Dathlu ymchwil ysbrydoledig yng Ngwobrau Ymgysylltu ac Effaith PDC 2024
30 Hydref, 2024
Cynhaliodd Prifysgol De Cymru ei Gwobrau Ymgysylltu ac Effaith ddydd Iau 24 Hydref, i ddathlu ymchwil gydweithredol, cyfnewid gwybodaeth, a gweithio mewn partneriaeth ac effaith y gwaith hwnnw ar ein cymunedau a'n cymdeithas ehangach yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Croesawodd y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi, yr Athro Martin Steggall, nifer o westeion, gan gynnwys enwebeion ar y rhestr fer a’u partneriaid cydweithredol, yn y pumed gwobrau.
Eleni, cafwyd 35 o geisiadau o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ac roedd 19 ar y rhestr fer. Mae'r prosiectau ar y rhestr fer yn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw, o wella diagnosteg i ganfod clefydau heintus, i wella ymarfer gofal iechyd, gofal a diogelwch cleifion, ac o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, i ysgogi arloesedd busnes ac entrepreneuriaeth, a chefnogi’r broses o drosglwyddo Cymru i economi wyrddach.
Dywedodd yr Athro Steggall: "Yn PDC, mae ymchwil ac arloesi yn fater i bawb. Mae ein gweledigaeth yn glir, rydym am gynnal a datblygu ein galluoedd ymchwil rhagorol yn rhyngwladol a chanolbwyntio ar atebion i broblemau sy'n effeithio ar gymdeithas a'r economi.
"Mae ystod eang y prosiectau hyn yn dangos ein bod ni’n brifysgol sy'n cael ei gyrru'n broffesiynol ac sy'n ymgysylltu'n weithredol â busnesau a'r gymuned. Trwy flaenoriaethu gwaith partneriaeth a chydweithio, rydym yn gallu hybu ffyniant ein rhanbarth a'n cenedl drwy ysgogi twf economaidd."
Cyflwynwyd gwobrau mewn saith categori, pob un wedi'i gyflwyno gan westeion arbennig PDC. Yr enillwyr oedd:
Effaith ar Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
Hannah Coombs: Sbarduno Newid a Dylanwadu ar Bolisi ac Ymarfer mewn Plismona
I gwblhau rhaglen Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) ar gyfer recriwtiaid newydd yr heddlu, mae'n ofynnol i swyddogion dan hyfforddiant gynhyrchu Prosiect Ymchwil ar Sail Tystiolaeth ar bwnc sy'n ymwneud â phlismona gweithredol. Mae cymhwyso'r prosiectau ymchwil hyn wedi gwella polisi ac ymarfer yn heddluoedd partner PDC wrth i raddedigion ddefnyddio'r wybodaeth a'r arferion gorau a enillwyd o'u prosiectau ymchwil yn eu rolau plismona o ddydd i ddydd.
Effaith Amgylcheddol Gynaliadwy
Jon Maddy: Diwydiant Sero Net yng Nghymru
Mae ymchwil gan Ganolfan Hydrogen PDC, o fewn y Ganolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy, yn helpu i ddatgarboneiddio'r sectorau diwydiant trwm, trafnidiaeth ac ynni, a chyflawni ein nodau sero net. Mae'r ganolfan yn chwarae rhan ganolog yn niwydiant sero net Cymru, gan gefnogi’r broses o drosglwyddo Cymru i economi wyrddach.
Effaith ar Iechyd a Lles (Cyd-enillwyr)
Yr Athro Linda Ross: Paratoi Ymarferwyr Gofal Iechyd ar gyfer Gofal Ysbrydol
Arweiniodd ymchwil PDC i fynd i'r afael â bylchau mewn addysg gofal ysbrydol i nyrsys a bydwragedd at ddatblygu'r Fframwaith Cymhwysedd Gofal Ysbrydol. Wedi'i weithredu ym mhrifysgolion Cymru a'i fabwysiadu mewn rhaglenni ôl-gofrestru ledled Ewrop, mae'r fframwaith wedi dylanwadu ar newidiadau polisi a gwelliannau i ymarfer gofal iechyd yn rhyngwladol.
Dr Tom Owens: Cyfergyd mewn Chwaraeon – Gwella Lles Chwaraewyr
Mae cyfergydion sy'n gysylltiedig â chwaraeon yn effeithio ar filoedd o bobl ledled y byd bob blwyddyn, gan achosi pryder sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae ymchwil PDC i effeithiau hirdymor cyfergyd mewn chwaraeon fel rygbi a phêl-droed wedi sbarduno newidiadau polisi, mwy o ymwybyddiaeth, a gwell lles chwaraewyr.
Effaith ar y Diwydiannau Creadigol
Huw Swayne: Academi Sgrin Cymru
Mae cydweithio rhwng PDC a Chynghrair Sgrin Cymru wedi cynyddu talent leol o Gymru ac amrywiaeth yn y diwydiant ffilm a theledu drwy allgymorth mewn ysgolion, Colegau AB, canolfannau cymunedol a lleoliadau gan gynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, a lleoliadau myfyrwyr a staff.
Arloesedd Busnes
Dr Adam Jones: Techneg Newydd ar gyfer Dadansoddiad Garwedd Arwyneb o Linellau Pysgota â Phlu
Gan ddefnyddio arbenigedd PDC mewn ffotoneg ac electroneg, a gweithio mewn partneriaeth ag Airflo Fishing Products Ltd ac Applied Automation Ltd, aeth y prosiect i'r afael â heriau technegol hirsefydlog wrth gynhyrchu llinellau pysgota â phlu a thrwy hynny gynhyrchu cynnyrch gwell, lleihau amser segur, symleiddio’r broses rheoli ansawdd, a lleihau costau gweithredol. Mae'r gwaith wedi ennyn diddordeb gan ddiwydiannau eraill, ac mae’n tynnu sylw at ei botensial ehangach.
Effaith Ddinesig
Joanne Bowring: Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru
Mae Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP) yn gwella ymgysylltiad dinesig ac effaith gymdeithasol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy gynyddu gallu, meithrin newid diwylliannol, a chodi dyheadau addysgol ymhlith cymunedau a ymyleiddiwyd. Fel y bartneriaeth ddinesig ranbarthol gyntaf yng Nghymru, mae dull arloesol SWCEP yn cael ei ystyried ar gyfer ei ddyblygu mewn rhanbarthau eraill.
Ymgysylltu er Effaith
Dr Simon Newstead: Fframwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol
Mae gwaith gan Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSSPR) wedi safoni terminoleg presgripsiynu cymdeithasol, gan alinio’r iaith a ddefnyddir yn ymarferol â pholisi a deddfwriaeth. Mae wedi llywio Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ac wedi denu diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol.
Gwyliwch yr holl fideos ar y rhestr fer ar Youtube.