Adeilad Clinig Ceiropracteg newydd yn cyrraedd carreg filltir enfawr

9 Hydref, 2024

Kier Construction a PDC yn dathlu seremoni topio allan ar do'r Clinig Ceiropracteg newydd

Mae Clinig Ceiropracteg newydd Prifysgol De Cymru (PDC), sy’n cael ei adeiladu ar Gampws Trefforest, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ar ôl cwblhau ei brif strwythur.

Cynhaliodd Kier Construction, y contractwyr a benodwyd i adeiladu’r clinig, a PDC ‘seremoni dathlu’ i ddathlu cynnydd y prosiect, wrth i’r adeilad gyrraedd ei bwynt uchaf.

Disgwylir i'r clinig gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025, a bydd yn disodli'r cyfleuster presennol ym Mharc Busnes William Price, gan ddod â'r holl elfennau dysgu, addysgu ac ymarferol i'r un safle am y tro cyntaf ers i gwrs gradd Meistr mewn Ceiropracteg (MChiro) PDC ddechrau ym 1997.

Wedi’i ddylunio gan dîm o benseiri o Stride Treglown o Gaerdydd, bydd yr adeilad deulawr 975 metr sgwâr yn cynnwys 26 ystafell driniaeth, DXA (dwysedd esgyrn) ac ystafelloedd sganio uwchsain, ystafell seminar a mannau cymorth i fyfyrwyr a chydweithwyr, ymhlith llawer mwy o gyfleusterau.

Mae Quantum CLS, sef ymgynghoriaeth rheoli prosiect a mesur meintiau yng Nghaerdydd, hefyd yn gweithio ar y prosiect fel ymgynghorwyr costau ar ei faterion masnachol. Mae Quantum CLS yn cyflogi nifer o raddedigion PDC sy'n cymryd rhan weithredol yn y gwaith adeiladu ac yn darparu cymorth hanfodol i dîm y prosiect.

Mae’n cael ei adeiladu gyda chynaliadwyedd wrth wraidd y dyluniad i sicrhau bod yr adeilad mor wydn ac ynni effeithlon â phosibl, gan gefnogi nod PDC i ddod yn garbon niwtral erbyn 2040.

Mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar a datblygu to Glas / Gwyrdd - to fflat sy'n storio dŵr glaw ac yn caniatáu iddo gael ei wasgaru'n araf i'r rhwydwaith draeniau, gan gadw'r adeilad yn oer yn ogystal â chynnal bywyd gwyllt.

Mae adeilad y Clinig bellach wedi’i ddiogelu rhag y tywydd, gan ddefnyddio system fframio dur a chladin arbenigol, ac mae ei ffenestri wedi’u gosod. Bydd hyn yn galluogi Kier i symud ymlaen gyda’r gwaith mewnol, gan gynnwys gosod waliau mewnol, gosodwaith mecanyddol a thrydanol llawn a goleuadau LED.

Dywedodd Mark Milton, Prif Swyddog Gweithredu PDC: “Mae PDC yn falch iawn o’r datblygiad hwn. Mae ein Clinig Ceiropracteg yn sefydliad addysgol llwyddiannus iawn, sy'n addysgu bron i 100 o fyfyrwyr y flwyddyn y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol i fod yn ymarferwr da, gofalgar.

“Mae’r myfyrwyr hyn yn dod o bedwar ban byd i astudio gyda ni ac eto mae’r 25,000 o driniaethau maen nhw’n eu cynnig mewn blwyddyn yn cefnogi’r gymuned leol yn bennaf. Bydd y gwerth a gynigir gan y cyfleuster newydd hwn yn anfesuradwy o ran darparu amgylchedd astudio modern, integredig ac addas at y diben. Mae ein partneriaid adeiladu, Kier, wedi bod yn wych yn y ffordd y maent wedi gweithio gyda ni i ddarparu adeiladwaith da a rheoli safle cymhleth yn ddiogel ar gampws prifysgol weithredol.”

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr rhanbarthol yn Kier Construction Western & Wales: "Mae cwblhau'r prif strwythur yn garreg filltir arwyddocaol i'r prosiect hwn ac mae'n un yr ydym yn hynod falch o fod wedi'i chyrraedd. Rydym wrth ein bodd ein bod yn parhau â'n perthynas â Phrifysgol De Cymru, ar ôl darparu'r Parc Chwaraeon ym Mhontypridd yn flaenorol."

Ymgymerodd Jaren Cervantes, myfyrwraig Peirianneg Sifil yn ei hail flwyddyn yn PDC, leoliad dau fis gyda Kier dros yr haf, a oedd yn cynnwys sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, ar amser ac yn unol â lluniadau dylunio.

Fel rhan o hyn, cwblhaodd adroddiadau cynnydd ar y gwaith gan bob is-gontractwr, olrhain cyflenwadau, a sicrhau bod arwyddion diogelwch a ffensys yn eu lle o amgylch y safle i helpu i atal damweiniau.

Dywedodd: “Fe wnes i fwynhau fy amser gyda Kier ar y safle yn fawr. Roedd pawb, o dîm y prosiect i is-gontractwyr, yn groesawgar iawn, yn gymwynasgar ac yn hapus i ateb fy nghwestiynau. Roedd yn fewnweledol iawn gan fy mod yn gallu gwylio cynnydd yr adeilad a chael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae’r broses adeiladu yn gweithio.”

Disgwylir i'r Clinig groesawu cleifion newydd o haf 2025.