PDC yn ehangu cynnig gradd-brentisiaethau gyda chyrsiau sector adeiladu
9 Gorffennaf, 2024
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn un o dri sefydliad yng Nghymru a fydd yn cynnig gradd-brentisiaethau newydd yr hydref hwn.
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd PDC yn lansio gradd-brentisiaethau mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg Sifil, Tirfesur Meintiau, Tirfesur Adeiladau, a Thir ac Eiddo ym mis Medi
Bydd y rhaglenni pedair blynedd, a ariennir yn llawn, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd wrth ennill profiad ymarferol ar yr un pryd. Byddant yn cael eu cynnal yn PDC, Prifysgol Wrecsam, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd Louise Pennell, Deon Cyswllt Partneriaethau a Datblygu yng Nghyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth PDC: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r ymgyrch newydd hon i ddatblygu'r sector adeiladu, yr amcangyfrifir y bydd angen 11,000 o weithwyr ychwanegol arnynt erbyn 2028.
"Yn PDC mae gennym arbenigedd helaeth mewn cynnal y llwybrau astudio hyn. Dim ond y llynedd roeddem yn bartner allweddol yn lansiad y gradd-brentisiaethau peirianneg rheilffyrdd cyntaf yng Nghymru, cwrs sydd eisoes wedi bod yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr a'r rhai sy'n gweithredu yn y sector.
"Bydd y gradd-brentisiaethau newydd hyn yn creu cyfleoedd newydd i unigolion a chwmnïau sy'n gweithredu yn y diwydiant adeiladu, ac yn cadarnhau ymhellach ein henw da fel sefydliad sy’n flaenllaw o ran cynhyrchu graddedigion sy'n barod am swyddi, ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn sectorau hanfodol.
"Os oes unrhyw unigolion neu gyflogwyr am fanteisio ar y cyrsiau hyn, byddem yn eu hannog i gysylltu â ni."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles: "Mae'r rhaglenni hyn nid yn unig yn paratoi unigolion ar gyfer swyddi y mae galw uchel amdanynt a galwedigaethau cyflog uwch, ond byddant hefyd yn sicrhau gweithlu medrus, gwydn a blaengar i hybu twf economaidd a darparu atebion arloesol i heriau cymdeithasol a hinsawdd."
Bydd y rhaglen yn cael ei rheoli gan Medr, a bydd cyrsiau'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).