Straeon Graddio: Dychwelyd i addysg yn gyrru uchelgais Abbi i adeiladu bywyd delfrydol i'w mab

15 Gorffennaf, 2024

Abbi Smith yn ei chap graddio a'i gŵn

Mae Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd unwaith eto wedi gweld miloedd o’n graddedigion yn croesi’r llwyfan yn eu cap a’u gŵn. I ddathlu, rydym yn rhannu storïau rhai o’n myfyrwyr ysbrydoledig.

Roedd addysg yn heriol i Abbi Smith pan oedd yn ei harddegau, gan adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ar ôl ei chael yn anodd ffynnu yn yr amgylchedd dysgu.

Nawr, 15 mlynedd yn ddiweddarach, mae hi ar fin graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol o Brifysgol De Cymru (PDC) ac yn edrych ymlaen, gobeithio, at symud i Seland Newydd i ddechrau bywyd newydd.

Mae llwybr Abbi i gymhwyster prifysgol o’r radd flaenaf wedi bod yn un hir mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig gan ei bod wedi gweld llawer mwy o’r byd na’r rhan fwyaf o bobl ei hoedran hi.

“Doedd yr ysgol ddim yn wych i mi,” meddai Abbi, 31, o Gaerdydd, sydd bellach yn byw yn Ynysowen. “Fe wnes i dorri fy nghoes a chael rhai problemau iechyd, ac yna cael ychydig o heriau gyda'r ysgol, felly peidio â bod eisiau mynd. Doeddwn i ddim yn mwynhau dysgu yn arbennig bryd hynny.”

Ar ôl gadael yr ysgol ac ar ôl datrys ei phroblemau iechyd, gweithiodd Abbi am bedair blynedd fel gofalwr. Gan sylweddoli nad oedd hon yn yrfa yr oedd am ei dilyn yn y tymor hir, penderfynodd dderbyn cynnig a fyddai'n newid ei bywyd.

“Roeddwn i’n siarad gyda fy nghefndryd yn Marahau, sydd yn Abel Tasman, rhan fwyaf gogleddol Ynys De Seland Newydd, ac fe wnaethon nhw awgrymu i mi fynd yno i weithio mewn hostel sydd ganddyn nhw,” meddai. “Roedd yn benderfyniad cyflym, ond penderfynais dderbyn eu cynnig a dyna le newidiodd fy mywyd.”

Roedd symud i Seland Newydd yn agoriad llygad go iawn i Abbi, wrth iddi syrthio mewn cariad â'r wlad a'r ffordd o fyw yr oedd yn ei chynnig. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o flynyddoedd, teimlai'r angen i ledaenu ei hadenydd eto ac aeth i weld rhannau eraill o'r byd.

“Ar ôl i mi aros yn Seland Newydd am ddwy flynedd es i wedyn i Awstralia am flwyddyn, yna aros tri mis yng Nghanada, ac yna gwneud cyfnod yn yr Aifft,” meddai Abbi. “Pryd bynnag y rhedais i allan o arian o deithio, ro'n i'n stopio a chael swydd.”

Ar ôl mwynhau'r ffordd o fyw crwydrol am rai blynyddoedd, penderfynodd Abbi, fodd bynnag, ei bod yn bryd edrych i'r dyfodol a gosod ei golygon ar gynllun hirdymor a fyddai'n caniatáu iddi setlo i lawr.

“Pan oeddwn i tua 26 oed penderfynais ei bod hi’n amser dod yn ôl i Brydain a chael y cymwysterau sydd eu hangen i setlo nôl yn Seland Newydd,” meddai. “Heb y cymwysterau cywir doedd dim ffordd o fyw yno.”

Ar ôl gwneud y penderfyniad, taflodd Abbi ei hun i mewn i ddysgu er mwyn iddi allu mynd i'r brifysgol, gan gymryd y cyrsiau angenrheidiol i sicrhau lle. Dyna pryd y wynebodd her arall.

“Roeddwn wedi cael endometriosis, a phan es i lawdriniaeth ar gyfer y cyflwr dywedwyd wrthyf y byddai angen i mi gael babi o fewn blwyddyn neu efallai na fyddai'n digwydd,” meddai.

“Felly deuthum yn feichiog tra'n dal i astudio, ac yna cyrhaeddodd y babi dri mis cyn i mi wneud fy arholiadau. Diolch byth roedd gen i ddigon o gefnogaeth o’m cwmpas i ddod drwodd a chael fy lle yn PDC, gan ddechrau pan roedd fy mab newydd droi un.” 

Felly nawr gyda gradd i'w henw, a chynlluniau i barhau mewn addysg, mae Abbi yn dod yn nes at ei nod eithaf o fagu ei mab yn Seland Newydd.

“Ers i mi aros yno am rai blynyddoedd roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle rydw i eisiau magu plentyn,” meddai.

“Tra yn Seland Newydd ro’n i’n nabod dynes oedd â dau o blant ifanc, a’u ffordd o fyw oedd dod adref o’r ysgol a mynd i syrffio neu badlfyrddio, neu fe fydden nhw allan yn dringo creigiau ac ym myd natur. Draw yma mae'r plantos yn mynd adref ac yn chwarae ar yr Xbox. Roeddwn i eisiau dod yn llawer agosach at natur a chael gwell ffordd o fyw i fy mab.”

Roedd y cwrs yn PDC hefyd yn caniatáu i Abbi ddilyn ei diddordebau – anifeiliaid a chadwraeth.

“Rydw i wastad wedi bod eisiau gweithio gydag anifeiliaid. Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i eisiau bod yn filfeddyg,” meddai Abbi.

“Ond pan es i i deithio, sylweddolais pa mor wych yw'r byd, a sylweddolais hefyd sut yr oedd yn mynd ar ei oriwaered yn gyflym. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth ym maes cadwraeth i helpu'r anifeiliaid sy'n dioddef oherwydd ein mewnbwn i'r blaned.

“Hefyd, oherwydd fy machgen bach, roedd yn achos o sylweddoli bod rhaid gwneud rhywbeth yn fuan. Nid wyf yn dweud y gallaf drwsio'r cyfan fy hun, ond bydd siawns, pan fydd yn hŷn, na fydd yn cael gweld yr anifeiliaid yr wyf wedi'u gweld, y byddant i gyd wedi diflannu, a dydw i ddim eisiau hynny.”