia Ffrengig, ond bydd Joanna a’r Dadansoddwr Perfformiad Arweiniol, Reuben Koorey, yn gweithio yn Canberra yn yr Hwb Dadansoddi Perfformiad yn Sefydliad Chwaraeon Awstralia.

“Heb i mi ddatgelu gormod, fe fyddwn ni’n casglu data a fydd yn helpu i lywio’r athletwyr a’r hyfforddwyr o ran y strategaethau y gallan nhw eu rhoi ar waith mewn rhagras. Yn y cyfnod cyn y Gemau Olympaidd, rydyn ni hefyd wedi bod yn cynnal ymchwil hynod ddiddorol,” meddai.

“Fy angerdd yw perfformiad menywod. Yn Tahiti mae rhai o’r tonnau mwyaf a pheryclaf yn y byd, ac 14 mlynedd yn ôl fe gafodd syrffwyr benywaidd eu gwahardd rhag cystadlu yno. Felly, dyw ein syrffwyr benywaidd erioed wedi syrffio yno, a dim ond tair blynedd oedd i’w cael nhw’n barod.

“Fe wnaethon ni hefyd greu prosiect ymchwil tair blynedd o'r enw 'Paddle to Podium' sydd yn y bôn yn edrych ar sut y gallwn ni wneud y gorau o dechneg padlo a sbrint badlo. Mae gennym ni ddau fyfyriwr PhD yn edrych ar y nodweddion sy’n arwain at well perfformiad sbrint badlo a pha ymyriadau y gallen ni eu rhoi ar waith i’n hathletwyr benywaidd ar y lefel uchaf er mwyn gwella.”

Bu Awstralia yn gartref i Joanna ers 10 mlynedd. Mae’n byw ar hyn o bryd yng ngogledd New South Wales, ac mae’n gwneud cais am ddinasyddiaeth, ond mae ganddi gysylltiadau cryf o hyd â PDC, a goruchwylydd ei gradd Meistr, Dr Morgan Williams.

“Mae gen i gyswllt hefyd â Phrifysgol Griffith fan hyn ac rwy bob amser yn edrych am gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau ymchwil,” meddai.

“Pan fydda i’n rhoi sgyrsiau i fyfyrwyr sydd eisiau gweithio ym maes chwaraeon proffesiynol, rydw i’n siarad yn realistig ynglŷn â faint o ymdrech mae’n ei gymryd i gael y swyddi hyn ac i ddringo’r ysgol fel rwyf i wedi’i wneud. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn angerddol am y maes a gweithio’n galed, manteisio ar gyfleoedd interniaeth a meithrin perthnasoedd allweddol, achos dydych chi byth yn gwybod pryd y byddan nhw o fudd i chi.”